Mwy o Newyddion

RSS Icon
03 Mawrth 2017

Dros fil o bobl yn gorymdeithio yn Wrecsam i ddathlu Dydd Gŵyl Dewi

Roedd hi'n ddiwrnod braf eithriadol yn Wrecsam ar Fawrth y 1af wrth i dros fil o bobl ddod ynghyd i ddathlu Dydd Gŵyl Dewi yng nghanol y dref.

Mae’r orymdaith fawr bellach yn ddigwyddiad blynyddol amlwg yng nghalendr tref fwyaf y gogledd, wedi ei drefnu gan Menter Iaith Maelor ar ran Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, gyda chefnogaeth rhaglen Dewch i Ddathlu’r Gronfa Loteri Fawr.

Roedd y dref dan ei sang gyda baneri Cymru a chennin Pedr wrth i bobl o bob oed ddod i gymryd rhan ac i wylio’r orymdaith trwy’r dref dan arweiniad medrus Band Cambria.

Ymunodd nifer o fudiadau lleol yn y dathlu eleni, gan gynnwys Clwb Pêl-droed Wrecsam, Prifysgol Glyndŵr, AVOW, a chynrychiolwyr o garchar newydd Carchar y Berwyn.

Roedd perfformiadau arbennig yn Sgwâr y Frenhines ar ddiwedd y daith gyda Michael Ruggiero (‘Mic ar y Meic’) yn cyflwyno a diddanu’r dorf, cyn i bawb ymuno i gyd-ganu Calon Lân a’r Anthem Genedlaethol i ddod â’r dathliadau i ben.

Dywedodd Gill Stephen, Prif Swyddog Menter Iaith Maelor: “Gwych iawn eto eleni i weld cymaint o blant Wrecsam - dros 550 ohonoynt o 10 o ysgolion y sir yn ymuno yn y dathliadau.

"Braf iawn hefyd yw’r cynnydd sylweddol yn y nifer o fudiadau lleol sydd yn cymryd rhan yn y parêd erbyn hyn.

"Mae dathliadau dydd Gŵyl Dewi wedi bod yn tyfu pob blwyddyn ac erbyn heddiw wedi’i sefydlu fel digwyddiad blaenllaw yng nghalendr Wrecsam.

"Rydym yn edrych ymlaen at weld yr orymdaith yn parhau i dyfu a pharhau i ddod â’r gymuned at ei gilydd yn y blynyddoedd nesaf.”

Rhannu |