Mwy o Newyddion

RSS Icon
03 Mawrth 2017

Plaid Cymru ar genhadaeth i ail-gydbwyso Cymru - Leanne Wood

Mae Plaid Cymru ar genhadaeth i ail-gydbwyso Cymru - dyna fydd y neges heddiw gan arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood wrth iddi annerch cynhadledd wanwyn y blaid yng Nghasnewydd.

Mae disgwyl i Aelod Cynulliad y Rhondda ddweud mae ymateb i anghydraddoldeb rhanbarthol yw’r sialens fwyaf sy’n wynebu’r Gymru fodern.

Bydd hi’n dweud fod y Llywodraeth Lafur yng Nghymru wedi gwneud yr un camgymeriad â Llywodraeth y DU trwy feithrin "canolfan gorgynnes ar draul pob man arall."

Bydd hi’n dweud nad yw swyddi, cyfoeth a ffyniant yn cael eu gwasgaru'n gyfartal ar draws Cymru ac fod Plaid Cymru yn benderfynol o wneud rhywbeth am y peth.

Disgwylir i arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood AC ddweud: "Byddai Plaid Cymru yn sicrhau fod pob rhan o Gymru yn cael y cyfle i lwyddo.

"Mae’r cynlluniau sy'n bodoli eisoes yn brin o’r uchelgais sydd ei angen i ail-gydbwyso’r economi.

"Yn y gornel hon o Gymru - y de-dwyrain - mae gobeithion mawr yn cael eu rhoi ar fargen Dinas-ranbarth sy'n lledaenu pot bach o arian ymhlith hanner awdurdodau lleol ein gwlad, a hanner ein poblogaeth.

"Ni fydd hynny'n ailgydbwyso'r economi. Dyw hyn ddim yn ddigon da. Roedd gan Lywodraeth Cymru gyfle i ddangos eu bod yn awyddus i ail-gydbwyso Cymru gydag Awdurdod Refeniw Cymreig newydd.

"Cafodd Porthmadog a Wrecsam eu hanwybyddu, er bod ganddynt 400 o weithwyr treth presennol rhyngddynt. Bydd yr Awdurdod Refeniw yn sefydliad cymharol fach, gyda dim ond 40 o swyddi i ddechrau.

"Ond bydd y nifer o swyddi yn tyfu, a byddai hyd yn oed deugain o swyddi wedi gwneud llawer mwy o effaith mewn tref llai.

"Fel mai’n sefyll, mae'r penderfyniad wedi ei wneud i leoli’r corff yn Nhrefforest. Pan wnes i alw am gynifer o'r swyddi hynny â phosibl i gael eu llenwi gan bobl lleol, beth oedd ateb y Prif Weinidog?

"Y bydd y rhan fwyaf o'r swyddi yn mynd i arbenigwyr o Llundain. Nad oes gennym y sgiliau yma.

"Wel, pan fyddwch yn gyfrifol am sgiliau, tydi hynny yn dweud y cyfan? Gynhadledd, mae hynny’n dangos diffyg uchelgais Llafur i Gymru?"

Mae disgwyl iddi ychwanegu: "Mae Plaid Cymru, drwy wneud Cymru'n fwy cyfartal, yn anelu tuag at uno'r wlad. Anghydraddoldeb yw'r hyn sy’n rhannu pobl a rhanbarthau.

"Dyna pam ein bod ar genhadaeth i ail-gydbwyso Cymru. Ac rydym wedi dechrau yn barod.

"Rydym wedi rhoi'r cyswllt rheilffordd o Gaerfyrddin i Aberystwyth ar yr agenda, gan sicrhau fod astudiaeth dichonoldeb o £300,000 yn dod â hi yn nes at gael ei gwireddu.

"Ar ôl ei chwblhau, bydd Plaid Cymru wedi sicrhau'r rheilffordd fwyaf arwyddocaol yng Nghymru ers toriadau Beeching yn y 1960au.

"Byddwn yn gwneud popeth o fewn ein gallu i gael sicrwydd o hyn.

"Yn ne-ddwyrain Cymru, rydym yn pwyso am y fargen Ddinas-ranbarth i gynnwys buddsoddiad gwarantedig yn yr hen gymunedau glofaol, a rôl ddynodedig arbennig ar gyfer Casnewydd.

"Rydym wedi dweud y dylai gwaith ddechrau ar y pwyntiau hynny sydd bellaf i ffwrdd o'r canol.

"Nid ydym yn cefnogi bargen ddinesig sydd yn tynnu mwy o bobl a hyd yn oed mwy o drafnidiaeth mewn i Gaerdydd, ble mae cynghorwyr Plaid Cymru wedi bod yn ymgyrchu yn erbyn tagfeydd a gor-ddatblygiad.

"Byddwn yn cefnogi Bargen ddinesig sy'n rhannu'r cyfoeth. Rydym am i'r Admiral nesaf, y stori o lwyddiant Cymreig nesaf, i gael ei bencadlys yn rhywle fel Aberdâr, Treherbert neu Maerdy.

“Rydym yn gweld hyn fel ffordd o roi dyfodol i’r bobl yn ein hardaloedd diwydiannol i’r gogledd o’r M4. Ar y funud, mae gennym Gymru heb falans. Cymru anghyfartal.

"Gall unrhyw un sy'n teithio o amgylch y wlad hon weld drostynt eu hunain y problemau sydd gennym gydag ein seilwaith drafnidiaeth. Mae gormod o bobl yn dal i fod heb gyswllt band eang.

"Nid yw swyddi, cyfoeth a ffyniant yn cael eu gwasgaru'n gyfartal ar draws y wlad.

"Rwy’n clywed yr un teimladau o esgeulustod yn y maes glo ag yr wyf yn ei glywed yn y Drenewydd a Wrecsam, ym Mhorthmadog a Bangor.

"Yn San Steffan o dan y Torïaid  mae cyfoeth yn cael ei ailddosbarthu'n anghywir - Robin Hood tu chwith.

"Ac mae'r un peth yn digwydd yng Nghymru. Mae'r Llywodraeth Lafur yn ail-greu'r broblem o ganolfan gorboethi ar draul pobman arall.

"Mae Plaid Cymru yn darparu dewis arall. Byddem yn rhannu cyfoeth a buddsoddiad ar draws y wlad a gwneud yn siŵr nad oes dim un cymuned yn cael ei gadael ar ei hôl."

Rhannu |