Mwy o Newyddion
Galw am ymlyniad tuag at werthoedd craidd
Galwodd Aelod Cynulliad Arfon Plaid Cymru a Gweinidog yr Wrthblaid dros Lywodraeth Leol, Sian Gwenllian, heddiw ar ymgyrchwyr yng nghynhadledd wanwyn y blaid i ddal gafael ar eu gwerthoedd craidd ac i roi cymunedau Cymru yn gyntaf.
Pwysleisiodd wrth y cynadleddwyr, mewn araith, fod budd cenedlaethol Cymru yn parhau i fod yn brif flaenoriaeth i’r blaid- ym mha bynnag ran o Gymru maent yn cynrychioli.
Dywedodd Aelod Cynulliad Arfon wrth aelodau Plaid Cymru fod rhaid iddynt fel plaid: “Gydio’n dynn iawn yn ein gwerthoedd craidd ni fel Plaid ar adeg fel hon.
"Mynnwn fod cyfiawnder a chydraddoldeb yn ennill y dydd; mynnwn na fydd Cymru yn dioddef. Mynnwn chwarae teg i bawb sydd yn byw yma.
“Gwisg genhinen yn dy gap, a gwisg hi yn dy galon – medda’r hen ddywediad – ond nid Cymry am un diwrnod ydan ni ym Mhlaid Cymru.
"Mae aelodau Plaid Cymru yn rhoi buddiannau Cymru gyntaf ar bob achlysur ac ym mhob peth yr ydym yn ei wneud.
“Mynnu cyfiawnder i un o’n trigolion – Shiromini o Fangor – wnaeth Hywel Williams, Aelod Seneddol Arfon a miloedd o bobl ar draws Cymru.
"Roedd y fyfyrwraig ar fin ei halltudio o’n gwlad dan sustem fewnfudo hollol ddiffygiol – ond cafwyd newid meddwl munud olaf – diolch i rym y bobl ddaru brotestio yn eu miloedd o dan arweiniad penderfynol Hywel.”
Wrth annerch y gynhadledd ychydig wythnosau cyn etholiadau cynghorau sir allweddol, tynnodd yr Aelod Cynulliad sylw at lwyddiant gwleidyddion Plaid Cymru o ran darparu ar gyfer cymunedau lleol ledled Cymru.
“Gwleidyddion sy’n rhoi’r pwyslais ar y lleol ydy gwleidyddion Plaid Cymru.
“Mae llawer wedi colli ffydd mewn gwleidyddiaeth a gwleidyddion – ond mae pobol Cymru yn gwybod fod gwleidyddion lleol Plaid Cymru yn gweithio efo cymunedau i’w gwella; yn gwrando ar y lleisiau lleol ; yn deall pam fod llawer wedi colli ffydd yn y sustem wleidyddol doredig sydd gennym.
“Lle mae Plaid Cymru yn rheoli rydym yn darparu gwasanaethau lleol ardderchog – er gwaetha’r prinder arian ers blynyddoedd.
“Mae’ch plentyn yn cael gwell addysg mewn cyngor Plaid Cymru.
“Mae’r amgylchedd yn cael parch mewn cyngor Plaid Cymru.
“Mae’r iaith Gymraeg yn cael parch ac urddas mewn cyngor Plaid Cymru”
“Er mwyn gwarchod y gwannaf a’r mwyaf bregus mae Cyngor Gwynedd wedi llwyddo i sicrhau datblygiadau tai gofal ychwanegol mewn tair cymuned.
“Ceredigion sydd a’r canlyniadau ailgylchu gorau yng Nghymru. Dyma’r unig awdurdod addysg yng Nghymru a farnwyd gan Estyn yn “rhagorol.”
“Mae’r haenau democratiaid sydd agosaf at y bobl yn bwysicach nag erioed yn wyneb y colli ffydd gwleidyddol ac yn wyneb yr ymosodiadau.
“Awn i ati i berswadio ar stepan y drws, perswadio pobl Cymru i yrru neges i’r rhai sy’n llywodraethu mewn bybl Llafuraidd ym Mae Caerdydd – da chi ddim digon da! Perswadio pobl Cymru i yrru neges i’r elit yn San Steffan – da chi’n deall dim am fywydau pobl gyffredin nac yn malio dim am Gymru.
“Ein gwaith ni yw argyhoeddi pobol Cymru fod ffordd amgenach, ffordd well ymlaen. Efo’n gilydd y gallwn greu Cymru gryfach ar gyfer ein teuluoedd a’n plant.”