Mwy o Newyddion

RSS Icon
27 Chwefror 2017

Esgob Bangor yn ymuno â galwadau i atal allgludiad Shiromini Satkunarajah

Mae Esgob Bangor, y Gwir Barchedig Andy John, wedi ymuno â galwadau i atal allgludiad Shiromini Satkunarajah i Sri Lanka a'i bod yn cael caniatâd i gwblhau ei chwrs gradd.

Dywedodd Esgob Andy: "Mae'n warth bod myfyrwraig gydwybodol, 21 mlwydd oed, yn mynd i golli tair mlynedd o waith caled o achos tri mis.

"Os oes rhaid iddi ddychwelyd i Sri Lanka, meddyliwch faint yn fwy medrith gyflawni gyda gradd ardderchog mewn peirianneg, nid yn unig iddi hi a'i theulu, ond fel model rôl ar gyfer menywod ifanc eraill yn y wlad honno

"Fel hyn bydd ganddi ddim i ddangos am ei hastudiaethau ym Mhrifysgol Bangor.

"Rwyf dal heb fy narbwyllo bod allgludo yn drugarog, deg neu gyfiawn.

"Rwyf yn galw ar y Swyddfa Gartref i atal y broses er mwyn i'r achos hwn gael ei archwilio yn fanwl."

Arestiwyd Shiromini a'i Mam ym Mangor yr wythnos ddiwethaf a chludwyd wedyn at Ganolfan Allgludio Mewnfudwyr Yarl's Wood.

Maent i fod i gael eu cludo ar awyren yn ôl i Sri Lanka nos yfory (28.2.2017). Mae cyfreithwyr yn gweithio ar eu hachos, ond mae amser yn brin.

Mae dros 26,000 o bobl wedi 'llofnodi' deiseb Shiromini ar change.org

https://www.change.org/p/amber-rudd-mp-stop-shiromini-getting-deported-she-is-three-months-away-from-completing-a-degree

Llun: Shiromini Satkunarajah

Rhannu |