Mwy o Newyddion

RSS Icon
27 Chwefror 2017

Chwifio’r faner dros Gymru i ddathlu Dydd Gŵyl Dewi

Yn y cyfnod cyn Dydd Gŵyl Dewi, bydd Gweinidogion Cymru yn cyflwyno Cymru i’r byd ac yn dangos yr hyn sydd gan y wlad i’w gynnig.

Y bore ’ma, yn Llundain, mae’r Prif Weinidog, Carwyn Jones, yn lansio wythnos ‘Cymru yn Llundain’.

Bydd yn traddodi araith, ym mhencadlys Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig yn Parliament Square, i hyrwyddo Cymru fel lle allweddol i fuddsoddi ynddo.

Bydd y Prif Weinidog hefyd yn cynnal derbyniad Dydd Gŵyl Dewi yn Nhŷ Lancaster i gwrdd â llysgenhadon a busnesau a leolir yn Llundain sydd â diddordeb yng Nghymru.

Ddydd Mawrth, bydd y Prif Weinidog yn teithio i Washington ac Efrog Newydd i gyfarfod â chwmnïau sydd â diddordeb mewn buddsoddi yng Nghymru. Bydd hefyd yn trafod cysylltiadau masnach a busnes gyda chynrychiolwyr gwleidyddol.

Yn ystod yr ymweliad ag Efrog Newydd, bydd y Prif Weinidog yn cynnal derbyniad i nodi lansiad ymgyrch dwristiaeth ryngwladol newydd gwerth £5 miliwn.

Bydd ymgyrch Blwyddyn Chwedlau 2017 yn dangos bod Cymru’n wlad gyfoethog mewn hanes, adrodd straeon a chreadigrwydd.

Yn y cyfamser, bydd Mark Drakeford, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol, yn dathlu Dydd Gŵyl Dewi ym Mrwsel, lle bydd yn cynnal y derbyniad gyda’r hwyr blynyddol ym Mhreswylfa Prydain.  

Bydd Mark Drakeford hefyd yn cynnal cyfres o gyfarfodydd â chynrychiolwyr sefydliadau Ewropeaidd a Chynrychiolydd Parhaol y DU i’r UE, Syr Tim Barrow, er mwyn trafod blaenoriaethau Cymru wrth i Brydain baratoi i adael yr UE.

Mae Lesley Griffiths, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig, yn teithio i’r Emiraethau Arabaidd Unedig yr wythnos hon i hyrwyddo diwydiant bwyd a diod llewyrchus Cymru.

Yn ystod ei hymweliad, bydd Lesley Griffiths yn ymuno â phump ar hugain o gynhyrchwyr bwyd a diod o Gymru yn Gulfood, sef digwyddiad masnach bwyd mwyaf y byd,  i glywed am gynlluniau ar gyfer y World Expo nesaf a gynhelir yn Nubai yn 2020.

Dywedodd Carwyn Jones, Prif Weinidog Cymru: “Mae Dydd Gŵyl Dewi 2017 yn nodi newid sylweddol o ran ein huchelgais i hyrwyddo Cymru i’r byd yn fwy nag erioed.

“Yn ystod y cyfnod hwn o newid mawr, mae angen inni weithio hyd yn oed yn fwy caled i godi proffil a pherfformiad rhyngwladol Cymru.

Yn y blynyddoedd diwethaf rydyn ni wedi gweld y lefel uchaf erioed o fewnfuddsoddiad i Gymru; y nifer uchaf erioed o dwristiaid - gan gynnwys cynnydd o 12% yn ystod y deuddeg mis diwethaf  - ac mae ein nwyddau bellach yn cael eu hallforio ar draws y byd. Felly, rydyn ni’n barod am yr her.

“Yr wythnos hon bydd y Cabinet a minnau’n dathlu diwrnod ein nawddsant drwy hyrwyddo Cymru o gwmpas y byd a dathlu popeth sydd gennym i’w gynnig.

"Byddwn yn defnyddio pob cyfle i arddangos ein diwylliant, ein hanes a’n hiaith unigryw, a dangos bod Cymru yn wlad wych i ymweld â hi ac i wneud busnes ynddi hi.”

 

Rhannu |