Mwy o Newyddion

RSS Icon
28 Chwefror 2017

‘Rhaid gwrthdroi’ toriadau i gronfa’r teulu - Rhun ap Iorwerth

Mae Ysgrifennydd Cabinet cysgodol Plaid Cymru dros Iechyd, Rhun ap Iorwerth, wedi amlinellu bwriad y blaid i fynd a thoriadau Llywodraeth Cymru i deuluoedd anabl i bleidlais yn y Cynulliad.

Mae’r toriadau – o ryw £2 miliwn – wedi eu gwneud i Gronfa’r Teulu, cronfa sydd yn rhoi grantiau i deuluoedd plant anabl sydd ar incwm isel.

Mae Cronfa’r Teulu yn gweithredu ar draws y DG, ac yn derbyn cyllid gan bob llywodraeth i ddosbarthu yn eu hardaloedd.

Mae Lloegr a’r Alban wedi cadw’r cyllid.

Gellir defnyddio grantiau Cronfa’r Teulu ar gyfer amrywiaeth o eitemau a all ysgafnhau’r baich o ofalu am blentyn difrifol anabl, gan ddarparu tua £500 y flwyddyn i deuluoedd ar incwm isel sydd fwyaf angen help.

Mae modd ei ddefnyddio ar gyfer cyfarpar synhwyraidd, seibiant byr, a’r costau sy’n gysylltiedig â gofalu am blentyn anabl. Mae’r grantiau ar gael yn unig i deuluoedd ar yr incwm isaf.

Yng Nghymru, fodd bynnag, penderfynodd Llywodraeth Cymru yn 2016 i fynnu fod Cronfa’r Teulu yn gwneud cais am eu cyllid o Gynllun Grant Trydydd Sector y Gwasanaethau Cymdeithasol Cynaliadwy.

Oherwydd bod Cronfa’r Teulu yn dosbarthu grantiau yn uniongyrchol i’r teuluoedd tlotaf, nid yw’n debyg o sgorio’n uchel yn y meini prawf ymgeisio, a sut bynnag, bydd yn dal i adael bwlch cyllido o ryw £2 miliwn.

Mae hyn yn golygu y bydd rhyw 4,000 o’r teuluoedd tlotaf ar eu colled.

Wrth siarad yng nghyfarfod wythnosol ei blaid i’r wasg, amlinellodd Mr ap Iorwerth fwriad ei blaid i alw pleidlais yn y cyfarfod llawn ar y toriadau.

Meddai Rhun ap Iorwerth AC: “Rydym wedi arfer â Llywodraethau Torïaidd yn torri budd-daliadau pobl anabl.

"Ond nid ydym wedi arfer gweld y toriadau hyn yn cael eu gwneud gan Lywodraeth Lafur Cymru pan nad ydynt yn cael eu gwneud mewn mannau eraill yn y DG.

"Bydd 4,000 o deuluoedd ar incwm isel fydd ar eu colled oherwydd styfnigrwydd Llafur Cymru.

"Ond ar waethaf misoedd o ymgyrchu gan fudiadau pobl anabl a gofalwyr, heb sôn am bryder ynghylch y penderfyniad y tu ôl i’r llenni, nid yw’r toriadau eto wedi eu gwrthdroi.

"Nid yw Plaid Cymru yn credu bod hyn yn  dderbyniol, ac felly fe fyddwn yn mynd â hyn i bleidlais.”

Llun: Rhun ap Iorwerth

Rhannu |