Mwy o Newyddion

RSS Icon
07 Mawrth 2017

Harnais arloesol ar gyfer darpar famau sydd â phoen gwregys pelfig yn ennill gwobr gwyddorau bywyd

MAE harnais meddygol wedi’i ddylunio gan ddyn busnes o ogledd Cymru i helpu merched beichiog frwydro poen gwregys pelfig wedi ennill prif wobr arloesedd diwydiant.

Mae’r harnais chwyldroadol ar gyfer merched sy’n dioddef o boen gwregys pelfig dwys a elwir yn symffysis piwbis distalis. 

Mae Dafydd Roberts wedi bod yn gweithio gyda meddygon o Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) ers dylunio’r gwregys cefnogi arbennig i helpu ei wraig Ruth yn ystod ei phedwerydd beichiogrwydd.

Mae’n cael ei wneud gan Brodwaith, busnes dillad a chynhyrchu’r teulu, yn Ynys Môn a Chonwy, dan enw’r cwmni HGR Cyf.

Mae’r harnais ar hyn o bryd yn mynd drwy dreialon clinigol gan ferched beichiog ar draws bob safle ysbyty BIPBC  dan dîm o ffisiotherapyddion ac arbenigwyr iechyd dan arweiniad Dr Kalpana Upadhyay, obsetregydd ymgynghorol Ysbyty Maelor Wrecsam, a darlithydd er anrhydedd ym Mhrifysgol Bangor.

Mae HGR Ltd, sydd wedi lansio’r cynnyrch ar-lein yn ddiweddar, yn awr yn dathlu ar ôl ennill Gwobr fawreddog y Beirniaid yn seremoni Wobrwyo Ymchwil ac Arloesedd MediWales. 

Mae’r digwyddiad blynyddol, a gynhelir yn Amgueddfa Genedlaethol Cymru yng Nghaerdydd a gefnogir gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, yn dathlu llwyddiannau cymuned gwyddorau bywyd Cymru.  

Dywedodd Dafydd: “Mae’n dipyn o anrhydedd derbyn y wobr. Ni oeddem yn disgwyl ennill gan ei fod yn syniad gweddol syml, ond mae llawer o waith caled wedi cael ei wneud gan nifer o weithwyr iechyd proffesiynol, ac mae’r llwyddiant hwn yn brawf o ymrwymiad parhaus pawb.

“Hyd yma, rydym wedi dewis lansiad ysgafn a dweud y gwir, er mwyn gweld sut y mae unigolion yn ymateb iddo. Rydym wedi gwerthu rhai ar-lein, ac rydym wedi cael adborth cadarnhaol iawn.

“Mae pethau’n symud yn eithaf cyflym yn awr. Mae’r treialon ar y gweill ar y foment, ar draws bob safle BIPBC. Rydym yn cael dipyn golew o ddiddordeb heb wthio’r cynnyrch mewn gwirionedd. Unwaith byddwn yn gwybod canlyniad y treial, bydd gennym syniad llawer gwell.”

Cafodd Dafydd, 40, sy’n byw gyda Ruth a’i blant ym Mhentrfoelas, ei ysbrydoli i ddylunio’r gwregys cefnogi arbennig yn dilyn poen ei wraig yn ystod beichiogrwydd.

Nid oedd Ruth yn gallu cerdded, ac roedd hi’n gorfod defnyddio cadair olwyn i fynd o gwmpas, oherwydd y boen gwregys pelfig dwys a ddioddefodd pan oedd hi’n feichiog gyda’i phedwerydd plentyn.

Mae’r cyflwr yn cael ei achosi gan ormod o hormonau beichiogrwydd sy’n cael eu dylunio i feddalu’r cyhyrau a chymalau pelfig i helpu geni plentyn –  ond mae cael gormod o’r hormonau yn rhy gynnar yn gallu gadael yr unigolyn sy’n dioddef mewn poen.

Mae’n effeithio ar un o bob pump o ferched beichiog, mewn achosion difrifol fel Ruth, nid yw’r unigolyn sy’n dioddef yn gallu cerdded drwy boen, gyda rhai yn profi effeithiau parhaol ar ôl yr enedigaeth.

Mae Ruth wedi profi PGP o’r blaen tuag at ddiwedd ei thrydydd beichiogrwydd er na chafodd broblemau gyda’i phlentyn cyntaf na’r ail blentyn. Dechreuodd y boen ychydig dros 16 wythnos i mewn i’w beichiogrwydd, pan oedd hi’n cario Harri, ei phedwerydd plentyn.

