Mwy o Newyddion

RSS Icon
06 Mawrth 2017

'Fyddwn ni byth yn derbyn mai dyma'r gorau all pethe fod' - Heledd Fychan

Fyddwn ni byth yn derbyn mai dyma'r gorau all pethau fod, oedd neges Heledd Fychan wrth annerch Cynhadledd Wanwyn Plaid Cymru yng Nghasnewydd.

Dywedodd ei bod hi’n bryd i awdurdodau lleol wynebu’r heriau o'u blaenau a chynnig gweledigaeth glir i’r dyfodol.

Bydd Heledd yn sefyll etholiad yn Ward Tref Pontypridd fel ymgeisydd Plaid Cymru yn etholiadau cyngor lleol mis Mai.

Fel rhan o’i haraith, dywedodd Heledd Fychan: "Wrth imi fod allan yn ymgyrchu,  mae pobl yn dweud wrthyf dro ar ôl tro eu bod wedi cael llond bol o system sydd wedi torri, a sydd ddim yn gweithio ar eu cyfer.

"Mae neges Plaid Cymru yn glir - byddwn yn gweithredu dros y cymunedau a'r bobl y mae ein cynghorau i fod i'w cynrychioli."

Aeth Heledd Fychan ymlaen i amlinellu ei phryderon am effaith toriadau pellach i wasanaethau cyhoeddus o ganlyniad i Brexit:

"Ar ôl i ni adael yr Undeb Ewropeaidd, mae cynghorau yn mynd i fod o dan hyd yn oed mwy o bwysau.

"O fewn fy ward fy hun, mae rhywun yn pryderu na fyddai wedi bod yn bosibl i godi arian i adfer y Lido cenedlaethol – sy’n hynod o boblogaidd - heb y gefnogaeth ariannol a gafwyd gan yr UE.

"Mae cannoedd o brosiectau eraill sy'n llai, ond sy’n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i drigolion y dref, hefyd o dan fygythiad ac ofnaf y gallant ddiflannu.

"Rwy'n gwrthod derbyn mai dyma’r gorau all pethau fod, ac rwyf yn awchu i fod yn rhan o Gyngor sy'n cynnig gweledigaeth ar gyfer Rhondda Cynon Taf yn hytrach nag un sy'n treulio amser yn 'rheoli' toriadau.”

Llun: Heledd Fychan

Rhannu |