Mwy o Newyddion

RSS Icon
01 Mawrth 2017

Mudiad ieuenctid Plaid Ifanc yn annog 'dathlu ac ymfalchïo mewn Cymreictod' ar ddydd Gŵyl Dewi

Mae mudiad ieuenctid Plaid Cymru, Plaid Cymru Ifanc, wedi annog dinasyddion Cymru i ‘ymfalchïo’ a ‘dathlu Cymreictod gyda’n gilydd’ yn eu neges Gŵyl Ddewi swyddogol a gyhoeddwyd heddiw.

"Mae Dydd Gŵyl Ddewi, ein diwrnod cenedlaethol, yn gyfle i ni adlewyrchu ar ein llwyddiannau fel cenedl ac i gofio’r rheiny sydd wedi dod o’n blaenau," eglurodd cadeirydd y mudiad, Emyr Gruffydd.

"Ond mae hefyd yn gyfle i ail edrych ar y gwaith sydd dal i’w wneud fel mudiad cenedlaethol dros Gymru."

Er mae’r mudiad yn cyfaddef fod 2016 wedi bod yn flwyddyn anodd.

Ychwanegodd Emyr: "Bydd ymgyrch atgas Brexit oedd yn llawn o’i gorryn i’w sawdl gydag agweddau o imperialaeth Brydeinig hiliol a haerllug, a’r canlyniadau siomedig a ddilynodd, yn siŵr o gael effaith go drwm ac annelwig ar gymdeithas Cymru’r dyfodol."

Ond fe gaiff buddugoliaeth Leanne Wood yn y Rhondda a thwf Plaid Ifanc ei crybwyll fel "ysbeidiau o obaith".

"Dyw’r byd ddim a’r ben ac mae angen i ni ystyried agweddau cadarnhaol o Gymru a Chymreictod, a’r gwerthoedd mae ein cymdeithas a’n cenedl wedi ei feithrin ynom, yn ogystal a pharhau i ymladd dros gymdeithas annibynnol, oddefgar, gymdeithasol gyfiawn a diwylliannol."

Mae’r neges hefyd yn crybwyll cofio hanes Cymru a’r bobl fu’n rhan ohoni megis merched fu’n gorfod brwydro yn erbyn gorhtrwm ac ymddygiad rhywiaethol, undebwyr llafur, ymgyrchwyr iaith a’r rheiny sydd wedi siapio’r Gymru fodern.  

Bydd cynhadledd flynyddol Plaid Cymru Ifanc yn cael ei gynnal ar yr 8 Ebrill yn Abertawe am 10.30 o’r gloch y bore.

Am fwy o wybodaeth cysylltwch â info@plaidifanc.org

Llun: Rhai o aelodau Plaid Ifanc a fynychodd yr ysgolion gaeaf ym Mangor a Chastell Nedd ym mis Ionawr

Rhannu |