Fe ddatblygodd Dafydd, gyda chymorth Ruth, harnais a gefnogodd bwysau’r bol babi, ac oedd yn dal esgyrn y pelfis yn gyfforddus. Cynigiodd hyn ryddhad iddi’n syth. Parhaodd i wella’r dyluniad, ac o’r diwedd daeth o hyd i’r defnydd delfrydol ar gyfer y gwregys gan gyflenwr yn America.

Gwelodd Mrs Kalpana Upadhyay, obsetregydd ymgynghorol Ysbyty Maelor Wrecsam, arbenigwr mewn beichiogrwydd risg uchel, botensial yn yr harnais newydd o’r dechrau.

Fe gasglodd dîm o ymchwilwyr, ffisiotherapyddion, bydwragedd, rheolwyr diwydiant o Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru ac arbenigwyr o’r tîm treialon clinigol NWORTH ym Mhrifysgol Bangor i ymchwilio a oedd y ddyfais yn well na thriniaeth bresennol sydd ar gael ar gyfer poen gwregys pelfig.

At y diben hwn, cafodd treial clinigol ar hap ei ddylunio, a dechreuodd y broses o recriwtio cyfranogwyr cymwys yn 2016. Disgwylir i’r treial ddod i ben y mis yma, ac ar ôl hynny bydd y canlyniadau yn cael eu cyhoeddi mewn cynhadledd feddygol ryngwladol ym mis Mai.

Mae Dafydd a Ruth yn gobeithio y bydd eu cynnyrch yn hygyrch i filoedd o ferched sy’n dioddef o’r cyflwr sy’n llethu.

“Mae’r prosiect hwn wedi golygu llawer o amser ac arian i’w ddatblygu, ac nid oes modd osgoi hynny, ond onid ydych yn rhoi arian i mewn nid ydych yn mynd i allu symud ymlaen,” dywedodd Dafydd.

“Rydym yn hyderus iawn gyda’r cynnyrch. Bydd canlyniadau’r treial yn penderfynu ei botensial ehangach, ond mae’r ymateb rydym wedi ei gael gan gwsmeriaid preifat wedi bod yn galonogol a phositif iawn.”

Ychwanegodd Dr Upadhyay: “Rydym yn teimlo’n falch iawn, ac yn hapus o dderbyn y wobr.

“Rhoddwyd y wobr dewis ‘Y Beirniaid’ am ‘gipio ethos ymchwil ac arloesedd, ac am adlewyrchu gwir bartneriaeth rhwng y GIG a’r diwydiant.’

“Dechreuodd yr ymchwil o safbwynt y claf. Cododd o anawsterau un ddynes yn ystod beichiogrwydd, a datblygodd yn brosiect ymchwil mawr, lle gwnaethom adeiladu tîm cyfan o ymchwilwyr ac arbenigwyr.

“Mae wedi cymryd amser hir i’w symud yn ei flaen, gan fod yr holl broses fel arfer yn cymryd rhwng blwyddyn a dwy flynedd, ond mae tîm cryf wedi bod drwy gydol, ac yn awr rydym bron â gorffen y cyfnod recriwtio, dylem allu rhannu’r canlyniadau yn fuan iawn.”

Dywedodd Jan Fereday Smith, Arweinydd Proffesiynol BIPBC ar gyfer Ffisiotherapi:

“Mae hwn wedi bod yn gyfle gwych i ffisiotherapyddion fod yn rhan o dreial clinigol ac i ddysgu am y prosesau a’r archwiliad sy’n ofynnol, yn enwedig lle mae dull ar y cyd mor gyffrous gyda’r diwydiant.  

“Mae’n wych helpu i roi’r statws ‘Prifysgol’ i BIPBC.”

Eglurodd Dafydd, bod y cwmni HGT wedi cael ei enwi ar ôl mab y cwpl .

Dywedodd: “Awgrymodd Kalpana yr enw ‘Gravidarum’, ac eglurodd ei fod yn enw Lladin am feichiogrwydd – drwy roi’r Harnais gyda’r Gravidarum, ac o ystyried mai enw ein mab yw Harri Gwilym, roedd hi’n ymddangos mai ffawd oedd hi, ac fe wnaethom sefydlu cwmni newydd o’r enw HGR Cyf- gyda’r R yn cyfeirio at Roberts.”

Llun: Dafydd a Ruth Roberts gyda’r harnais arloesol

Rhannu |