Mwy o Newyddion

RSS Icon
28 Chwefror 2017

Rasio gwyllt ar y Fenai

Cynhelir rasys dŵr cyffrous ar y Fenai ger Caernarfon yr haf hwn pan bydd taith y ThunderCats yn ymweld ag arfordir gogledd Cymru am y tro cyntaf.

Bydd cyfle i bobl ddod i Gaernarfon wylio’r rasys ThunderCats - sef cychod catamaran rwber yn cael ei gyrru gan injan 50hp a chriw o ddau berson - ar Afon Menai ar benwythnos 17 a 18 Mehefin.

Gall y cychod deithio ar gyflymer o 50 milltir fôr ac mae disgwyl iddo fod yn ddigwyddiad poblogaidd iawn, gyda haid o bobl yn dilyn y gystadleuaeth o gwmpas gwledydd Prydain.

Croesawyd y newyddion y bydd y penwythnos yn cael ei gynnal yng nhre’r Cofis gan y Cynghorydd Ioan Thomas, un o aelodau Cabinet Cyngor Gwynedd.

Dywedodd: “Mae’n newyddion da iawn fod y ThunderCats wedi cytuno i ddod i Gaernarfon ar gyfer penwythnos o rasio cyffrous.

"Bydd y sesiwn Sadwrn yn rhan o Ddiwrnod Lluoedd Arfog Gogledd Cymru a bydd o leiaf un tîm o gyn-aelodau o’r lluoedd arfog sydd wedi dioddef anafiadau difrifol yn cymryd rhan.

"Hoffwn ddiolch i’r Is-Gyrnol Mark Powell am ei gyfraniad tuag at drefnu’r digwyddiad.

“Mae’n realistig i ni ddisgwyl oddeutu 10,000 o ymwelwyr dros y penwythnos a bydd hyn o fudd mawr i fusnesau lleol.

"Cynhelir y rasys ar y dŵr ger Prom Caernarfon - gyda chaniatâd Ymddiriedolaeth yr Harbwr - ble bydd cyfle i’r dorf wylio’r rasio a bydd yr holl adloniant yn rhad ac am ddim.

"Mae’r ThunderCats yn denu gwylwyr triw sy’n eu dilyn yn rheolaidd o gwmpas Prydain.

“Byddwn yn cyfarfod cyn bo hir efo busnesau lleol er mwyn rhannu mwy o wybodaeth am y penwythnos a’r cyfleon fydd yn codi o gynnal y digwyddiad.

"Mae trafodaethau cychwynnol eisoes wedi eu cynnal efo Clwb Hwylio Brenhinol Cymru a’r Clwb Hwylio.”

Ychwanegodd Fiona Pascoe, Cyfarwyddwr ThunderCat Racing UK: “Yn dilyn cyfarfod efo’r Cynghorydd Ioan Thomas a phartneriaid eraill, gallwn gadarnhau y bydd ThunderCat Racing UK yn dod i Gaernarfon.

"Mae timau o bob cwr o Brydain yn edrych ymlaen yn arw at gael cystadlu mewn lleoliad mor braf, sydd efo hanes cyfoethog ar y dŵr ac ar y lan.

"Mae’r gamp hon, sy’n llawn egni a bwrlwm, yn addo difyrrwch mawr i’r gynulleidfa a bydd yn dod a chynnwrf i lannau’r Fenai.

"Uchafbwynt y penwythnos fydd cyfle i weld pencampwyr Prydeinig 2016 sef y Cymry Rob Davies a Darren Phillips o dîm Magor.

“Os hoffai unrhyw un fod yn rhan o’r profiad ThunderCat, rydym yn frwd dros gynnwys pawb ac yn cynnig profiadau i fyfyrwyr a rheini sydd â diddordeb mewn cychod modur a sy’n awyddus i fod yn ei chanol hi. Felly am fwy o wybodaeth cysylltwch os gwelwch yn dda efo tracey@thunderuk.com

“Hoffwn ddiolch i’r Cynghorydd Ioan Thomas am ein gwahodd i fod yn rhan o’r penwythnos hwn.”

Bydd y digwyddiad, sy’n cael ei lywodraethau gan y Gymdeithas Hwylio Frenhinol (RYA), yn cynnwys 24 cwch catamaran pedair metr o hyd sy’n cynnwys injan bwerus deustroc 50hp, sy’n ei wneud yn gamp llawn adrenalin i’r cystadleuwyr.

Bydd y rasys poblogaidd yn llawn cynnwrf a chyffro i’r rhai sy’n gwylio o ddiogelwch y lan hefyd.

Am fwy o wybodaeth am daith y ThunderCats, ewch ihttp://www.thundercatracing.com

Mae disgwyl i’r penwythnos i fod yn llawn hwyl i’r teulu cyfan. Yn ystod y penwythnos, bydd Caernarfon yn gartref i ddigwyddiadau Diwrnod Lluoedd Arfog Gogledd Cymru yn ogystal. Bydd mwy o fanylion am y gweithgareddau ar gael dros y misoedd nesaf.

Llun: Yr Is-Gyrnol Mark Powell o’r 160ain Frigâd Troedfilwyr a Phencadlys Cymru, Fiona Pascoe o ThunderCats a’r Cynghorydd Ioan Thomas yn swyddfeydd Cyngor Gwynedd, yn trafod rasys ThunderCats fydd yn cael eu cynnal ar y Fenai

Rhannu |