Mwy o Newyddion

RSS Icon
03 Mawrth 2017

Llwyddiant i Sioe Lyfrau Fwyaf y Byd

Cafwyd llwyddiant ddoe, gyda Sioe Lyfrau Fwyaf y Byd 2017 yn dechrau'r dathliadau yng Nghymru ar ben-blwydd Diwrnod y Llyfr yn 20 oed.

Fe wnaeth llywydd y Sioe, yr awdur plant Steven Butler, ddiddanu 650 o blant rhwng 8 a 13 mlwydd oed, a'u harwain drwy'r profiad o glywed gan yr awduron Cathy Cassidy, Abi Elphinstone, Jim Smith ac Eloise Williams, yn ogystal â'r darlunydd Martin Brown, sy'n gyfrifol am y gyfres boblogaidd Horrible Histories.

Dywedodd Abi Elphinstone, awdur The Dreamsnatche: "Mae'r ffaith bod Diwrnod y Llyfr yn dathlu ugain mlynedd yn profi ei fod yn sefydliad poblogaidd sy'n parhau i wneud plant yn gyffrous am ddarllen.

"A pha ffordd well o ddathlu na gyda thaith Sioe Lyfrau Fwyaf y Byd? Ni chewch ddigwyddiad llenyddol i blant sy'n well na hyn."

Llun: Martin Brown, Abi Elphinstone, Cathy Cassidy, Eloise Williams & Jim Smith

Rhannu |