Mwy o Newyddion

RSS Icon
01 Mawrth 2017

Croesawu uwchraddio rhwydwaith symudol yn Nwyfor Meirionnydd

Mae Aelod Seneddol Plaid Cymru dros Ddwyfor Meirionnydd, Liz Saville Roberts wedi croesawu gwaith uwchraddio i’r rhwydwaith ffonau symudol lleol yn dilyn cadarnhad gan EE eu bod yn bwriadu gosod mastiau newydd yn Nwyfor Meirionnydd ynghyd ag uwchraddio’r rhwydwaith bresenol.

Bydd y safleoedd newydd yma yn gwella argaeledd gwasanaeth i bobl lleol ynghyd â chysylltu’r gwasanaethau brys fel rhan o ymrwymiad EE i ddarparu Rhwydwaith Gwasanaethau Brys.

Mae’r Aelod Seneddol wedi bod yn ymgyrchu i wella gwasanaeth a signal ar draws Dwyfor Meirionnydd ers cael ei hethol, ac mae eisoes wedi cyfarfod â sawl darparwr i lobîo am well gwasanaeth.

Mae Mrs Saville Roberts yn galw ar ddarparwyr eraill i ddilyn yr un esiampl a gwneud mwy i bontio’r bwlch digidol rhwng ardaloedd gwledig a threfol

Mae tri safle newydd eisioes wedi derbyn caniatad cynllunio; y cyntaf ar yr A4212 ger Llyn Celyn, Y Bala, safle sydd yn dioddef diffyg signal.

Mae’r ail safle yn Edern, Morfa Nefyn ym Mhen Llŷn tra bod y trydydd yn Aberllefenni ym Meirionnydd.

Mae’r safleoedd i gyd wedi derbyn caniatad cynllunio ond bydd yn rai misoedd eto cyn iddynt fod yn gweithredu.

Dywedodd Liz Saville Roberts: “Mae argaeledd signal ffonau symudol wedi bod broblem hirfaith i lawer o drigolion, busnesau ac ymwelwyr yn Nwyfor Meirionnydd, yn enwedig mewn rhannau mwy anghysbell o'r etholaeth.

“Mae'n galonogol fod un o ddarparwyr telathrebu symudol mwyaf yn y DU wedi penderfynu uwchraddio eu gwasanaethau ac mae ganddynt gynlluniau uwchraddio pellach i'r rhwydwaith symudol lleol.

“Rwy’n gobeithio y bydd y buddsoddiad yma mewn seilwaith symudol yn gwella cyflymder i gwsmeriaid 4G EE ac annog darparwyr eraill i fuddsoddi ac uwchraddio eu gwasanaethau.

"Mae'r ffordd rhwng Trawsfynydd a'r Bala yn enwog am ddiffyg signal ffôn a gall y daith fod yn arbennig o unig yn ystod y gaeaf, o ystyried y amgylchedd anghysbell a diffyg cyfathrebu.

“Rwy’n falch felly y bydd un o'r safleoedd newydd hyn o fudd i ddefnyddwyr y ffordd a'r rhai sy'n byw ar hyd rhan ddwyreiniol yr A4212 ger Y Bala.

"Byddaf hefyd yn pwyso am uwchraddio pellach ar hyd gweddill y ffordd ac o amgylch y cymunedau cyfagos.

“Rwyf wedi dadlau'n gyson am well gwasanaeth symudol mewn ardaloedd gwledig ac yn ystod cyfarfod diweddar â darparwyr rhwydwaith bûm yn gwthio am fuddsoddiad pellach mewn seilwaith ddigidol yn Nwyfor Meirionnydd.

“Mae'n bwysig fod y rhai sy'n byw ac yn gweithio o fewn fy etholaeth wledig yn derbyn yr un safon band eang a chysylltedd symudol ag ardaloedd trefol.

“Rwy'n gobeithio bydd y buddsoddiad hwn mewn seilwaith yn gwneud bywyd yn haws i fy etholwyr ac yn helpu ein busnesau gwledig i gystadlu'n well ac rwy'n edrych ymlaen at groesawu safleoedd pellach dros y misoedd nesaf.”

Llun: Liz Saville Roberts AS yn cyfarfod ag EE (Alex Jackman a Richard Wainer) yn Llundain gyda Hywel Williams AS

Rhannu |