Mwy o Newyddion

RSS Icon
28 Chwefror 2017

Croesawu adran frys newydd i Ysbyty Gwynedd

Mae AC Arfon Sian Gwenllian wedi croesawu’r newyddion bod Ysbyty Gwynedd am gael adran frys newydd o’r diwedd.

Cymeradwyo bron £14 miliwn i wella adran Damweiniau ac Achosion Brys Ysbyty Gwynedd

Medd Sian Gwenllian: "Rydym wedi aros yn rhy hir am y newyddion yma ac rwyf yn awyddus i ddiolch yn fawr i’r rhai sydd wedi gweithio’n ddi-flino dros gael yr adnoddau newydd sbon yma, ac i’r rhai sydd wedi ymgyrchu efo fi i gael y buddsoddiad yma.

"Mae’r adran fel mae hi lawer rhy fach a hen ffasiwn i fedru gwasanaethu’r 52,000 o gleifion sydd ei angen bob blwyddyn.

"Mi fydd pobol gogledd orllewin Cymru yn cael dipyn gwell chwarae teg ac rwy’n arbennig o falch bod ardal ar wahan wedi ei bennu ar gyfer trin plant.

"Dymunaf ddiolch i’r staff sydd wedi darparu gwasanaeth ardderchog yma dros nifer o flynyddoedd er gwaetha’r adnoddau anfoddhaol.

"Maent hwythau hefyd yn haeddu cael gweithio mewn awyrgylch mwy addas.

"Maen nhw rŵan yn wynebu cyfnod o heriol o geisio cynnal y gwasanaeth tra bod y trawsnewid a’r adeiladu yn mynd yn ei flaen ond rwy’n argyhoeddiedig y bydd y canlyniad yn ei wneud yn werthchweil.

"Edrychaf ymlaen at weld y cynllun ar waith fis nesaf."

Llun: Sian Gwenllian

 

Rhannu |