Mwy o Newyddion

RSS Icon
27 Chwefror 2017

Cyfle i 18 o bobl ifanc weithio gyda’r Urdd

Cyhoeddodd Urdd Gobaith Cymru yr wythnos hon eu bod yn chwilio am 18 o bobl ifanc i ymuno gyda hwy fel prentisiaid yn mis Medi.

Gwnaed y cyhoeddiad yng nghwmni y Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth, Julie James yng Nghanolfan yr Urdd, Bae Caerdydd yn yr wythnos yn arwain at Wythnos Prentisiaeth Genedlaethol (6 – 10 Mawrth).

Dros y dair blynedd diwethaf, mae’r Urdd wedi cynnig cyflogaeth i 40 o bobl ifanc trwy eu cynllun prentisiaeth, gyda phump wedi aros am ail flwyddyn am y tro cyntaf yn 2016 i weithio tuag at NVQ Lefel 3.

Mae’r prentisiaethau sydd ar gael yn bennaf gyda’r adran chwaraeon a’r adran awyr agored, gyda chyfleoedd ledled Cymru.

Mae Lauren Richards yn 19 oed ac wedi dechrau gweithio gyda’r Urdd yn ardal Pen-y-bont yn mis Medi 2016,

 Llynedd roedd yn ddisgybl yn Ysgol Gyfun Gymraeg Llangynwyd yn astudio tuag at ei Lefel A.

Dywedodd: “Roeddwn yn  cael trafferth meddwl beth i wneud ar ôl fy Lefel A – mi wnes i gais i fynd i’r Brifysgol i astudio chwaraeon ond gan fy mod i yn gweithio ers pan oeddwn i yn 16 oed, mi wnes i benderfynu yn y diwedd y byddai’n well gen i fyd yn syth i fyd gwaith i ennill profiad bywyd a chyflog tra’n dysgu.”

Roedd Lauren yn arfer gwirfoddoli yn lleol gyda’r Urdd – yn arwain sesiynau dawns yn ystod dyddiau chwaraeon yr Urdd a gwneud sesiynau dawns achlysurol.

Ers cychwyn ei phrentisiaeth, mae hi wedi sefydlu nifer o glybiau cymunedol ar draws y sir.

Dywedodd: “Dwi wir yn mwynhau gweithio gyda’r Urdd. 

"Y peth gorau yw fy mod yn cael cyfle i weithio gydag amrywiaeth o bobl – o wersi syml i blant bach 3 oed i sesiynau mwy dwys i ddisgyblion 12 – 16 oed yn fy nghyn ysgol, Ysgol Llangynwyd.

“Os nad oeddwn i’n brentis gyda’r Urdd, mae’n debyg y byddwn yn y Brifysgol yn astudio rhyw fath o gwrs chwaraeon, yn llawn dyled!

"Rwy’n gobeithio y caf aros gyda’r Urdd y flwyddyn nesaf yn gweithio tuag at fy mhrentisiaeth Lefel 3.”

Dywedodd y Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth, Julie James: “Mae prentisiaethau yn hanfodol ar gyfer cael economi lwyddiannus a Chymru gryfach ac wedi ei brofi yn lwybr cynaliadwy i gyflogaeth a ffyniant.

“Mae’r sgiliau mae’r prentisiaid yn eu dysgu o fudd i’r cyflogwr a’r unigolyn ac rydym wedi ymrwymo i weithio gyda busnesau fel y gallwn ddarparu mwy o gyfleoedd i bobl ifanc dderbyn prentisiaeth.

“Yn gynharach yn y mis, fe wnes i gyhoeddi ein polisi prentisiaeth newydd fydd yn canolbwyntio mwy ar ddatblygu sgiliau o lefel uwch gan hybu mwy o gyfleoedd i unigolion dderbyn prentisiaeth trwy gyfrwng y Gymraeg neu yn ddwyieithog felly mae’n galonogol iawn fod yr Urdd yn gobeithio penodi 18 o bobl ifanc eto fel prentisiaid yn mis Medi 2017.”

Ychwanegodd Sioned Hughes, Prif Weithredwr yr Urdd: “Ein prif nod yn yr Urdd yw rhoi cyfleoedd amhrisiadwy i blant a phobl ifanc trwy gyfrwng y Gymraeg, a thrwy gynnig y prentisiaethau yma, rydym yn rhoi cyfle i bobl ifanc weithio mewn diwydiant sydd o ddiddordeb iddynt, trwy gyfrwng y Gymraeg, tra’n ennill cymwysterau a phrofiad bywyd.”

Os hoffech chi fwy o wybodaeth am Gynllun Prentisiaeth yr Urdd cysylltwch gyda Rhodri Jones ar rhodrijones@urdd.org / 02920 635 688.

Llun 1:  Y Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth, Julie James, yn cyfarfod cyfarwyddwr chwaraeon yr Urdd, Gary Lewis, trysorydd yr Urdd, Rheon Tomos, prif weithredwr yr Urdd, Sioned Hughes a dwy brentis yr Urdd, Rhodd Alaw a Lauren Richards

Llun 2:  Lauren Richards yn un o’i chlybiau ym Mhen-y-bont

Rhannu |