Mwy o Newyddion

RSS Icon
06 Mawrth 2017

Gregynog yn ail-greu pasiant cerddorol

Mae gŵyl cerddoriaeth glasurol fwyaf mawreddog Cymru wedi cyhoeddi ei rhaglen ar gyfer 2017 a hon fydd y fwyaf uchelgeisiol eto.

Eleni, Pasiantri fydd thema gyffredinol Gŵyl Gregynog, a bydd yn cyflwyno perfformiadau cerddorol, cynyrchiadau dawns, arddangosfeydd hanesyddol a sgyrsiau gafaelgar mewn nifer o leoliadau gwahanol ledled Cymru rhwng 16 Mehefin a 2 Gorffennaf.

Gregynog yw gŵyl gerddoriaeth glasurol hynaf Cymru sy’n dal i gael ei chynnal, ond ei rhagflaenydd fwyaf arwyddocaol oedd Gŵyl Gerddorol Castell Harlech.

Gan fanteisio ar 20 mlynedd o waith ymchwil, ysbrydolir y rhaglen ar gyfer tymor Pasiantri Gŵyl Gregynog gan yr hafau hyfryd hynny, ganrif yn ôl, pan ymgasglodd cymuned greadigol ryfeddol yn Harlech, yn cynnwys artistiaid enwog, ffotograffwyr, awduron a dawnswyr yn ogystal â cherddorion, ac fe fyddai miloedd o bobl yn heidio i fod yn rhan o berfformiadau cofiadwy o fewn muriau’r Castell.

Ymhlith y llu o uchafbwyntiau yn nhymor 2017 fydd y pianydd Llŷr Williams a’r sacsoffonydd Amy Dickson yng Nghastell Y Waun, darn dawns a gomisiynwyd yn arbennig gan Light, Ladd ac Emberton a berfformir yn y cyfnos ar Draeth Harlech, a sgyrsiau goleuedig gan ddeallusion fel Peter Lord a Hazel Walford Davies.

I Rhian Davies, curadur yr Ŵyl, mae’r rhaglen yn benllanw dau ddegawd o ymchwil: “Rwyf wastad wedi cael fy synnu gan greadigrwydd a gweledigaeth y gymuned artistig ryfeddol a ymgasglodd yn Harlech ganrif yn ôl.

"Mae hanesion hudol i’w hail-adrodd, megis datganiad Cyril Scott ar gyfer y Prif Weinidog David Lloyd George yn ei gartref yng Nghricieth, a chyngherddau byrfyfyr yn y Neuadd Fawr ym Mhlas Wernfawr, safle Theatr Ardudwy heddiw, lle y cafwyd unwaith ddeuawd piano gan Harriet Cohen a George Bernard Shaw.

"Rwyf hefyd yn dathlu gwaith arloesol Arnold Dolmetsch, ac yn fwy arbennig felly ei waith ar gerddoriaeth ac offerynnau canoloesol Cymru.

“A hwythau’n cael eu cynnal mewn lleoliadau gwahanol ledled Cymru, mae pob cyngerdd yn adfer repertoire gan aelod neu aelodau o’r grŵp ac ysgrifennwyd llawer o’r cyfansoddiadau hyn yn Harlech neu fe’u hysbrydolwyd gan dirwedd a chwedlau Cymru, sy’n amserol iawn o gofio ein bod yn cychwyn ar ein taith trwy Flwyddyn y Chwedlau yng Nghymru.”

Cynhelir yr Ŵyl yn Aberystwyth, Y Waun a Gregynog yn ogystal â phenwythnos hir mewn canolfannau ar hyd a lled Harlech ei hun, ac mae’r prif artistiaid yn cynnwys y Ricercar Consort, dan gyfarwyddyd Philippe Pierlot, yr athrylith ar y recorder Michala Petri gyda’r harpsicordydd Mahan Esfahani, y lwtenydd Thomas Dunford, y clarinetydd Robert Plane gyda’r Gould Piano Trio, y feiolinydd Sara Trickey a’r pianydd Clare Hammond, y gantores werin Gaeleg Yr Alban Joy Dunlop, a’r chwaraewr pianola rhyfeddol Rex Lawson.

Ychwanegiad arloesol eleni fydd cynhyrchiad arbennig a gomisiynwyd gan Ŵyl Gregynog gan y gyweithfa ddawns, Light, Ladd ac Emberton, ac a berfformir fel ymateb i’r llanw ar draeth Harlech.

Mae’r berfformwraig Eddie Ladd ei hun yn edrych ymlaen yn awchus at y profiad: “Ysbrydolir y cynhyrchiad dawns hwn, fel gweddill yr ŵyl yn 2017, gan greadigwrydd a dychymyg toreithiol yr artistiaid a fu’n ymweld â Harlech ganrif yn ôl, a chan Margaret Morris yn enwedig, oedd yn arloeswraig ym myd dawns a gwaith symud.

"Gwna chwedleuon a hanes Harlech yn ogystal â thirwedd syfrdanol yr arfordir ddarn a fydd yn swyno’r synhwyrau."

Mae’r Ŵyl hefyd yn cynnwys rhaglen ategol lawn o sgyrsiau, ffilmiau, teithiau, arddangosfeydd a digwyddiadau allestyn cymunedol er mwyn cyflwyno cyd-destun ac annog trigolion lleol ac ymwelwyr fel ei gilydd i chwarae rhan lawn yn y gweithgarwch.

Am wybodaeth bellach ac am docynnau ewch i http://www.gregynogfestival.org neu ffoniwch 01686 207100.    

Llun: Joy Dunlop 

Rhannu |