Mwy o Newyddion
03 Mawrth 2017
Newydd ddyfodiaid Gwynedd yn chwifio’r ddraig goch i ddathlu Dydd Gŵyl Dewi
Roedd Canolfan Iaith Uwchradd Gwynedd yn fwrlwm o weithgareddau wrth i’r disgyblion ddathlu gŵyl ein Nawddsant a dysgu am ddiwylliant Cymru ar Fawrth y cyntaf.
Bu’r dysgwyr, sydd wedi symud o bob rhan o’r byd i Wynedd yn dysgu am hanes ein Nawddsant ni yng Nghymru, yn gwrando ar eu hoff ganeuon Cymraeg ac yn ymgymryd â llu o weithgareddau amrywiol trwy’r dydd i ddathlu'r digwyddiad.
Roedd y plant wrth eu boddau yn ymwneud â’r gweithgareddau ac yn dysgu am etifeddiaeth eu gwlad newydd.
Mae holl ddisgyblion y Ganolfan Iaith Uwchradd erbyn hyn ar fîn dychwelyd i’w hysgolion Uwchradd i dderbyn eu haddysg drwy’r Gymraeg ar ôl treulio wyth wythnos o gwrs dwys yn dysgu’r iaith.