Mwy o Newyddion
Atgyfnerthu cefnogaeth gref y Cynulliad Cenedlaethol tuag at Forlyn Llanw £1.3bn Bae Abertawe
Mae’r Aelod Cabinet Cysgodol dros Ynni, Newid Hinsawdd a Materion Gwledig Simon Thomas AC wedi arwyddo llythyr trawsbleidiol i’r Prif Weinidog Theresa May sydd yn atgyfnerthu cefnogaeth gref y Cynulliad Cenedlaethol tuag at Forlyn Llanw £1.3bn Bae Abertawe.
Mae’r llythyr i Theresa May wedi’i arwyddo gan 43 allan o’r 60 AC ac mae’n datgan: “Fel gwleidyddion, ein diddordeb cyfunol yw dyfodol llewyrchus i Gymru ac er i ni anghytuno’n aml ar lwybr y dyfodol hynny, rydym yn gwbl unedig ar y mater hwn.
"Rydym yn cynnig ein cefnogaeth glir am benderfyniad positif ar y cyfle cyntaf i sicrhau Morlyn Llanw Bae Abertawe.
“Dyma’r cyfle arloesol i sicrhau dyfodol llwyddiannus i Gymru a’r DU fel arweinydd byd-eang mewn technoleg morlyn llanw ac ynni adnewyddadwy.”
Gwnaeth yr AC dros y Canolbarth a’r Gorllewin Simon Thomas AC chyd-ysgrifennu ac arwyddo’r llythyr yn ei rôl fel Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid.
Dywedodd: “Mae’n wych i ni dderbyn cefnogaeth drawsbleidiol gryf ar lawr y Cynulliad dros y prosiect arloesol a phwysig hwn.
"Dyma ein cyfle ni yng Nghymru ac yn Ninas-Ranbarth Bae Abertawe i ddod yn arweinwyr byd-eang yn y diwydiant adnewyddadwy.
“Gobeithiaf fod y Prif Weinidog a Llywodraeth San Steffan yn gwrando ar safbwyntiau pobl Cymru a sicrhau bod y prosiect arloesol a thrawsnewidiol hyn yn mynd yn ei flaen a bod modd i’n rhanbarth ni arwain y ffordd tuag at Gymru ddisglair a glanach.”