Mwy o Newyddion
Dylai’r etholiadau lleol benderfynu pwy sydd orau i lanhau a chynnal yr amgylchedd lleol
Mae cynghorau dan reolaeth Plaid Cymru wedi dangos y ffordd ymlaen i gynghorau eraill ledled Cymru, yn enwedig pan ddaw’n fater o ailgylchu – dyna oedd y neges gan Aelodau Cynulliad.
Yn ystod cwestiynau i’r Ysgrifennydd Cabinet ar yr Amgylchedd a Materion Gwledig yn y Cynulliad Cenedlaethol heddiw, amlygwyd record Plaid Cymru o lwyddiant pan ddaw’n fater o ailgylchu.
Meddai AC Arfon Siân Gwenllian, Ysgrifennydd y Cabinet Cysgodol dros Lywodraeth Leol: “Cyngor Ceredigion dan reolaeth Plaid Cymru yw’r cyngor sy’n perfformio orau pan ddaw i ailgylchu; mae’r holl gynghorau dan arweiniad y Blaid ar darged pan mae’n dod i ailgylchu.
"Maent oll ar y ffordd i gyrraedd y targed 'dim gwastraff' erbyn 2030 - 20 mlynedd cyn targed y Llywodraeth.
“Yn anffodus, lle mae’r Blaid yn arwain, mae Llafur - eto fyth - yn llusgo ymhell ar ei hôl hi.
"Blaenau Gwent yw’r cyngor, yn cael eu arwain gan Lafur, sy’n perfformio waethaf o ran ailgylchu.
"Mae’n amlwg y dylai’r etholiadau lleol sydd ar y gorwel roi cyfle i bobl benderfynu pwy sydd orau i lanhau a chynnal ein hamgylchedd lleol.
"Mae’n amlwg y Blaid sy’n ailgylchu orau [yng Nghymru].”
Dywedodd yr Ysgrifennydd Cabinet Cysgodol dros Ynni, Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, Simon Thomas: “Bydd cynghorwyr Plaid Cymru yn gweithio i gryfhau ein cymunedau.
"Mae ein cynghorau sy’n cael eu rhedeg gan Blaid Cymru yn osgoi gwastraff ac yn amddiffyn yr amgylchedd yn fwy o lawer na chynghorau a redir gan bleidiau eraill.
“Lle mae Plaid Cymru mewn grym, rydym wedi arwain y ffordd, gan ei gwneud yn haws i drigolion gael gwared â phopeth o boteli plastig i gewynnau babis mewn ffordd ddiogel, lân sydd yn gyfeillgar i’r amgylchedd.
“Ein gweledigaeth am y dyfodol yw cyflwyno polisïau fydd yn ei gwneud mor syml ag sydd modd i drigolion ailgylchu yn effeithiol, a lleihau swm y gwastraff sy’n cael ei anfon i dirlenwi.”
Ychwanegodd Sian Gwenllian AC, yn ystod y cwestiynau amgylcheddol: “A ydy’r Ysgrifennydd Cabinet yn cytuno bod angen gwneud mwy i ysgogi a galluogi pobl i ailgylchu er mwyn sicrhau bod pob awdurdod lleol yn cyrraedd safon Ceredigion ac yn ailgylchu 70% o’u gwastraff erbyn 2025?"
Llun: Sian Gwenllian