Mwy o Newyddion

RSS Icon
09 Mawrth 2017

Newidiadau i ddeisebau y Cynulliad Cenedlaethol

Bydd newidiadau i system ddeisebau Cynulliad Cenedlaethol yn golygu y bydd unrhyw ddeiseb sy'n cyrraedd 5,000 o lofnodion yn cael ei hystyried yn awtomatig ar gyfer dadl gan y Cynulliad llawn.

Cytunwyd ar y newidiadau gan y Cynulliad Cenedlaethol yn ystod y Cyfarfod Llawn yn y Senedd ddydd Mercher a byddant yn dod i rym ar unwaith.

Mae deisebau'r Cynulliad, gan gynnwys e-ddeisebau, yn un o'r ffyrdd mwyaf uniongyrchol y gall pobl ddylanwadu ar waith Aelodau'r Cynulliad, ac mae'r system sydd ar waith yn y Senedd wedi cael ei nodi fel patrwm i'w ddilyn gan sefydliadau eraill ledled y byd.

Er 2007, pan ddechreuodd y broses ddeisebu bresennol, mae dros 700 o deisebau, a chanddynt dros 500,000 o lofnodion, wedi cael eu trafod naill ai gan y Pwyllgor Deisebau presennol neu gan yr un blaenorol.

Yn 2016 arweiniodd adolygiad at nifer o argymhellion a luniwyd gyda'r bwriad o amddiffyn uniondeb system ddeisebau'r Cynulliad a'i gwneud yn fwy ymatebol.

Dyma'r argymhellion sy'n cael eu rhoi ar waith:

  • Y Pwyllgor Deisebau i ystyried cynnal dadl lawn yn awtomatig ar gyfer unrhyw ddeiseb sy'n cyrraedd trothwy llofnodion;
  • Dim ond pobl sy’n byw yng Nghymru neu sefydliadau sydd â swyddfa yng Nghymru a ddylai gael cyflwyno deisebau. Ni ddylid cael cyfyngiadau ar y rhai sydd am lofnodi deiseb; a
  • dylid cael gwared ar y trothwy deuol presennol ar gyfer llofnodion a newid y trothwy i 50 o lofnodion ar gyfer ystyried deiseb.

"Mae system ddeisebau'r Cynulliad Cenedlaethol yn cael ei ystyried, yn gwbl briodol, fel meincnod ar gyfer deddfwrfeydd eraill o ran gwneud sefydliad democrataidd yn fwy ymatebol i bryderon pobl," meddai Mike Hedges AC, Cadeirydd y Pwyllgor Deisebau.

"Mae'n un o'r ffyrdd mwyaf uniongyrchol o ddylanwadu ar waith y Cynulliad Cenedlaethol, ac o roi sylw i faterion sydd o bwys i bobl."

Mae'r Pwyllgor Deisebau wedi pennu trothwy enwol o 5,000 o lofnodion er mwyn ystyried deiseb ar gyfer dadl, ond gallai hefyd ystyried deisebau gyda llai o lofnodion gan ddibynnu ar amgylchiadau megis perthnasedd y ddeiseb a'r amseriad.

Drwy godi'r trothwy o ran isafswm llofnodion a'i gwneud yn ofynnol bod y rhai'n sy'n cyflwyno deisebau fod yn byw neu wedi'i leoli yng Nghymru, mae'r Pwyllgor yn credu y bydd y newidiadau yn sicrhau cydbwysedd rhwng diogelu natur agored system ddeisebau y Cynulliad a chyfrannu at gynyddu hygrededd y broses ddeisebu.

Dywedodd Mr Hedges: "Bydd y newidiadau y mae'r Cynulliad wedi pleidleisio drostynt yn sicrhau y bydd deisebau sydd â llawer o gefnogaeth yn cael eu hystyried a'u trafod yn gyflym gan y Cynulliad llawn.

"Bydd y newidiadau eraill a wnaed gennym yn sicrhau uniondeb y system ddeisebu wrth warchod ei natur agored yr un pryd."

Mae newid arall yn dileu'r gwahaniaeth rhwng person a sefydliad, sy'n golygu, am y tro cyntaf, y bydd angen yn awr i'r ddau gyrraedd yr isafswm ar gyfer llofnodion er mwyn i ddeiseb fod yn gymwys i'w hystyried

Gwnaed pob un o'r newidiadau yn sgil proses ymgynghori â deisebwyr, rhanddeiliaid a phobl Cymru.

Rhannu |