Mwy o Newyddion
Colli arweinydd diwylliannol Llydaw
CENEDLAETHOLWR, ymgyrchydd, Athro Prifysgol, cr?wr a golygydd cylchgronau, ieithydd, lluniwr llawlyfrau dysgu’r Llydaweg, llenor, bardd, ysgrifwr, cyhoeddwr a golygydd llyfrau, cyfieithydd, ysgogwr, llywydd y Gyngres Geltaidd …
Bydd dyn yn anghofio, bellach, taw fel Pierre Denis y treuliodd Per Denez ei fabolaeth a’i lencyndod oherwydd iddo gael ei eni i rieni gwerinol di-Lydaweg, ar y 3ydd o Chwefror 1921, yn Roazhon (Rennes) yn nwyrain di-Lydaweg Llydaw. Hanai ei dad, Albert Denis, o Sant Benead ar arfordir y gogledd, hanner ffordd rhwng Sant Malo a Dol, lle byddai dynion y fro yn hanner amaethwyr a hanner pysgotwyr yn ceisio crafu bywoliaeth. Wedi’i glwyfo mor ddifrifol nes gorfod colli’i goes, bu’n rhaid i Albert gael gwaith mewn swyddfa bensiwn y rhyfel yn Roazhon (Rennes). Yno gweithiai merch ifanc, Victorine le Gac, o deulu cyffredin yn y wlad yn Bremelin, i’r de o Roazhon.Ymserchodd y ddau yn ei gilydd a dechrau’u byd yn stryd Nemours yn y ddinas cyn symud i stryd Le Perdit pan oedd eu mab bach ychydig dros flwydd oed.
’Roedd Victorine yn wraig ddefosiynol iawn na fuasai wedi danfon ei mab i’r ysgol wladol, neu ‘ysgol y diawl’ dros ei chrogi, er ei bod yn rhaid talu am addysg yn Ysgol Babyddol Sant Erwan a’r rhieni ymhell o fod yn gefnog. Teimlai Per Denez fod arno ddyled fawr i’w addysg fore am na chawsai drafferth, ar hyd ei oes, i sillafu’n gywir – gan ffyrniced yr ergydion a roddid â phren mesur ar ddwylo’r bechgyn yn gosb am bob camgymeriad! Ar fore Iau y byddai gwers ddifyrraf yr wythnos pan gâi’r disgyblion ifainc storïau Beiblaidd ac er i Per Denez gefnu ar y sefydliad eglwysig yn ddiweddarach, oherwydd y pregethai bropoganda’r llywodraeth, ceir yn y cyfeiriadau ysgrythurol sy’n britho’i waith, olion o’i addysg fore, ynghyd â dylanwad ei fam yn mynd ag e a’i ddwy chwaer i’r offeren yn blygeiniol bob bore.
Pan oedd yn ddeuddeg i dair ar ddeg oed, ac yntau ym mhumed dosbarth Ysgol Uwchradd Sant Varzhin, daeth y trobwynt pwysicaf, a’r un mwyaf dylanwadol, i ran y bachgen pan oleuwyd ef gan gyfaill nad Ffrancwr mohono ond Llydäwr! Wedi ei ddarbwyllo o’r gwirionedd hwn teimlai reidrwydd arno i ddysgu’r Llydaweg. Cyn pen dim ’roedd wedi cychwyn ar gwrs gohebol Skol Ober oedd yng ngofal Marc’harid Gourlaouen ond heb fod yn ddisgybl arbennig o ymroddgar, ar y pryd, yn ôl ei dystiolaeth ei hunan. Nid rhyfedd na ddeallai’i rieni’r chwilen hon a bigai’r crwt bach a hwythau wedi’u cyflyru i feddwl mai gwasanaethu Ffrainc oedd dyletswydd pob Llydäwr a Llydawes. Wedi’r cwbwl onid aeth ei dad o’i wirfodd i ‘ymladd dros ei wlad, h.y. Ffrainc? Arswydai’i fam o weld ei mab yn coleddu’r syniadau newydd, ‘anfoesol’ hyn!
