Mwy o Newyddion
Cyfryngau newydd, problem newydd?
Mae adroddiad newydd gan Alcohol Concern Cymru yn edrych ar y perygl i blant a phobl ifanc weld deunydd sy’n marchnata alcohol a negeseuon o blaid diota drwy’r rhyngrwyd.
Mae’r adroddiad Cyfryngau newydd, problem newydd? yn datgelu sut y mae gwefannau rhyngweithio cymdeithasol fel Facebook a gwefannau rhannu fideos fel YouTube yn dod yn fwyfwy pwysig i gwmnïau alcohol er mwyn hyrwyddo eu cynnyrch. Mae’n dangos hefyd mor annigonol yw tudalennau profi oedran ar-lein ar gyfer atal rhai o dan 18 oed rhag gweld deunydd ar gyfer oedolion.
At hyn, mae’n tynnu sylw at y ffordd y mae defnyddwyr gwefannau rhwydweithio cymdeithasol yn aml yn gosod lluniau a disgrifiadau ohonynt eu hunain yn yfed ac yn feddw, ac yn gofyn pam mae cymaint ohonom yn dewis rhoi cyhoeddusrwydd o’r fath i’r ffaith ein bod ni’n yfed alcohol.
Meddai Mark Leyshon o Alcohol Concern Cymru: “Mae’r diwydiant alcohol wedi manteisio’n effeithiol iawn ar dechnoleg y rhyngrwyd fel ffordd i hyrwyddo ei gynnyrch. Mae gan y rhan fwyaf o’r prif gwmnïau diodydd bresenoldeb ar Facebook neu Twitter, yn ogystal â’u gwefannau eu hunain sy’n aml yn cynnwys pethau sy’n debygol o ddenu pobl ifanc, fel gêmau a fideos, cystadlaethau a gwobrau.
“Mae perygl gwirioneddol fod plant a phobl ifanc yn gweld marchnata alcohol ar wefannau o’r fath, yn enwedig o gofio bod dulliau profi oedran yn aneffeithiol ar y cyfan. Mae hyn yn destun pryder arbennig o gofio bod ymchwil yn dangos y gall hysbysebu a marchnata alcohol gael effaith arwyddocaol ar benderfyniadau pobl ifanc am alcohol.
“Hefyd, mae’n fwyfwy cyffredin i bobl ifanc ddefnyddio gwefannau fel Facebook a YouTube i sôn am eu partïon a’u nosweithiau allan, gan roi manylion am eu hyfed trwm a thrafod eu hoff ddiodydd. Mae nifer o grwpiau Facebook am ddiodydd yn adlewyrchu hysbysebion swyddogol y diwydiant diodydd ac yn defnyddio logos diodydd swyddogol. Mae pobl o bob oedran yn gallu gweld llawer o’r rhain yn hawdd. Mae rhannu negeseuon o blaid yfed fel hyn yn helpu normaleiddio diota – po fwyaf o bobl sy’n gweld delweddau a disgrifiadau o oryfed yn gyson, y mwyaf normal a derbyniol y mae’r ymddygiad hwn yn ymddangos.”
Mae Alcohol Concern yn argymell y canlynol:
· O gofio apêl gref gwefannau rhwydweithio cymdeithasol i bobl ifanc, ni ddylid caniatáu marchnata alcohol swyddogol arnynt
· Dylai cynhyrchwyr alcohol a gweinyddwyr gwefannau fynd ati i roi terfyn ar ddefnyddio logos diodydd a delweddau hysbysebu heb awdurdod ar wefannau rhwydweithio cymdeithasol
· Mae tudalennau profi oedran yn aneffeithiol ar gyfer cyfyngu mynediad pobl ifanc i wefannau sydd â chynnwys sy’n gysylltiedig ag alcohol. Mae angen rhagor o waith er mwyn dod o hyd i ffyrdd gwell i reoli mynediad, ac yn y cyfamser ni ddylai gwefannau brandiau alcohol gynnwys dim ond gwybodaeth ffeithiol foel am gynnyrch
· Mae angen i gyrff iechyd wrthwynebu marchnata alcohol swyddogol a negeseuon o blaid yfed ar y rhyngrwyd drwy groesawu a defnyddio’r cyfryngau newydd eu hunain er mwyn hyrwyddo negeseuon iachus am alcohol.