Mwy o Newyddion

RSS Icon
03 Mawrth 2017

Tirwedd chwedlonol yn dod nôl i’r dyfodol

Mae Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru yn dathlu gwobr loteri sy’n mynd i gychwyn y datblygiad mwyaf yn ei hanes.

Mae grant gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri a gyhoeddwyd yr wythnos yma yn ddarn olaf o’r jig-so ac yn arwydd cychwyn o’r cyfnod adeiladu o’r prosiect £7.2 miliwn i adfer y tirlun chwedlonol o un o barciau dŵr o gyfnod y Rhaglywiaeth gorau ym Mhrydain.

Meddai’r Farwnes Kay Andrews, Ymddiriedolydd y DG a Chadeirydd Cronfa Dreftadaeth y Loteri yng Nghymru:  “Wedi ei orffen, bydd y prosiect cyffrous hwn yn cadarnhau’r Ardd Fotaneg ar ben rhestr ymweliadau angenrheidiol.

"Bydd yn ddiwrnod allan heb ei ail i deuluoedd a phobl o bob oed ac yn gyrchfan hanfodol i bobl o’r tu allan i Gymru ac ymhellach hyd yn oed.”

Dywedodd yr Ysgrifennydd Economi Ken Skates AC: “Mae ein treftadaeth naturiol yn adnodd gwerthfawr, a bydd cyfuno arbenigedd garddwriaethol yr Ardd Fotaneg gyda’i hanes ei hun yn creu atyniad ymwelwyr newydd cyffrous a grymus i Gymru.

“Mae Llywodraeth Cymru yn gefnogwr balch o’r Ardd Fotaneg ac rydym yn croesawu’r buddsoddiad hwn fydd yn help i ddarparu sgiliau newydd a hyfforddiant i wirfoddolwyr a phrentisiaid.”

Dechreuodd perchnogion gwreiddiol y stad, y Middletons, gynllunio gerddi ffurfiol ar ddiwedd yr 16eg ganrif gan ddefnyddio cyfoeth a ddaeth o werthu sbeisys, perlysiau a nwyddau eraill fel sylfaenwyr yr East India Company ar ddechrau’r 17eg ganrif.

Ond bu’n rhaid aros nes y prynwyd y stad gan Aelod Seneddol Caerfyrddin, Syr William Paxton, yn 1789 cyn i’r gerddi ddechrau datblygu o ddifrif.

Ag yntau wedi ei ddylanwadu gan y pensaer tirluniol bydenwog, Capability Brown, comisiynwyd Samuel Lapidge i gynllunio’r tirlun a’r gerddi gan gynnwys parc dŵr arloesol gyda dŵr yn llifo o gwmpas y stad wedi’i gysylltu gan rwydwaith o argloddiau, llifddorau, pontydd a rhaeadrau.

Y nodweddion dŵr arloesol hyn fydd yn cael eu hail-greu er mwyn i ymwelwyr heddiw eu mwynhau.

Meddai Huw Francis, Cyfarwyddwr Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru: “Mae’r Gwanwyn yn sicr wedi gwawrio yma yn yr Ardd, ac mae’r newyddion gwych hwn yn croesawu tymor newydd a phennod newydd yn ein hanes ar yr un pryd.

“Ers inni agor ar droad y Mileniwm, rydym wastad wedi bod eisiau dathlu nid yn unig ein garddwriaeth ond hefyd ein treftadaeth.

“Dinistriwyd y tŷ ddegawdau yn ôl gan dân, ond gadawodd y gerddi nodedig ddigon o olion ar ffurf llynnoedd wedi’u draenio neu eu siltio a llwybrau wedi gordyfu.

"Bydd yr arian hwn yn golygu na fyddwn mwyach yn gorfod dychmygu sut allai’r stad fod wedi edrych, gan y gallwn yn awr ei ail-greu i’w fwynhau gan ymwelwyr heddiw. Mi fydd yn ysblennydd.”

Ychwanegodd Mr Francis bod y gwaith adfer yn mynd i ddigwydd yn gyfochrog â rhaglen gyffrous o weithgareddau a digwyddiadau’n darparu amrywiaeth o gyfleoedd i bobl gymryd rhan.

Mae amseru’r cyhoeddiad yn dda, nid yn unig yn cyd-daro gyda 'Blwyddyn Chwedlau’ a 'Blwyddyn y Môr' Croeso Cymru, ond hefyd gyda’r gyfres hynod o boblogaidd y BBC ‘Taboo’ lle mae gan yr  East India Company rhan allweddol yng nghanol drama goctel o frad, cynllwynio a thywallt gwaed. 

Mae yna gyswllt anorfod rhwng hanes a threftadaeth yr Ardd a’r Cwmni, o’i chychwyniad llewyrchus i’w dirywiad ar ddiwedd y 19eg ganrif.

Dywedodd Pennaeth Datblygiad yr Ardd, Rob Thomas, sy’n gyfrifol am y cais llwyddiannus o gyllid: “Bu’r teulu Middleton yn un o’r grymoedd gyrru tu ôl i greadigaeth yr East India Company, gan greu llinach Gymreig cyfoethog gyda chartref yng nghanol Sir Gaerfyrddin.

"Gyda’r dirywiad o gyfoeth y teulu Middleton, bu’r ystâd yn mynd i feddiant Syr William Paxton yn yr 1780au, Albanwr yn dychwelyd o’i wasanaeth gyda’r East India Company ac yn un o’r dynion mwyaf cyfoethog ym Mhrydain.

"Aeth ati i weithio, gan greu glasbrint ar gyfer y dirwedd sydd yma heddiw, gan gyflogi'r meddyliau gorau o'r dydd i ddylunio'r plasty, gerddi a’r gadwyn o lynnoedd a wnaeth amgylchynu ei gartref ar ben y bryn.

“Byddai wedi bod yn ymwybodol o’r hanes Middleton, yr oedd yn prynu i mewn. 

"Dyma oedd wir anterth yr ystâd ac nid yw’r Ardd ond yn gallu honni ei fod wedi bod yn safle o dyfu ffurfiol am fwy na 400 mlynedd, ond gall hefyd tynnu sylw at y ffaith ei fod wedi cael cychwyniad ei hun ym mhlanhigion ar gyfer iechyd gyda’r arian ohonynt a chafodd ei gynnal gan ddatblygiad a thwf yr Ymerodraeth Brydeinig.

“Mae’n chwedl anhygoel o fôr ladron, pla a phlanhigion ar gyfer iechyd a’n blot o gyfnod dros 250 mlynedd o fasnach ryngwladol o’r cyfnod o gyfnewid a thrwco i’r sefydliad o gredyd rhyngwladol a bancio buddsoddi; yn gyrru’r glasbrint o’n system gyfalafol bresennol; ac, yn nwylo Syr William Paxton, yn ffurfio bancio buddsoddi modern.”

Rhannu |