Mwy o Newyddion
Llwyth yn dychwelyd i lwyfannau Cymru
Yn syth wedi dangosiad yng Ngŵyl Ymylol Caeredin, mae Sherman Cymru a Theatr Genedlaethol Cymru yn dod â’r ddrama boblogaidd ‘Llwyth’ yn ôl i lwyfannau Cymru unwaith eto.
Mae’r ddau gwmni theatr blaengar wedi uno am y tro cyntaf i lwyfannau cynhyrchiad newydd o ‘Llwyth’ gan y dramodydd gwobrwyol Dafydd James yng Ngŵyl Ymylol Caeredin o’r 20-28 Awst 2011 ac ar daith trwy Gymru.
Mae’n nos Sadwrn gêm ryngwladol yng Nghaerdydd ac mae’r brifddinas yn wyllt. Mae Cymru wedi colli ond mae pedwar ffrind hoyw’n benderfynol o gael noson i’w chofio…..beth bynnag fo’r gost.
Bydd taith ‘Llwyth’ yn dechrau yn Theatr Richard Burton, Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, Caerdydd ar 13-16 Medi 2011.
Er mwyn denu cynulleidfa di-gymraeg, bydd y perfformiadau ar 14eg a’r 16eg o Fedi gydag uwchdeitlau Saesneg.
Bydd y daith yn mynd yn ei blaen i Galeri Caernarfon (20-21 Medi), Theatr Mwldan, Aberteifi (23 Medi), Y Llwyfan, Caerfyrddin (26-27 Medi), Theatr John Ambrose, Rhuthun (29 Medi) a Theatr Gartholwg, Pentre’r Eglwys (01 Hydref).
Bydd uwchdeitlau Saesneg mewn perfformiadau penodol a bydd côr lleol yn cymryd rhan mewn pob perfformiad.
Cynhyrchwyd ‘Llwyth’ yn wreiddiol gan Sherman Cymru yn Ebrill 2010 a derbyniodd adolygiadau ffafriol iawn, gyda theatrau yn llawn ar hyd a lled Cymru ac yn Llundain.
Mae ‘Llwyth’ wedi ei gyfarwyddo gan Arwel Gruffydd, Cyfarwyddwr Artistig Theatr Genedlaethol Cymru ac mae’r actorion yn cynnwys Simon Watts, Danny Grehan, Paul Morgans, Michael Humphreys a Joshua Price.
Meddai Arwel Gruffydd: “Mae’r bartneriaeth yma rhwng Sherman Cymru a Theatr Genedlaethol Cymru wedi caniatáu i’r ddrama boblogaidd yma gael ei llwyfannu unwaith eto. Trwy gynnig uwchdeitlau Saesneg mewn rhai perfformiadau, rydym yn ehangu apêl y ddrama fel bod mwy a mwy o bobl yn gallu ei mwynhau.”
Am fwy o wybodaeth am daith Llwyth ewch i www.shermancymru.co.uk a/neu www.theatr.com.