Mwy o Newyddion

RSS Icon
08 Mawrth 2017

Angen rhoi diwedd ar gyni ariannol a buddsoddi yn ein gwasanaethau cyhoeddus

Mae Mark Drakeford, yr Ysgrifennydd Cyllid, wedi ymateb i Gyllideb Ddrafft y Gwanwyn Llywodraeth y DU.

Roedd Cyllideb y Gwanwyn yn cynnwys £149m o gyllid refeniw ychwanegol rhwng 2017-18 a 2019-20 a £52m o gyllid cyfalaf ychwanegol i Gymru rhwng 2017-18 a 2020-21.

Dywedodd Mark Drakeford: "Cyn y Gyllideb, ysgrifennais at Brif Ysgrifennydd y Trysorlys i amlinellu fy mhryderon ynghylch bwriad Llywodraeth y DU i fwrw ymlaen â thoriadau o £3.5bn i wariant cyhoeddus yn 2019-20.

Nid ydym yn glir eto beth fydd hyd a lled y toriadau arfaethedig hyn, a allai achosi gostyngiad o £175m yn ein Cyllideb.

"Ni fydd adolygiad effeithlonrwydd Llywodraeth y DU yn adrodd yn ôl tan yr Hydref.

"Nid wyf yn barod i aros tan hynny i ganfod beth fydd effaith toriadau pellach i’n cyllideb.

"Rwy’n ceisio sicrwydd brys gan Lywodraeth y DU y byddwn yn trafod canfyddiadau cynnar ymhell cyn yr hydref.

“Yn y cyfnod ansicr hwn, rydyn ni wedi bod yn glir bod angen rhoi diwedd ar gyni ariannol a buddsoddi yn ein gwasanaethau cyhoeddus gwerthfawr ac yn yr economi.

“Mae’r toriadau parhaus i’n Cyllideb, gan fod Llywodraeth y DU yn mynnu mynd ar drywydd y polisi niweidiol o gyni ariannol, yn golygu y bydd wastad angen mwy o gyllid refeniw.

“Ers 2010, mae ein Cyllideb wedi cael ei thorri o 8% mewn termau real. Roedd Cyllideb y Gwanwyn heddiw yn gyfle arall i roi diwedd ar gyni ariannol, ond mae’r cyfle wedi’i golli.

“Er gwaetha’r toriadau parhaus i’n cyllid, rydyn ni wedi blaenoriaethu cyllid ar gyfer gofal cymdeithasol yng Nghymru ac mae’r gwariant ar iechyd a gofal cymdeithasol  6% yn uwch yng Nghymru nag yw yn Lloegr.

"Rwy’n falch bod y Canghellor wedi dilyn esiampl Cymru ac wedi cydnabod pwysigrwydd gofal cymdeithasol i’r gwasanaeth iechyd.

"Yng Nghymru, rydyn ni wedi cymryd camau gweithredu hefyd i gefnogi’r busnesau bach hynny y mae ailbrisiad annibynnol Asiantaeth y Swyddfa Brisio wedi effeithio’n anghymesur arnynt.

"Rydyn ni wedi cyfrannu £20m o gymorth wedi'i dargedu ar gyfer 2017-18, ar ben ein cynllun Rhyddhad Ardrethi i Fusnesau Bach.

"Bydd Cabinet Llywodraeth Cymru bellach yn penderfynu sut y gallwn fanteisio i’r eithaf ar y cyllid refeniw ychwanegol a'r cynnydd bach iawn yn ein cyllideb gyfalaf er mwyn cefnogi ein blaenoriaethau buddsoddi.

"Rydyn ni wedi dweud ers tro fod bargen ddinesig Rhanbarth Bae Abertawe yn barod i gael ei llofnodi – rydyn ni’n cydnabod yn llwyr bwysigrwydd y fargen a’r manteision economaidd hirdymor cadarnhaol a ddaw yn ei sgil ar draws y rhanbarth.

"Mae'n siomedig bod y Canghellor wedi methu â defnyddio’r gyllideb hon i ddwyn y maen i’r wal yn achos y fargen ar unwaith.”

 

Rhannu |