Mwy o Newyddion

RSS Icon
07 Mawrth 2017

Diwrnod Pai Cymru - rhif arwyddocaol yn hanes mathemateg y wlad

Fedrwch chi gofio defnyddio’r rhif π (pai) yn yr ysgol? Mae’r rhif hwn – sydd ychydig yn fwy na 3 – yn bwysig ym mhob cangen o fathemateg ac yn rhif arwyddocaol yn hanes mathemateg yng Nghymru.

Ers 1988 mae Mawrth 14 wedi cael ei ddynodi’n ddiwrnod rhyngwladol i ddathlu π.

Cychwynnodd yr arferiad yn San Francisco ar sail patrwm Americanwyr o ysgrifennu dyddiad gyda’r mis yn gyntaf.

Felly Mawrth 14 yw 3/14 yn y patrwm hwn a gwerth π i ddau le degol yw 3.14 (tri pwynt un pedwar).

Ers hynny mae’r diwrnod wedi denu mwy a mwy o ddathlu byd-eang gan ysgogi llawer o weithgareddau, yn arbennig mewn ysgolion a cholegau, a llawer o fwyta peis amrywiol eu cynnwys!

Mae gan y symbol π arwyddocad arbennig i Gymru gan mai William Jones (1674–1749), mathemategydd o Fôn, oedd y cyntaf i ddefnyddio’r llythyren Roegaidd hon i gynrychioli cymhareb cylchedd cylch i’w ddiamedr ac a sylweddolodd bwysigrwydd y rhif.

Mae llechen ar fur ysgol gynradd Llanfechell, Ynys Môn, yn nodi’r gamp:

I gydnabod y cysylltiad Cymreig dynodwyd 14 Mawrth yn Ddiwrnod Pai Cymru gan Lywodraeth Cymru yn 2015 i’w ddathlu yn flynyddol o hynny ymlaen.

Trefnir gweithgareddau amrywiol gan ysgolion ar gyfer 14 Mawrth.

Rhannu |