Mwy o Newyddion
Sticeri, tystysgrifau a fideo Cymraeg newydd i blant i ddathlu Gŵyl Dewi
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn dathlu Dydd Gŵyl Dewi trwy lansio cyfres o sticeri a thystysgrifau Cymraeg ar gyfer plant sy’n ymweld â’r ysbyty neu’r meddyg teulu.
Bydd y nwyddau newydd yn cael eu dosbarthu i holl wasanaethau plant ar draws Sir Gâr, Sir Benfro a Cheredigion yn ogystal â gwasanaethau Gofal Sylfaenol gyda’r bwriad o roi gwên ar wynebau plant a’u gwobrwyo gyda nwyddau Cymraeg.
Mae’r gyfres yn cynnwys tri math gwahanol o sticeri lliwgar a thystysgrif Ti’n seren! i wobrwyo plant am eu dewrder.
Mae hefyd gweithgaredd lliwio ar gefn y dystysgrif gyda lluniau arwr y Bwrdd Iechyd sef Capten G, sy’n ymddangos mewn fideo i blant sy’n mynychu ysbytai Bronglais, Llwynhelyg neu Glangwili.
Dywedodd Enfys Williams, Rheolwr Gwasanaethau’r Gymraeg Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Roedd nifer o weithwyr iechyd wedi dweud wrthym fod ‘na ddiffyg nwyddau cyfrwng Cymraeg i roi i blant sy’n ymweld â’u gwasanaethau ac o ganlyniad, mae’r Bwrdd Iechyd wedi dylunio a chreu’r nwyddau newydd i’w dosbarthu.
"Mae ein gweithwyr iechyd mewn meddygfeydd ac ar y wardiau yn gweld llawer o blant yn ddyddiol a nifer ohonynt yn Gymraeg iaith gyntaf.
"Maent yn rhoi sticeri neu dystysgrifau i’w gwobrwyo am fod mor ddewr yn rheolaidd, ond yn aml, dim ond adnoddau Saesneg sydd ar gael.
"Gobeithiwn yn fawr y bydd sticeri a’r tystysgrifau’n boblogaidd, a bydd gweithwyr iechyd ar draws y tair Sir yn falch o’r cyfle i wobrwyo plant gyda nwyddau sydd mewn iaith cyfarwydd iddynt.”
Yn ogystal mae’r Bwrdd Iechyd wedi wedi creu fideo i bwysleisio pwysigrwydd yr iaith Gymraeg mewn gofal iechyd.
Yn serennu yn y fideo mae Ioan Downes sy’n ddwy-flwydd-oed, a anwyd 6 wythnos yn gynnar yn Ysbyty Glangwili, ac fel llawer o'r plant yng Ngheredigion, Sir Gâr a Sir Benfro, ei iaith gyntaf yw'r Gymraeg.
Dywedodd Dan Downes, tad Ioan: "Rydym yn codi Ioan mewn cartref Cymreig a hyd yn hyn nid yw wedi cael ei gyflwyno i'r iaith Saesneg.
"Fel baban cyn-amser, mae Ioan yn defnyddio’r gwasanaethau iechyd yn rheolaidd ac mae'n holl bwysig i ni fel ei rieni ei fod yn cael ei drin yn ei famiaith fel bod yr asesiadau ar ei gynnydd mor gywir ag y bo modd."
Dywedodd Dr Llinos Roberts, meddyg teulu ym Meddygfa Tymbl: "Fel meddyg teulu, mae gallu cyfathrebu'n effeithiol gyda chleifion yn gwbl angenrheidiol er mwyn cynnig y gofal gorau.
“Mae cynnal sgwrs yn newis iaith y claf felly yn allweddol er mwyn hwyluso'r cyfathrebu, ac mae'r sefyllfa hyd yn oed yn fwy perthnasol wrth drin plant sydd yn siarad Cymraeg yn unig.
"Yn fy mhrofiad i mae gallu sgwrsio gyda phlant fel hyn yn Gymraeg nid yn unig yn gwneud iddyn nhw ymlacio a theimlo'n gyfforddus gyda mi, ond hefyd yn fy ngalluogi i gyfathrebu'n uniongyrchol gyda'r plentyn heb orfod dibynnu ar unrhyw un i gyfieithu.
"Gall y profiad o fynd i weld meddyg fod yn un brawychus i blentyn, ond mae cael gweld meddyg sy'n siarad yr un iaith â nhw yn gwneud byd o wahaniaeth ac yn eu galluogi i esbonio'n glir sut maen nhw'n teimlo."
Bydd y bwrdd iechyd yn dangos y fideo i'r holl staff newydd yn eu Sesiwn Gynefino ac mewn sesiynau Ymwybyddiaeth Iaith Gymraeg a gynhaliwyd ar draws y sefydliad.
Llun: Gwenan Davies, Uwch Swyddog y Gymraeg, Gill Edwards, Nyrs ym Meddygfa Furnace House Caerfyrddin, Megan, defnyddiwr gwasanaeth ENT, Glangwili a Mari James, Arbenigwr Chwarae Ward Cilgerran, Ysbyty Glangwili.