Yn ddeunaw oed, wedi colli ei fam a’i chwaer, Monique, fe’i trawyd yntau yn wael â’r darfodedigaeth oedd yn rhemp drwy’r wlad. A dyma wneud penderfyniad arall o bwys. Cyn iddo farw, ’roedd am wneud rhywbeth gwiw dros Lydaw â’i dipyn bywyd. Erbyn hyn darllenai Saesneg yn hawdd – a theimlodd reidrwydd arno yntau i sgrifennu rhywbeth yn Llydaweg. Dyna’r ysgogiad iddo fynd ati o ddifri i ddysgu’r iaith. Yn gaeth i’w stafell am bum mlynedd, ar wahân i fynd i weld y meddyg, ni wnâi ddim ond bwyta, gorffwys a cheisio gwella’i Lydaweg drwy ddarllen cylchgronau a’i hymarfer drwy gyfieithu Wuthering Heights ymhlith llawer o weithiau eraill! Fel yna y dechreuodd roi geiriau at ei gilydd. Y frwydr i oroesi, ynghyd â hon i feistroli’r iaith, oedd y ddwy frwydr gyntaf o lawer iddo eu hymladd – a’u hennill.
Ar anogaeth cyfaill iddo, cofrestrodd yn y brifysgol gyfagos – ar gyfer cwrs gradd yn y Saesneg. Llwyddodd yn y flwyddyn gyntaf heb fynd i un ddarlith! Yn yr ail bu’n gweithio am dri mis mewn ffatri trin lledr i’w gynnal ac yn ystod y drydedd flwyddyn ar lyfrau’r brifysgol bu’n rhaid gweithio am gynhaliaeth eto, ond y tro hwn mewn ysgol, yn athro di-drwydded. Yn y cyfamser, o bryd i’w gilydd, mynychai ddarlithiau Cymraeg Canol Per ar Rouz yn yr adran Geltaidd, yng nghwmni dau neu dri o’i gyfoedion ynghyd â Levot-Becot yn 60 oed a’r hynafgwr dysgedig a siaradai Gymraeg, Frañsez Vallée, yntau dros ei 70 oed! Wedi cyfnod o un mlynedd ar hugain, ‘Hela’r Twrch Trwyth’ fyddai’r darlithydd o hyn yn ei henaint.
Er gwaetha’r colledion teuluol, y salwch a’r gwendid, y prinder a’r tlodi, y rhyfel a’r cyrchoedd bomio a goresgyniad yr Almaenwyr, eto câi foddhad wrth astudio a dyma benderfynu dysgu Cymraeg, ‘am mai hi oedd agosaf i’r Llydaweg’ ac oherwydd iddo gael ei danio gan erthyglau ar Gymru, ei hiaith, ei diwylliant a’i gwleidyddiaeth ym mhapur Mudiad Cenedlaethol Llydaw Breiz Atao! (‘Llydaw am Byth!’). Dysgai â chymorth llawlyfrau bach Abeozen a Kerverziou ac yn ddiweddarach drwy ddarllen erthyglau Cymraeg yn y cylchgrawn newydd Al Liamm (Y Ddolen). Dyma gyfnod cwrdd â Roparz Hemon, guru’r ymgyrchwyr ifainc, am ryw hanner awr bob mis a chyfnod selio sawl cyfeillgarwch oes â bechgyn o gyffelyb anian ag e, megis Ronan Huon ac Arzel Even (J R F Piette).
Ar ddiwedd y rhyfel aeth chwech ohonynt ati’n frwd, bob yn ddau, i gychwyn tri chylchgrawn. Disgrifiodd P Denez, ac yntau yn un ohonynt, eu dewrder, neu’u ffolineb, yn mentro pan nad oedd hawl gwneud hynny yn y Llydaweg, pan na chaniateid iddyn nhw brynu papur (ond yn ddirgel drwy brynu yr hyn oedd dros ben gan rai â’r hawl i gyhoeddi yn Ffrangeg); pan nad oedd fawr ddim arian, ond digonedd o ffydd, ganddyn nhw a phan nad oedd un o’u plith yn feistr hollol ar yr iaith. Crynent yn eu sgidiau rhag beirniadaeth eu gwrthwynebwyr! Unwyd y tri chylchgrawn cyn pen dim yn Al Liamm-Tir Na-n-Og o dan olygyddiaeth Ronan Huon (a Per Denez am y flwyddyn y bu Ronan yn dysgu yn Abertawe) a phump a thrigain o flynyddoedd yn ddiweddarach mae’r cyfnodolyn tra gwerthfawr hwn yng ngofal meibion Ronan ac eraill, a Tudual Huon yn olygydd.
