Mwy o Newyddion

RSS Icon
18 Awst 2011

Mae'n bryd i Gymru gymryd rheolaeth dros blismona

Dywed llefarydd Plaid Cymru, Elfyn Llwyd AS, mai nawr yw’r amser i Gymru gymryd rheolaeth dros blismona ac y mae wedi galw am drafodaeth synhwyrol ar y pwnc, yn hytrach na rhethreg wag.

Dywedodd Mr Llwyd fod adroddiad gan HMIC yn dangos fod heddluoedd Cymru wedi eu helpu gan elfen o warchodaeth rhag rhai o’r toriadau oherwydd camau a gymerwyd gan Blaid Cymru pan oeddent mewn llywodraeth yng Nghymru, ond mynnodd mai’r unig ffordd o atal toriadau San Steffan oedd cymryd cyfrifoldeb dros blismona yng Nghymru.

Meddai Mr Llwyd: “Ar waethaf digwyddiadau’r wythnos a aeth heibio, gwnaeth llywodraeth San Steffan hi’n siomedig o glir nad ydynt am newid eu hagwedd at doriadau plismona.

“Mae llywodraeth San Steffan yn gwneud toriadau o ryw 20% yng nghyllideb yr heddlu ac nid yw ond synnwyr cyffredin dweud y bydd hyn yn golygu effaith difrifol am blismona rheng-flaen.

“Yn ffodus, mae heddluoedd yng Nghymru yn wynebu sefyllfa fymryn yn well na’u cymheiriaid yn Lloegr.

“Fel y nododd adroddiad yr HMIC fis diwethaf, mae heddluoedd Cymru yn derbyn cyfran gyfartalog neu uwch na’r gyfran genedlaethol o’u cyllideb o’r praesept plismona; ac yr ydym ni yng Nghymru wedi gwneud penderfyniadau gwahanol i Loegr ynghylch treth cyngor, penderfyniadau a gymerwyd pan oedd Plaid Cymru mewn llywodraeth yng Nghaerdydd.

“Dyna pam, yn ôl yr adroddiad, fod heddluoedd Cymru ymhlith tri o’r pedwar fydd yn gwneud y lleiaf o doriadau.

“Ond os ydym am benderfynu yn llawn sut y gweir ein cyllideb blismona, sef yr hyn mae gwleidyddion Llafur fel petaent yn ddweud, yna’r unig ffordd i wneud hynny yw cymryd rheolaeth dros y systemau plismona a chyfiawnder troseddol - sef yn union yr hyn mae Llafur yn gwrthod wneud.

“Dadleuodd y Blaid ers amser mai’r unig ffordd i ni gael llais dros blismona yw i’r system gael ei datganoli i Lywodraeth Cymru. Rheolir yr heddlu yn yr Alban gan Lywodraeth yr Alban a rheolir yr heddlu yng Ngogledd Iwerddon gan weinyddiaeth Gogledd Iwerddon. Rhaid i ni yng Nghymru gymryd y cyfrifoldeb hwn hefyd.

“Daeth yn bryd cael trafodaeth gall ar y pwnc. Ni ddylid cael unrhyw esgusodion a dim gosod y bai ar San Steffan gan Lafur yng Nghymru os nad ydynt hwy eu hunain yn barod i ymuno â’r Blaid yn ein galwadau am i’r cyfrifoldeb dros blismona ddod i Gymru.”

Rhannu |