Mwy o Newyddion

RSS Icon
01 Mawrth 2017

Plaid Cymru yn galw am sicrwydd gan Ford ar ddyfodol dros 1,000 o swyddi

Mae Aelodau Cynulliad Plaid Cymru Gorllewin De Cymru, Dai Lloyd a Bethan Jenkins, wedi galw heddiw am sicrwydd ar unwaith gan Ford a Llywodraeth Cymru yn dilyn newyddon y gall dros 1,000 o swyddi ddiflannu ar y safle Pen-y-bont cyn 2021.

Fel cyflogwr lleol pwysig, gallai effaith unrhyw golledion swyddi fod yn hynod ddifrifol i gymunedau lleol.

Ar hyn o bryd mae safle ffatri Pen-y-bont yn gwneud peiriannau ar gyfer Jaguar Land Rover a hefyd ar gyfer peiriannau Sigma Ford ond disgwylir iddynt roi'r gorau i gynhyrchu y ddau beiriant y flwyddyn nesaf.

Mae Cwmni Ford wedi nodi y bydd lleihad yn y llwyth gwaith ar ôl 2018, gan arwain at y posibilrwydd o golli cannoedd o swyddi peirianneg medrus cyn 2021.

Mewn datganiad ar y cyd, mae Aelodau Cynulliad lleol Plaid Cymru, Bethan Jenkins a Dai Lloyd, wedi galw am sicrwydd gan y llywodraeth ym Mae Caerdydd ac oddi wrth y cwmni.

Dywedodd yr Aelod Cynulliad Dai Lloyd, llefarydd Plaid Cymru ar Seilwaith: "Mae hwn yn ddatblygiad sy'n peri pryder eithriadol i Ben-y-bont a'r rhanbarth ehangach.

"Rydym wedi gweld ansefydlogrwydd yn fy ardal ynghylch colli swyddi yn y dyfodol o gyflogwr mawr arall lleol - Tata Steel - mater sydd yn parhau heb ei ddatrys yn llawn.

"Felly ni allai'r cyhoeddiad gan gwmni Ford fod wedi dod ar adeg gwaeth i weithwyr, teuluoedd a busnesau sy’n dibynnu ar y safle.

“Y flwyddyn ddiwethaf awgrymodd Llywodraeth Cymru fod swyddi yn ddiogel ar gyfer y tymor byr i ganolig.

"Yn y naw mlynedd diwethaf mae Llywodraeth Cymru wedi gwario dros £40 miliwn  ar Ford ym Mhen-y-bont. Yn wyneb y cyhoeddiad heddiw, bydd llawer o bobl yn gofyn – ar gyfer beth oedd hyn"?

Dywedodd llefarydd Plaid Cymru ar Gymunedau a Thlodi, Bethan Jenkins: "Rwy'n flin am y cyhoeddiad hwn. Mae hwn yn gwmni sydd wedi cael cefnogaeth sylweddol iawn a chyson gan y wladwriaeth yn y gorffennol, Llywodraeth Cymru a San Steffan.

"Mae hyn er gwaethaf hanes Ford o driniaeth annheg o gyn-weithwyr Ford, pan wnaethont i Visteon, gan roi eu pensiynau mewn perygl pan aeth y cwmni i'r wal.

"Mae angen i ni wybod beth a phryd oedd y Llywodraeth Lafur yng Nghymru  yn gwybod am hyn a pha gynlluniau wrth gefn sydd yna wrth symud ymlaen?

"Pan fyddwn yn ystyried prynu Jaguar Land Rover gan Tata a'r buddsoddiad mawr mewn cyfleusterau yng Ngorllewin Canolbarth Lloegr, mae hyn yn risg  amlwg i safle Ford ym Mhen-y-bont a chynhyrchu injan ar gyfer Jaguar Land Rover a byddem yn disgwyl fod gan Lywodraeth Cymru gynlluniau ar gyfer sefyllfa fel hon. Os nad oes cynlluniau - pam ddim?"

Arweiniodd Adam Price AC, Ysgrifennydd Cabinet yr Wrthblaid Plaid Cymru dros yr Economi, gwestiwn brys yn y Cynulliad Cenedlaethol heddiw.

Wrth gwestiynu  Ysgrifennydd Cabinet y Llywodraeth, dywedodd Mr Price: "Os fydd yr ofn o golli dwy ran o dair o'r gweithlu Ford yn cael ei wireddu - yr ydym wrth gwrs yn gobeithio nad yw'n cael ei wireddu - byddai'n cynrychioli argyfwng economaidd yr un mor ddifrifol ag a welwyd yn ddiweddar yn ein diwydiant dur.

"Dylai Llywodraethau Cymru a'r DU weithredu tuag at drefnu uwchgynhadledd ar frys i amddiffyn y diwydiant moduro yng Nghymru a'r DU.

"Dylai Prif Weinidog Cymru, sydd ar hyn o bryd yn yr Unol Daleithiau, ddiwygio ei gynlluniau teithio i gwrdd â rheolwyr Ford yn Detroit.” 

Llun: Dai Lloyd AC

Rhannu |