Mwy o Newyddion
Dathlu Cymreictod yn y gwynt a’r glaw
ER gwaethaf y glaw mawr ddydd Sadwrn, mentrodd cannoedd o bobl i lawr i ganol y ddinas i ymuno â Gorymdaith Gŵyl Dewi Bangor, a drefnwyd gan Fenter Iaith Bangor, mewn partneriaeth ag AGB Bangor a gyda chymorth Cyngor Dinas Bangor.
Dyma’r drydedd orymdaith i’w chynnal a daeth y gorymdeithwyr eto yn eu fflyd i gefnogi, gan sicrhau ei bod yn llwyddiant unwaith eto.
Bu grŵp Codi’r To yn difyrru pobl yn y glaw y tu allan i Storiel wrth aros i bawb ymgynnull.
Maer Bangor, y Cynghorydd Dewi Williams, yng nghwmni Mr Urdd a Sali Mali, fu’n arwain yr orymdaith o blant, pobl ifanc ac oedolion yn eu coch, gwyn a gwyrdd, a baneri’r Ddraig Goch a Dewi Sant yn chwifio yn y gwynt.
Daeth y majorettes, aelodau Sefydliad Confucius ac ysgolion cynradd lleol â lliw i’r orymdaith hefyd.
Gan fod y tywydd mor wael, newidiwyd y drefn funud olaf.
Cychwynnodd yr orymdaith yn Storiel gan fynd i lawr y Stryd Fawr at y cloc ond gan fynd yn ei blaen wedyn i’r Gadeirlan.
Yng nghlydwch yr adeilad hardd hwn, cafwyd rhaglen amrywiol o gerddoriaeth Gymreig a Chymraeg draddodiadol a chyfoes gan Fand Llanrug, y band roc lleol Chwalfa, y canwr acwstig o Fangor Elidyr Glyn a Chôr y Penrhyn.
Eleni hefyd, am y tro cyntaf, croesawodd y trefnwyr aelodau Sefydliad Confucius Bangor i’r digwyddiad, a chyfareddwyd y gynulleidfa gan gerddoriaeth, dawnsfeydd a dawns gleddyfau draddodiadol Tsieineaidd.
Un o ddatblygiadau newydd yr orymdaith eleni oedd cystadleuaeth i wobrwyo’r ffenestr Gymreig orau ym Mangor.
Bu’r beirniaid, Karen Griffith, Rheolwr Adran Busnes Coleg Menai, a Maer Bangor, yn cerdded ar hyd Stryd Fawr Bangor ac ym Mangor Uchaf yn edrych ar y ffenestri ac roeddent yn hynod falch fod 15 o fusnesau a siopau wedi cymryd rhan, gan ddweud bod hyn yn ddechrau gwych i’r hyn a fydd yn gystadleuaeth flynyddol.
Yr enillwyr eleni oedd siop Age Cymru a dderbyniodd wobr o ddau docyn drwy garedigrwydd Zipworld, Bethesda.
Dywedodd Menna Baines, cadeirydd Menter Iaith Bangor: “Er gwaethaf y gwynt a’r glaw, roedd yr orymdaith yn llwyddiant enfawr unwaith eto.
“Diolch i bawb a fentrodd yn y tywydd mawr i gefnogi’r digwyddiad pwysig hwn ym Mangor.
“Roedd hi’n braf gweld pobl o bob rhan o’r ddinas ac o wahanol ddiwylliannau yn ymuno ac yn cymryd rhan.
“Ein nod, bob tro, yw codi’r ymwybyddiaeth o’r Gymraeg a’i diwylliant ym Mangor, ac mae Gorymdaith Gŵyl Dewi yn ffordd wych o wneud hyn.”
Llun: Yr orymdaith yn ystod y tywydd mawr (Irfon Williams)