Mwy o Newyddion

RSS Icon
08 Mawrth 2017

Cyhoeddi rhestr fer Gwobrau Tir na n-Og 2017

Cyhoeddodd Cyngor Llyfrau Cymru y teitlau sydd ar restr fer Gwobrau Tir na n-Og 2017. Cyflwynir y gwobrau’n flynyddol gan y Cyngor Llyfrau i anrhydeddu gwaith gwreiddiol gan awduron ac arlunwyr llyfrau plant yn y Gymraeg a’r Saesneg.

Noddir y gwobrau, sy’n cydnabod safon aruchel llyfrau plant a phobl ifanc yng Nghymru yn y ddwy iaith, gan CILIP Cymru (Sefydliad Siartredig Llyfrgellwyr a Gweithwyr Gwybodaeth Cymru) a’r Cyngor Llyfrau.

Dywedodd W. Gwyn Lewis, Cadeirydd y Panel Llyfrau Cymraeg: “Rhaid llongyfarch y gweisg am yr amrywiaeth deniadol o lyfrau a gyhoeddwyd ganddynt … Mae sicrhau amrywiaeth o ddeunydd darllen apelgar ... yn gwbl allweddol os ydym am feithrin darllenwyr annibynnol sy’n cael mwynhad a phleser o ddarllen llyfrau Cymraeg i’r dyfodol.”

Nododd John Humphreys, Cadeirydd y Panel Llyfrau Saesneg, mai testun balchder oedd bod pump o’r llyfrau a ystyriwyd eleni yn rhai a gafodd eu hysgrifennu gan awduron newydd.

Ategodd Helgard Krause, Prif Weithredwr y Cyngor Llyfrau: “Y mae’r llyfrau sydd wedi cyrraedd y rhestr fer eleni yn arwydd o safon arbennig llyfrau plant a phobl ifanc yng Nghymru, a thestun balchder mawr yw gweld trawstoriad o awduron ifanc a newydd, yn ogystal â rhai wynebau cyfarwydd, yn dod i’r brig.”

Teitlau’r rhestr fer Gymraeg:

  • ABC Byd Natur gan Luned Aaron (Gwasg Carreg Gwalch)

Trwy gyfrwng y lluniau collage gwreiddiol o wahanol wrthrychau a delweddau o fyd natur, caiff y plentyn ifanc ei hudo i fynd ar daith natur yng nghwmni llythrennau’r wyddor Gymraeg.

  • Deg Chwedl o Gymru gan Meinir Wyn Edwards, darluniwyd gan Gini Wade a Morgan Tomos (Y Lolfa)

Cyflwynir cyfoeth ein traddodiad llafar chwedlonol yn effeithiol trwy gyfrwng y detholiad hwn, a chaiff y darllenydd gyfle i ddod i adnabod gwahanol ardaloedd o Gymru yn sgil y chwedlau a ddewiswyd.

  • Dim Ond Traed Brain gan Anni Llŷn, darluniwyd gan Valériane Leblond (Gomer)

Ceir cyfuniad trawiadol o 21 o gerddi newydd gan Fardd Plant Cymru, Anni Llŷn, a lluniau hudolus Valériane Leblond o fewn cloriau’r gyfrol hyfryd hon.

  • Yr Argae Haearn gan Myrddin ap Dafydd, darluniwyd gan Graham Howells (Gwasg Carreg Gwalch)

Nofel lawn cyffro am hanes trigolion cymuned Cwm Gwendraeth Fach yn Sir Gaerfyrddin yn mynd ati i wrthwynebu boddi eu tiroedd a’u cartrefi dan ddŵr yn ystod haf 1963.

  • Pluen gan Manon Steffan Ros (Y Lolfa)

Nofel sy’n archwilio nifer o themâu cyfoethog a heriol wrth adrodd stori Huw, bachgen 12 oed sy’n mynd ati i weithio ar brosiect hanesyddol am yr Ail Ryfel Byd dros wyliau’r haf.

Teitlau’r rhestr fer Saesneg:

  • Alien Rain gan Ruth Morgan (Firefly Press)

Nofel ffug-wyddonol wedi ei gosod ar y blaned Mawrth yn 3016, lle mae’r cymeriadau’n byw o dan gromen fawr mewn fersiwn llai o ddinas Caerdydd.

  • Sweet Pizza gan Giancarlo Gemin (Nosy Crow)

Mae Joe, bachgen 14 oed o Fryn-mawr yng Ngwent, yn falch o’i dras Eidalaidd ac yn addo goresgyn y rhwystrau sy’n ei wynebu er mwyn achub busnes y teulu.

  • The Haunting of Jessop Rise gan Danny Weston (Andersen Press)

Nofel arswyd lawn dirgelwch wedi ei lleoli ger Porthmadog, sy’n adrodd hanes brawychus bachgen 14 oed o’r enw William.

Dywedodd Helen Jones, Pennaeth Adran Llyfrau Plant a Hyrwyddo Darllen y Cyngor Llyfrau: "Y mae'r amrywiaeth o lyfrau sydd ar y rhestr fer eleni yn galonogol dros ben. Ein nod yw meithrin cariad at ddarllen mewn plant o'r ieuengaf i'r hynaf."

Bydd enwau enillwyr y gwobrau Cymraeg (cynradd ac uwchradd) yn cael eu cyhoeddi ar lwyfan Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd, Pen-y-bont ar Ogwr, Taf ac Elái, dydd Iau, 1 Mehefin.

Cyhoeddir enillydd y wobr Saesneg yng nghynhadledd CILIP Cymru yn Llandudno ddydd Iau, 11 Mai.

Rhannu |