Mwy o Newyddion
Carwyn Eckley yn cipio’r Gadair yn Eisteddfod Ryng-golegol 2017
Fe ddaeth Carwyn Eckley o Brifysgol Aberystwyth yn fuddugol yng nghystadleuaeth y Gadair Eisteddfod Ryng-gol Bangor dros y penwythnos.
Yn ei drydedd flwyddyn ac yn astudio Cymraeg proffesiynol dyma gadair gyntaf y gŵr o Ddyffryn Nantlle.
Mae ei gerdd fuddugol 'Yr Arwr' yn talu teyrnged i Dr.Donald Henderson, y gwyddonydd a fu’n gyfrifol am waredu’r frech wen.
Meddai Carwyn: “Roedd y profiad o ennill y gadair o flaen aelodau UMCA a fy ffrindiau yn brofiad bythgofiadwy.
"Diolch i bwyllgor UMCB am drefnu eisteddfod drefnus a chofiadwy, ac am seremoni gadeirio wych.”
Mae Llywydd UMCA, Rhun Dafydd wedi llongyfarch holl aelodau a gymerodd rhan yn y Penwythnos Eisteddfod Ryng-gol.
Meddai: “Dwi’n hynod o falch o’r holl aelodau a gymerodd rhan yn y cystadlaethau chwaraeon a’r Eisteddfod dros y penwythnos.
"Hefyd hoffwn ddiolch yn fawr i Ifan James Llywydd UMCB a phwyllgor gwaith yr Eisteddfod am drefnu penwythnos llwyddiannus a llongyfarchiadau ar y fuddugoliaeth.”
Mi fydd modd darllen holl waith y buddugwyr yng nghylchgrawn Yr Awen a fydd allan yn fuan.
Mae Eisteddfod Ryng-golegol 2018 yn cael ei gynnal gan Brifysgol y Drindod Dewi Sant.
Llun: Carwyn Eckley