Ar hyd y blynyddoedd cyfrannodd Per Denez yn gyson, yn amrywiol ac yn gyfoethog i Al Liamm-Tir-Na-n-Og drwy ei gyfieithiadau, yn cynnwys ‘Ystrad Fflur’ (T Gwynn Jones) a ‘Sir Drefaldwyn’ (R S Thomas), ei storïau byrion (yno y cyhoeddwyd ‘Marwnad’ a ‘Stori fer ar ffurf Drama’ – dwy sy’n adlewyrchu’r dirmyg a’r casineb a enynnai ymdrechion di-flino’r bechgyn a garai’u hiaith a’u cenedl mor angerddol), ei adolygiadau a phytiau o newyddion o’r gwledydd Celtaidd, ei erthyglau blaen a oleuai, a anogai, ac ar brydiau a geryddai’r darllenwyr – heb anghofio’i deyrngedau hael a theimladwy, weithiau ar ffurf marwnad, i gydymgyrchwyr a gollwyd, drwy angau, o’r rhengoedd.
Yn union wedi’r rhyfel y dechreuodd ei ymweliadau niferus â Chymru: i wersyll Celtaidd Urdd Gobaith Cymru ym Mhantyfedwen, Borth, i’r Eisteddfod Genedlaethol (Bae Colwyn 1947 oedd y gyntaf) ac i Ysgolion Haf y Blaid lle y gwnaeth ffrindiau da a edmygai yn fawr, megis y Dr D J Davies a Noelle ei briod, J E Jones a Gwynfor Evans, D J Williams, Trefor ac Eileen Beasley a llawer eraill. Aeth â chriw o blant draw i wersylla yng Nghymru, menter a gostiodd yn ddrud iddo, fel y gwelir maes o law.
O’r coleg aeth i ddysgu Saesneg yn ysgol y bechgyn yn Kemper am flwyddyn a cheisio cael lle mewn coleg yng Nghymru neu Iwerddon am flwyddyn ond penderfynodd ‘yr awdurdodau’ taw i Oberdeathain (Aberdeen) y câi fynd. ’Roedd ymwneud â Chymru yn y cyfnod hwn, bron gynddrwg â chyfeillachu â’r Almaenwyr adeg y rhyfel yng ngolwg ‘the powers that be’ meddai. Aeth ati yno i ddysgu Gaeleg yr Alban a dewis ‘Ieithoedd yr Alban’ yn destun i’w draethawd ar gyfer y CAPES sef y dystysgrif yn gymhwyster ar gyfer ei benodi i ddysgu pwnc ar gyflog llawn. Gwaetha’r modd cafodd ei wrthod y tro cyntaf am y credai’r arholwr nad dysgu ieithoedd Celtaidd oedd diben ei ymweliad â Phrydain.
Yn ôl ag e i ysgol La tour d’Auvergne, Kemper, i ddysgu Saesneg ac – och! a gwae! aeth ati, gyda chefnogaeth pennaeth yr ysgol, i ddysgu caneuon Llydaweg i’r disgyblion a fynnai ddod i’r gwersi yn ystod yr awr ginio. Pechod anfaddeuol yn erbyn y Wladwriaeth! ’Roedd mab arolygwr yr ysgolion, Corsican o’r enw Chilotti, yn ddisgybl yno. Ar ben hynny cafodd yr Arolygwr wybod gan elyn i Per Denez, bradwr o Lydäwr, am y fenter i Gymru ac am y gwersyll a drefnodd ar gyfer plant o wledydd Celtaidd yn Llydaw. Fe’i halltudiwyd, i Perigueux yn Ffrainc, a Morwena ei wraig ifanc a’u baban, Morwena fach. Yno y buon nhw am ddwy flynedd hir a hiraethus, yn byw ar fin y gyllell, oherwydd ei fod yn cynnal teulu, bellach, ar hanner cyflog ac wedi gorfod talu biliau meddyg pan fu’n rhaid iddo gael gwared ag un o’i ysgyfaint. Dyheai am gael dychwelyd i Lydaw a chael gwell cyfle i wneud mwy dros yr iaith.
