Mwy o Newyddion
Plaid Cymru yn sicrhau llinell uniongyrchol gyda Gweinidogion Brexit
Wrth gyfarfod gyda’r Adran dros Adael yr Undeb Ewropeaidd ddoe, mae dirprwyaeth Plaid Cymru wedi sicrhau llinell gyfathrebu uniongyrchol â Gweinidogion Brexit.
Cyfarfu Jonathan Edwards AS, Steffan Lewis AC a’r Arglwydd Dafydd Wigley ag Adran Brexit yn 9 Stryd Downing i drafod blaenoriaethau Cymru ym mhapur gwyn Plaid Cymru-Llywodraeth Cymru ar y cyd, a gyhoeddwyd gan Leanne Wood a Phrif Weinidog Cymru, Carwyn Jones.
Yn ystod y cyfarfod, ail-adroddodd dirprwyaeth Plaid Cymru eu hymrwymiad i weld Cymru yn cadw aelodaeth o’r Farchnad Sengl, i Gymru beidio â cholli ceiniog o gyllid, ac i beidio â chymryd unrhyw gam datganoli yn ôl.
Rhoddwyd sicrwydd yn y cyfarfod fod pob sianel gyfathrebu yn agored i Blaid Cymru i’w defnyddio yn y dyfodol i sicrhau dyfodol Cymru yn ystod trafodaethau Brexit.
Wedi’r cyfarfod, meddai Jonathan Edwards AS, llefarydd Plaid Cymru ar Brexit yn San Steffan: “Plaid Cymru yw’r unig blaid sydd yn rhoi Cymru ar agenda Brexit.
"Yr ydym yn falch fod adran Brexit wedi rhoi sicrwydd fod croeso i ni gwrdd â hwy ar unrhyw bwynt i hybu blaenoriaethau Cymru trwy gydol y broses.
"Mae’n hen bryd i Gymru gael mwy na geiriau teg pan ddaw’n fater o Brexit ac fe wnaf yn siŵr fod llais Cymru i’w glywed bob cam o’r ffordd.”
Meddai Steffan Lewis AC, llefarydd Plaid Cymru yn y Cynulliad ar Faterion Allanol: “Rwy’n benderfynol o rai Cymru ar flaen meddyliau Gweinidogion Brexit pan fyddant yn llunio eu safbwynt trafod.
"Yn wahanol i Lywodraeth Lafur Cymru, wnaf i ddim sefyll o’r neilltu a gadael i bapur gwyn Cymru gael ei anwybyddu.”
Dywedodd yr Arglwydd Dafydd Wigley, sydd ar hyn o bryd yn dal Llywodraeth y DG i gyfrif wrth i Fesur Erthygl 50 fynd trwy Dŷ’r Arglwyddi: “Ni ddylai Llywodraeth y DG ddefnyddio canlyniad y refferendwm i wthio Brexit niweidiol trwy’r Senedd fel bod Cymru yn dioddef yn anghymesur.
"Rwy’n bendant yn f’ymrwymiad i weld Cymru yn cadw masnach rydd gyda Marchnad Sengl yr UE a byddaf yn defnyddio’r llinellau cyfathrebu sydd newydd eu ffurfio i ddwyn pwysau ar Lywodraeth y DG i wrando ar ein gofynion.”
Llun: Yrt Arglwydd Wigley