Mwy o Newyddion

RSS Icon
02 Mawrth 2017

Gwobr am gyfraniad sylweddol ym maes gwyddoniaeth trwy gyfrwng y Gymraeg

Mewn digwyddiad arbennig i ddathlu addysg uwch cyfrwng Cymraeg yr wythnos nesaf, fe fydd academydd ifanc o Brifysgol Bangor yn cael ei gydnabod am ei gyfraniad sylweddol ym maes gwyddoniaeth trwy gyfrwng y Gymraeg.

Bydd Dr Prysor Williams, Uwch-ddarlithydd mewn Rheolaeth Amgylcheddol ym Mhrifysgol Bangor, yn derbyn Gwobr Goffa Eilir Hedd Morgan yng Nghynulliad Blynyddol y Coleg yn Abertawe ar nos Fercher 8 Mawrth.

Dyma wobr flynyddol sy’n cael ei chyflwyno am gyfraniad nodedig mewn ymchwil ac addysgu ym maes gwyddoniaeth cyfrwng Cymraeg.

Sefydlodd y Coleg y wobr hon er cof am Dr Eilir Hedd Morgan, darlithydd o dan nawdd y Coleg yn Ysgol y Gwyddorau Eigion, Prifysgol Bangor. Roedd ei farwolaeth sydyn yn 2013 yn golled ddirfawr.

Mae Prysor yn ddarlithydd uchel ei barchymysg myfyrwyr ym maes rheolaeth amgylcheddol.  Mae ei ddiddordebau ymchwil yn eang ac yn cwmpasu gwyddor pridd, pathogenau, rheoli maetholion, ansawdd dŵr, clefydau da byw, dwysau cynaliadwy mewn amaethyddiaeth a sgil-gynhyrchion anifeiliaid.

Meddai Dr Hefin Jones, Deon y Coleg Cymraeg Cenedlaethol: “Cred Prysor yn gryf mewn cyfathrebu gwyddoniaeth i gynulleidfa eang y tu allan i’r byd academaidd a daw â gwyddoniaeth yn fyw i’r gynulleidfa hynny.

“Mae’n arbennig o addas eleni bod Prysor yn defrbyn y wobr hon gan ei fod wedi bod yn gyfaill agos i Eilir.”

Yn ystod y Cynulliad, bydd tri ysgolhaig blaenllaw yn derbyn Cymrodoriaeth gan y Coleg er mwyn cydnabod eu cyfraniadau allweddol i addysg uwch cyfrwng Cymraeg dros y blynyddoedd, sef yr Athro Brynley F. Roberts, yr Athro Merfyn Jones a Dr Siân Wyn Siencyn.

Bydd Cynulliad Blynyddol y Coleg yn cael ei gynnal yn Y Neuadd Fawr, Campws y Bae, Prifysgol Abertawe am 6:30pm ar nos Fercher 08 Mawrth.

Llun: Prysor Williams

Rhannu |