Wedi cael ar ddeall gan arolygwr ysgolion call yn Ffrainc pam y cawsai’i alltudio’n ddidrugaredd o annheg, ymgeisiodd eilwaith am y CAPES a dod i’r brig, yn un o’r ugain cyntaf drwy’r wlad a olygai y gallai ddewis i ble yr elai. Penderfynodd ddychwelyd i’w ddinas enedigol i ddechrau – ac wedyn i ardal ei wraig, sef Douarnenez yn y gorllewin lle y cafodd gyfle ardderchog i astudio iaith y pysgotwyr ac un ei fam yng nghyfraith, yn fanwl. Bu hyn o fudd iddo yn ddiweddarach i gyhoeddi llyfrau ar yr eirfa ac i lunio tair cyfrol o draethawd ar gyfer gradd doethur yn y brifysgol.
Yn y pumdegau creodd gylchgrawn arall Ar Vro (Y Wlad) a hynny yn Ffrangeg, er gwaetha’i enw Llydaweg, i addysgu’r di-Lydaweg ac i geisio eu denu ‘i’r Gad!’ Ymhen rhyw saith mlynedd rhoes y gorau i’r Ffrangeg bron yn llwyr ar wahân i ambell erthygl a darlith nawr ac yn y man. Ond yna gwelwyd cylchgrawn arall, o bwys mawr i’r sawl a astudiai’r iaith yn gweld golau ddydd, Hor Yezh (Ein Hiaith) o dan olygyddiaeth Arzel Even gyda chymorth Per Denez a gymerodd y baich a’r cyfrifoldeb wedi marwolaeth anamserol ei athrylith o gyfaill mynwesol.
Ym 1968 gwireddwyd ei freuddwyd o gael ei benodi’n ddarlithydd yn Adran Geltaidd Prifysgol Roazhon. Newid gwaith a thasgau newydd i’w cyflawni. Rhaid oedd llunio llawlyfrau, o leiaf bump ohonynt, i ddysgu’r iaith, yn cynnwys Brezhoneg …buan hag aes (o’i gyfieithu’n llythrennol, Llydaweg yn chwim ac yn hawdd).
A dyma frwydr fawr arall, aruthrol fawr y tro hwn yn ei wynebu – sef honno dros gyfiawnder i’r Llydaweg o fewn y brifysgol. O dan yr hen oruchwyliaeth tystysgrif ddiwerth a gaed – yn rhan o radd mewn pwnc arall, megis Saesneg neu Sbaeneg. Tri myfyriwr oeddem ni, ac un arall a ddeuai yn achlysurol o’i waith, yn yr adran yn astudio’r iaith fel iaith farw yn niwedd y pumdegau. Wedi dygnu arni i gael cefnogaeth aelodau o adrannau eraill, trefnu deiseb ar ôl deiseb, a gwneud cais ar ôl cais ar ôl cais, yn ofer, i wahanol lywodraethau, cyhoeddwyd y fuddugoliaeth yng Nghyngres Geltaidd Lannuon, 1981. Dyma’r llifddorau yn agor, a channoedd, ie cannoedd, dros bum cant, yn heidio, fel pe’n dilyn rhyw Bibydd Hud, i gofrestru yn yr adran a ddatblygodd, er syndod i bawb, i fod y fwyaf yn y brifysgol! ’Doedd dim rhyfedd y gadawai Per ddrws ei stafell yn y coleg ar agor, pan fyddai yno, oherwydd llifai’r myfyrwyr y naill ar ôl y llall i gael gair ag e! Ac ar ben ei waith dosbarth a’r pwyllgorau colegawl ’roedd yn llywydd nifer o fudiadau: y Gyngres Geltaidd yn Llydaw ac yn rhyngwladol, Kuzul ar Brezhoneg (Cyngor y Llydaweg) ac Adran Wyddonol Skol-Uhel ar Vro (Prifysgol y Bobol) i enwi dim ond tri. Os gweithiai yn galed cyn hynny llafuriai ar ladd ei hunan o hyn ymlaen nes ei orfodi i orffwys, o bryd i’w gilydd, wedi diffygio’n lân..
