Mwy o Newyddion

RSS Icon
06 Mawrth 2017

Carwyn Eckley yn cipio’r Gadair yn Eisteddfod Ryng-golegol 2017

Fe ddaeth Carwyn Eckley o Brifysgol Aberystwyth yn fuddugol yng nghystadleuaeth y Gadair Eisteddfod Ryng-gol Bangor dros y penwythnos.

Yn ei drydedd flwyddyn ac yn astudio Cymraeg proffesiynol dyma gadair gyntaf y gŵr o Ddyffryn Nantlle.

Mae ei gerdd fuddugol 'Yr Arwr' yn talu teyrnged i Dr.Donald Henderson, y gwyddonydd a fu’n gyfrifol am waredu’r frech wen.

Meddai Carwyn: “Roedd y profiad o ennill y gadair o flaen aelodau UMCA a fy ffrindiau yn brofiad bythgofiadwy.

"Diolch i bwyllgor UMCB am drefnu eisteddfod drefnus a chofiadwy, ac am seremoni gadeirio wych.”

Mae Llywydd UMCA, Rhun Dafydd wedi llongyfarch holl aelodau a gymerodd rhan yn y Penwythnos Eisteddfod Ryng-gol.

Meddai: “Dwi’n hynod o falch o’r holl aelodau a gymerodd rhan yn y cystadlaethau chwaraeon a’r Eisteddfod dros y penwythnos.

"Hefyd hoffwn ddiolch yn fawr i Ifan James Llywydd UMCB a phwyllgor gwaith yr Eisteddfod am drefnu penwythnos llwyddiannus a llongyfarchiadau ar y fuddugoliaeth.”

Mi fydd modd darllen holl waith y buddugwyr yng nghylchgrawn Yr Awen a fydd allan yn fuan.

Mae Eisteddfod Ryng-golegol 2018 yn cael ei gynnal gan Brifysgol y Drindod Dewi Sant.

Llun: Carwyn Eckley

Rhannu |