Mwy o Newyddion

RSS Icon
01 Mawrth 2017

Yr Egin i gael £3miliwn gan Lywodraeth Cymru

BYDD cynlluniau ar gyfer Canolfan i’r Diwydiannau Creadigol yng Ngorllewin Cymru yn derbyn £3 miliwn o gyllid gan Lywodraeth Cymru, meddai Ken Skates, Gweinidog yr Economi ddydd Mercher.  

Yn dilyn ystyried achos busnes gan Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, mae Gweinidog yr Economi wedi cytuno i neilltuo £3 miliwn o gyllid cyfalaf i gefnogi Yr Egin – prosiect fydd yn sefydlu canolfan arloesol ar gyfer y Diwydiannau Creadigol yng Nghaerfyrddin.  

Wrth drafod ei benderfyniad, dywedodd Ken Skates: “Wedi ystyried manteision economaidd, diwylliannol ac addysgol y prosiect hwn, rwy’n falch o gyhoeddi y bydd Llywodraeth Cymru yn buddsoddi £3 miliwn yn 2017/18 i gefnogi Yr Egin.

“Bydd y buddsoddiad yn helpu i ddarparu’r seilwaith sydd ei angen i gefnogi gweledigaeth y Brifysgol o glwstwr o fusnesau creadigol yng Nghaerfyrddin.   

“Bydd hyn yn ei dro yn helpu i ddod â bywyd newydd i’r economi leol, dod â swyddi ychwanegol o safon uchel i Gaerfyrddin a hyrwyddo enw da Cymru fel gwlad sy’n hybu doniau, dychymyg a chynhyrchiant. 

“Mae hefyd yn cefnogi ein hymrwymiad ehangach o hyrwyddo y Gymraeg fel iaith fyw a ffyniannus, a bydd yn helpu i gryfhau’r cysylltiad rhwng y byd academaidd a busnesau creadigol.  

“Bydd ein cefnogaeth i Yr Egin yn helpu Caerfyrddin i elwa ac adeiladu ar benderfyniad S4C i symud ei bencadlys yno, gan gynnig lle a chyfleoedd i fusnesau eraill, y Brifysgol, myfyrwyr ac entrepreneuriaid i rwydweithio.”  

Bydd buddsoddiad Llywodraeth Cymru o £3 miliwn yn helpu i godi adeilad newydd i roi llety i gwmnïau, unedau hybu i ddatblygu busnesau newydd yn y sectorau creadigol a digidol yn ogystal â lle ar gyfer digwyddiadau, neuadd gyngerdd agored, ac ystafelloedd cynhyrchu a golygu i’w defnyddio gan gwmnïau yn ogystal â’r Brifysgol. 

Dywedodd Llefarydd ar ran S4C: “Mae S4C yn croesawu cyhoeddiad Llywodraeth Cymru eu bod am gefnogi sefydlu Canolfan S4C:Yr Egin gyda chymorth grant. Bydd yr adeilad yma nid yn unig yn gartref  i bencadlys S4C ond hefyd yn gartref i glwstwr o gwmnïau sy’n gweithio o fewn y diwydiannau creadigol.

“Bydd y ganolfan yn hwb economaidd i gefn gwlad Sir Gaerfyrddin ac yn dod a swyddi da i ardal ble mae’r Gymraeg dan bwysedd.  

“Edrychwn ymlaen at weld y gwaith adeiladu yn dechrau’n fuan ac at symud i’n cartref newydd yng nghanol blwyddyn nesaf.

Rhannu |