Mwy o Newyddion

RSS Icon
24 Chwefror 2017

Myfyriwr dosbarth cyntaf ym Mangor yn wynebu alltudiaeth wythnosau cyn ei arholiadau

Mae Aelod Seneddol Plaid Cymru dros Arfon, Hywel Williams wedi beirniadu’r Swyddfa Gartref am ddangos difaterwch creulon i dynged un o’i etholwyr sy’n wynebu cael ei halltudio i Sri Lanka, tri mis cyn cwblhau ei gradd mewn Peirianneg Trydanol ym Mhrifysgol Bangor, lle mae disgwyl iddi gael gradd dosbarth cyntaf.  

Mae’r Swyddfa Gartref wedi gwrthod cais am loches gan Shiromini Satgunaraja a’i mam a wnaeth ffoi Sri Lanka yn 2009  pan oedd ei theulu yn cael eu heffeithio gan y rhyfel cartref yn y wlad.

Deuddeg oed oedd hi ar y pryd.

Ers  cyrraedd y DU, mae Shiromini wedi gorfod delio â marwolaeth ei thad ynghyd â gofalu am ei mam sy’n sâl; i gyd tra'n astudio tuag at ei gradd ym Mangor.

Er gwaethaf sefydlu cysylltiadau cymdeithasol cryf â'r DU a gyda bwriad o ddilyn gyrfa mewn peirianneg, mae Shiromini yn wynebu alltudiaeth yr wythnos nesaf (Dydd Mawrth 28 Chwefror) ac yn cael ei chadw ar hyn o bryd yng Nghanolfan Gadw Yarlswood yn Swydd Bedford.

Dywedodd Hywel Williams AS: “Mae Sri Lanka yn parhau i fod yn le peryglus iawn a tydi Shiromini heb gael unrhyw gysylltiad gwirioneddol gyda'r wlad ers iddi fod yn blentyn.

“Mae ei halltudiaeth ar fin digwydd; nid yn unig yw hyn yn anghyfiawn ac yn annheg, ond bydd yn amddifadu Cymru ac yn wir economi'r DU o’r cyfraniad y bydd yn ei wneud yn ei maes.

“Byddai’n gaffaeliad i'r wlad hon ar adeg pan efallai y byddwn yn wynebu prinder difrifol o arbenigwyr medrus ac addysgedig.

“Gyda dim ond tri mis ar ôl ar ei chwrs academaidd, mae'n ymddangos yn gam gwag iawn i gwtogi ei hastudiaeth ym Mangor, dadwreiddio ei theulu a disgwyl iddi barhau fel yr arfer yn ôl yn Sri Lanka lle, fel y deallaf, nid oes unrhyw gwrs tebyg a fyddai’n galluogi iddi raddio.

“Nid yw hyn yn gwneud unrhyw synnwyr dyngarol a dim synnwyr o gwbl o ran anghenion busnes ein gwlad.”

Ychwanegodd Pennaeth Peirianeg Trydanol Prifysgol Bangor, Iestyn Pierce: “Mae ffigurau Shiromini Satgunaraja ymhlith y rhai gorau o fyfyrwyr yr Ysgol Beirianneg Electronig, ar ôl sicrhau graddau uchel iawn yn ei arholiadau mis Ionawr.

“Dros y blynyddoedd yr rwyf wedi adnabod Shiromini mae wedi profi i fod yn eithriadol o alluog a diwyd, ac wedi gwneud cyfraniadau gwerthfawr i'r Ysgol a'r Brifysgol, gan gynnwys cadeirio cangen leol o Sefydliad y Peirianwyr Trydanol ac Electroneg.

“Mae hi wedi ei chofrestru ar gwrs gradd MEng pedair blynedd, gyda dim ond ychydig wythnosau yn weddill ar ei thrydedd flwyddyn o astudio, a gyda'r opsiwn o raddio yr haf hwn gyda gradd BEng.

"Nid oes gennyf unrhyw amheuaeth y bydd yn cyflawni anrhydedd dosbarth cyntaf.

"Os caniateir iddi raddio byddai Shiromini yn sicr o fod yn aelod gwerthfawr o'r gweithlu mewn pwnc sydd â phrinder graddedigion ledled y byd.

"Yn ddi-os, os caniateir i barhau â'i hastudiaethau, gall hi gyfrannu at gymdeithas mewn meysydd fel ynni carbon-isel, cyfathrebu a thechnolegau amgylcheddol."

Llun: Shiromini Satgunaraja

Rhannu |