Mwy o Newyddion
Trefnwyr ras feicio Tour Series yn penderfynnu peidio ymweld ag Aberystwyth eleni
Ar ôl cynnal chwe cymal llwyddiannus o ras feicio’r Pearl Izumi Tour Series, mae’r trefnwyr, Sweetspot wedi hysbysu Cyngor Sir Ceredigion na fydd y ras yn ymweld ag Aberystwyth eleni.
Mae Cyngor Sir Ceredigion wedi croesawu ras feicio’r Tour Series i Aberystwyth ers 2015 gyda chefnogaeth Gŵyl Seiclo Aberystwyth, Cynogr Tref Aberystwyth, Prifysgol Aberystwyth a chwmni Cambrian Tyres.
Yn dilyn llwyddiant y cymalau blaenorol, gwahoddwyd y cyngor i gynnal y digwyddiad unwaith eto yn 2017 a chytunodd Cabinet y cyngor wneud hynny.
Mae’r Cynghorydd Gareth Lloyd, Aelod Cabinet Ceredigion â chyfrifoldeb dros Ddatblygu Economaidd a Thwristiaeth, wedi datgan ei siom am y penderfyniad.
Dywedodd: “Mae Cyngor Sir Ceredigion wedi bod yn gefnogol iawn o ddigwyddiad Tour Series ers ei ymweliad cyntaf ag Aberystwyth gan gyfrannu yn hael at gynnal digwyddiad sydd wedi dod â miloedd o bobl i’r dref i wylio a chefnogi’r ras bob blwyddyn.
"Roedd y Cyngor wedi ymrwymo i gynnal y digwyddiad unwaith eto yn 2017 a siom o’r mwyaf oedd derbyn ebost gan Sweetspot ar 1 Mawrth yn ein hysbysu na fyddai’r ras yn ymweld ag Aberystwyth eleni wedi’r cyfan, gan bod fformat a thaith y ras drwy’r Deyrnas Unedig wedi newid eleni.
Mae’r cyngor yn awr yn trafod gyda threfnwyr Gŵyl Seiclo Aberystwyth y posiblrwydd o gynnal digwyddiad amgen a fydd yn sicrhau bod Canolbarth Cymru yn medru mwynhau’r profiad o wylio beicwyr proffesiynol a’r goreuon o blith beicwyr amaturaidd yn cystadlu yn Aberystwyth unwaith eto eleni.”