Mwy o Newyddion

RSS Icon
02 Mawrth 2017

£150,000 i gefnogi’r diwydiant cyhoeddi ar Ddiwrnod y Llyfr

I gyd-fynd â Diwrnod y Llyfr, cyhoeddodd Ken Skates, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, y bydd dros £150,000 ar gael i gefnogi’r diwydiant cyhoeddi yng Nghymru yn ystod y flwyddyn ariannol hon.

Cadarnhaodd Ysgrifennydd yr Economi, sydd hefyd yn gyfrifol am ddiwylliant a chyhoeddi, y bydd  £151,000 o gyllid cyfalaf yn cael ei  ddyrannu i Gyngor Llyfrau Cymru yn 2016/17 i alluogi’r Cyngor i wella’i bencadlys, datblygu rhagor ar ei systemau TG ac aros ar flaen y gad o ran datblygiadau digidol.

Daw’r buddsoddiad yn ychwanegol at y cyllid cyfalaf o £184,000 a roddwyd gan Lywodraeth Cymru i Gyngor Llyfrau Cymru yn ystod 2015-16 a’r cyllid refeniw ychwanegol o £123,000 a fydd yn cael ei roi i’r Cyngor yn ystod 2017/18.

Mae’n adlewyrchuymrwymiad parhaus Ysgrifennydd yr Economi i gefnogi diwydiant cyhoeddi Cymru.

Dywedodd Ken Skates: “Mae gan Gyngor Llyfrau Cymru rôl hanfodol o ran hybu a chefnogi’r diwydiant cyhoeddi yng Nghymru a sicrhau bod ystod eang o gyhoeddiadau Cymru a Cymru yn cael eu creu.

“Yn ddiweddar, rydym wedi annog cyhoeddwyr yng Nghymru i groesawu datblygiadau digidol â breichiau agored – ac i fod yn deg, maent wedi gwneud hynny gyda datblygiadau fel e-lyfrau. Erbyn hyn mae tua 1,600 o e-lyfrau ar gael.

“Pleser i mi, wrth ddathlu Diwrnod y Llyfr, yw cadarnhau bod y cyllid ychwanegol yma ar gael. Bydd yn help i Gyngor Llyfrau Cymru  ddiweddaru ei seilwaith TG a sicrhau bod ganddo’r llwyfannau hygyrch sy’n gyfeillgar i fusnes ac sy’n angenrheidiol i gefnogi’rdiwydiant.

"Bydd yn hwb sylweddol i Gyngor Llyfrau Cymru ac yn ffordd o gryfhau’r diwydiant cyhoeddi ehangach."

Dywedodd Helgard Krause, Prif Weithredwr Cyngor Llyfrau Cymru: “Rydym yn croesawu’r cyllid ychwanegol hwn, ac yn arbennig gan y bydd yn ein galluogi i fuddsoddi rhagor yn ein canolfan ddosbarthu.

"Bydd cyhoeddwyr a hefyd werthwyr llyfrau a llyfrgelloedd yn elwa ar hyn.

"Mae cefnogaeth o’r fath gan y Llywodraeth yn gwbl allweddol ar gyfer cynnal gwasanaeth effeithlon i’r diwydiant cyhoeddi yng Nghymru ar adeg o newidiadau technolegol cyflym.”

Llun: Helgard Krause, Prif Weithredwr Cyngor Llyfrau Cymru

Rhannu |