Mawrygai’r fraint o gael ei enwi’n Llydäwr y Flwyddyn ym 1981 gan y cylchgrawn Ffrangeg ei iaith yn bennaf, ond ’roedd yr un mor falch o gael bod yn Ŵr gwadd mewn Noson Lawen a drefnwyd gan Gymdeithas yr Iaith yn yr Eisteddfod ac o gael ei anrhydeddu â’r wisg wen gan yr Orsedd ac eto o gael gradd Doethur er anrhydedd gan Brifysgol Cymru.
Afraid dweud na châi fawr o hamdden i lenydda yn y cyfnod hwn ond ysgrifennai domenni o lythyron ar drên neu long, mewn gwesty neu glinig. Ond câi fodd i fyw bob amser i ddod i Gymru i ddarlithio neu arholi yn Aberystwyth ac i ymarfer ei Gymraeg gyda Delwyn a Lil Phillips a’r Athro Bobi Jones a Beti, ei briod ac eraill. Byddai yn fawr ei ofal o’r trefniadau ac yn gynnes ei groeso pan awn innau i ddarlithio neu i arholi yn Roazhon a gwelid llawer o fyfyrwyr yn mynd a dod rhwng y ddwy wlad a’r ddwy adran.
Er yr anrhydeddau a werthfawrogai a’r pleserau a fwynhaodd mae’n siŵr taw ei awr fawr oedd y fraint o gael croesawu’r un a edmygai fwyaf, sef Gwynfor, i Lydaw. Pan glywodd fod ei arwr yn barod i ymprydio hyd angau am fod llywodraeth y torïaid wedi torri’u haddewid i roi sianel deledu Gymraeg i’r Cymry aeth ati ar frys ac yn ddiarbed i hysbysu’r Llydaw-wyr o hanes yr ymgyrch ac o fwriad Gwynfor. Ymhob papur a chylchgrawn a allai rhoes batrwm o lythyr y dylai pawb ei ddanfon at W Whitelaw a M Thatcher a’i ymateb greddfol pan ddaeth y newyddion da oedd danfon gwahoddiad gwresog at Gwynfor, trefnu’r daith hanesyddol i Roazhon, a dinasoedd eraill, anfon gwahoddiadau i bedwar ban Llydaw a sicrhau y câi groeso tywysogaidd, twymgalon, ym mhobman. Wedi gŵyl – gwaith ac aeth ati i lunio llyfryn yn croniclo hanes y daith drwy eiriau a lluniau.
Drwy drugaredd, ar ddiwedd ei yrfa, ac yn enwedig wedi ymddeol, cafodd Per Denez gyfle i ddychwelyd at lenydda. Ailgyhoeddodd nifer o weithiau awduron eraill gan ysgrifennu rhagymadrodd teilwng iddynt a chynhyrchodd gyfrolau o storïau ac ysgrifau a dyrnaid o nofelau byrion. Nid rhyfedd iddo leoli un ym Mirmingham lle yr arhosodd droeon ar aelwyd Delwyn a Lil, yn adrodd hanes Cymro alltud yn ceisio olrhain ei achau yng Nghymru a chael hwyl ar ddarlunio Cymru a’i phobol – yr oedd mor gynefin â nhw ac a oedd mor agos at ei galon fel y dywedai mor fynych, ‘Mae Cymru fel ail wlad i mi’. Bydd ei waith yn para tra pery’r Llydaweg. Cydymdeimlwn yn fawr â’i weddw, Monique, â’r teulu i gyd.