Mwy o Newyddion

RSS Icon
02 Mawrth 2017

Llywodraeth Cymru yn cynllunio Metro Gogledd-ddwyrain Cymru

Mae Ken Skates, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith, wedi rhannu ei weledigaeth ar gyfer gwella trafnidiaeth yn y Gogledd. Gwelliannau a fydd yn darparu cysylltiadau o ansawdd ar gyfer y rhanbarth sy’n gynaliadwy, yn ddibynadwy ac yn integredig.

Mae’r Ysgrifennydd wedi lansio  ‘Symud Gogledd Cymru Ymlaen - Ein Gweledigaeth ar gyfer Gogledd Cymru a Metro Gogledd-ddwyrain Cymru’ - sy’n amlinellu sut y gall cynigion uchelgeisiol fod o gymorth wrth gysylltu pobl, cymunedau a busnesau â swyddi, cyfleusterau a gwasanaethau ar draws y rhanbarth. Mae  Metro Gogledd-ddwyrain Cymru yn greiddiol i’r cynlluniau hyn.

Dywedodd Ken Skates: “Mae moderneiddio’r rhwydwaith trafnidiaeth ar draws y Gogledd a chyflenwi Metro integredig ar gyfer y Gogledd-ddwyrain yn brif flaenoriaethau i Lywodraeth Cymru.

"Byddant yn darparu llwyfan ffantastig ar gyfer datblygu economaidd sy’n gynaliadwy, ac yn ffordd wych o gysylltu pobl, cymunedau a busnesau â swyddi, cyfleusterau a gwasanaethau, a hynny drwy ddefnyddio seilwaith wydn a dibynadwy.

“Mae’n bwysicach nag erioed yn sgil Brexit bod gennym gysylltiadau da gyda marchnadoedd ar ffin Cymru a Lloegr, sydd eisoes yn cynnal tua miliwn o deithiau bob mis.

"Bydd cael cysylttiadau uniongyrchol â phrif ganolfannau Gogledd a Chanolbarth Lloegr a Llundain a chael gwasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus uniongyrchol i feysydd awyr, a phrif orsafoedd rheilffordd yn helpu i ysgogi twf economaidd.

“Rwyf eisoes wedi rhoi cyllid o bron £600 miliwn i brosiectau sy’n ymwneud â gwella’r seilwaith o ran trafnidiaeth yn y rhanbarth ac yn gweithio’n galed iawn i sicrhau cyllid ychwanegol o £41 miliwn gan yr UE ar gyfer cynlluniau trafnidiaeth yn y rhanbarth. Ond mae’n hanfodol nad diwedd y stori yw hynny.

“Rwy’n falch o gael rhannu ein gweledigaeth ar gyfer system Metro integredig ar gyfer y gogedd-ddwyrain a fydd yn trawsnewid trafnidiaeth yn y rhanbarth.

"Bydd hyn yn cael ei ategu gan waith sy’n mynd rhagddo ar ddyfodol gwasanaethau bws lleol a masnachfraint newydd rheilffordd Cymru a’r Gororau a fydd yn ei lle erbyn 2018.

“Pleser i mi hefyd yw datgan cynlluniau ar gyfer creu tîm dynodedig i gydlafurio â sefydliadau, busnesau a gweithredwyr yn y sector cyhoeddus, y trydydd sector a chymunedau’r naill ochr i’r ffin er mwyn datblygu’r weledigaeth a chreu system drafnidiaeth integredig sy’n cynnwys yr holl ffyrdd o deithio.

"Bydd hyn yn help i gyflenwi system drafnidiaeth sy’n bodloni anghenion y gogledd, a fydd yn sicrhau bod ein gweledigaeth ar gyfer y gogledd-ddwyrain yn dwyn ffrwyth.

“Mae potential aruthrol yma i ysgogi twf economaidd pellach yn y Gogledd. Mae system drafnidiaeth integredig, fodern o ansawdd uchel yn greiddiol i ddatgloi’r potensial hwnnw ac rwy’n benderfynol o sicrhau bod hyn yn digwydd.”

Dywedodd y Cynghorydd Dilwyn Roberts, Cadeirydd Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru: “Mae’r cyhoeddiad hwn yn dangos pa mor gryf yw cefnogaeth y Llywodraeth i dwf a ffyniant economaidd y gogledd, sydd yn rhoi cydraddoldeb rhyngom ni a dinas-ranbarthoedd y De.

"Yn benodol, rwy’n croesawu y dull ‘system gyfan’ a amlinellir yn y weledigaeth, sy’n cydnabod bod cysylltiad cryf rhwng iechyd a’r economi a system drafnidiaeth fodern ac effeithiol.

"Ehangwyd y cynllun er mwyn cydnabod y ffaith bod cymudwyr yn mynd a dod ar draws y ffin o ardal Mersi a’r Ddyfrdwy.

“Rwy’n edrych ymlaen at gael cydweithio ag Ysgrifennydd y Cabinet i ro’r weledigaeth hon ar waith er budd Gogledd Cymru.”

Croesawyd y newyddion gan y Cynghorydd Samantha Dixon, Arweinydd Cyngor Dwyrain Swydd Gaer a Chaer a Chadeirydd Growth Track 360, yr ymgyrch i sicrhau gwerth £1bn o welliannau rheilffordd yng Ngogledd Cymru a Swydd Gaer.

Meddai: “Bydd y weledigaeth hon yn cydweddu â’r gwelliannau rydym ni am eu gweld o ran gwella seilwaith ac integreiddio gwasanaeth fel rhan o’r ymgyrch Growth Track.

“Mae buddsoddiad fel hwn yn hanfodol os ydym am greu cyfleoedd i genedlaethau’r dyfodol.

"Byddai’r buddsoddiad hwn yn cynyddu cynhyrchiant a thwf economaidd gan gynyddu refeniw trethi a gostwng y lefel diweithdra yn yr rhanbarth.”

Llun: Ken Skates

 

Rhannu |