Mwy o Newyddion

RSS Icon
24 Chwefror 2017

Gwnewch rhywbeth difyr gyda llyfr i ddathlu pen-blwydd Diwrnod y Llyfr yn 20 oed

Mae 2017 yn nodi ugain mlynedd o ddathliadau Diwrnod y Llyfr yn y Deyrnas Unedig, ac eleni fe’i cynhelir ar ddydd Iau, 2 Mawrth.

Bydd amryw o ddathliadau a digwyddiadau ledled Cymru ar y dyddiad hwnnw yn nodi’r achlysur pwysig – y dathliad blynyddol mwyaf o lyfrau a darllen yn y Deyrnas Gyfunol ac Iwerddon.

Dengys ymchwil fod darllen er mwyn pleser a mwynhad yn cael mwy o ddylanwad ar lwyddiant addysgol plant na statws cymdeithasol?economaidd eu teulu (OECD, 2002), felly mae annog pobl i gael blas ar lyfrau ac i ddathlu’r mwynhad sydd ynghlwm â darllen yn bwysicach nag erioed.

Dathlu Straeon. Caru Darllen – dyna yw prif neges Diwrnod y Llyfr.

Meddai Helgard Krause, Prif Weithredwr newydd Cyngor Llyfrau Cymru: "Rydym yn falch o gefnogi Diwrnod y Llyfr yng Nghymru ac yn teimlo ei fod yn ddigwyddiad pwysig sydd yn cael ei ddathlu mewn ysgolion, llyfrgelloedd, siopau llyfrau ac ar y cyfryngau.

"Mae’n gyfle arbennig i bwysleisio’r dewis gwych o ddeunydd darllen sydd yn cael ei gyhoeddi yng Nghymru a thu hwnt."

Ychwanegodd Angharad Sinclair, Rheolwr Cynlluniau Hyrwyddo Darllen y Cyngor, ei fod yn ddiwrnod delfrydol i gael seibiant yng nghwmni’ch hoff lyfr ac i ymuno â dathliad lleol: "Mae’n anodd credu bod Diwrnod y Llyfr yn ugain oed eleni.

"Am esgus gwych i fwrw golwg yn ôl dros y cyfoeth o lyfrau a straeon sydd wedi eu cyhoeddi a’u mwynhau yn ystod y cyfnod hwn! Wrth ddathlu a rhannu straeon gallwn ysbrydoli ac annog eraill i wneud yr un peth."

Eleni, bydd Sioe Lyfrau Fwyaf y Byd yn cael ei chynnal yng Nghanolfan Gelfyddydau Memo yn y Barri, yng nghwmni tua 700 o blant rhwng 8 a 13 mlwydd oed. Bydd y sioe yn cynnwys chwech o awduron a darlunwyr blaenllaw, sef Steven Butler, Abi Elphinstone, Jim Smith, Cathy Cassidy, Martin Brown ac Eloise Williams.

Yn ogystal â chefnogaeth Llywodraeth Cymru, mae ymgyrch Diwrnod y Llyfr yng Nghymru hefyd yn derbyn nawdd gan y llyfrwerthwyr Waterstones. Bydd gan y cwmni siop lyfrau dros dro yn y Memo lle y cynhelir sesiwn arwyddo gyda’r awduron.

"Mae Waterstones yn falch o gefnogi’r diwydiant cyhoeddi yng Nghymru ar Ddiwrnod y Llyfr, ar y cyd â Chyngor Llyfrau Cymru. Mae’r Cyngor yn chwarae rhan hanfodol yn y sector lenyddol, ac mae ein partneriaeth barhaus ar Ddiwrnod y Llyfr yn brawf o hynny," meddai Steve Gane ar ran Waterstones.

I’r rheiny fydd yn ymuno â’r dathliadau ar?lein, bydd y sialens boblogaidd #hunlyfr yn cael ei chynnal eto eleni ac yn cael ei hyrwyddo ar Ddiwrnod y Llyfr, a chynigir gwobrau am y lluniau gorau. Mae yna hefyd gwis ar gael i’w lawrlwytho, sydd yn seiliedig ar lyfrau a gyhoeddwyd yn yr ugain mlynedd diwethaf. Am fwy o wybodaeth a syniadau ewch i http://readingwales.org.uk/cy/diwrnod?y?llyfr/

"Ein bwriad yn syml," meddai Angharad, "yw annog plant, disgyblion ysgol, rhieni a phobl ledled Cymru i dynnu hunlun yn eu dangos yn darllen neu’n dal llyfr, ac i lwytho’r llun ar Twitter, Facebook neu Instagram gan ddefnyddio’r hashnodau #hunlyfr #diwrnodyllyfr20. Wrth greu casgliad helaeth o hunluniau #hunlyfr, gallwn ddangos i’r byd bod Cymry o bob oed am ddathlu darllen, a’u bod wrth eu bodd â llyfrau o bob math."

Eleni, bydd cynulleidfa darlith flynyddol Diwrnod y Llyfr yn treulio noson ddifyr tu hwnt yng nghwmni ysbrydoledig Peter Florence, cyfarwyddwr Gŵyl y Gelli. Testun ei sgwrs fydd ‘Dychmygwch y Byd: Hanes am lyfrau a gwyliau’. Mae Cyngor Llyfrau Cymru yn falch o gydnabod cyfraniad ariannol hael Mererid ac Angharad Puw Davies tuag at y ddarlith, a hynny er cof am eu rhieni, Roger a Catrin Puw Davies, a gyfrannodd gymaint i’r byd llyfrau yng Nghymru.

Cynhelir y ddarlith yn y Pierhead, Bae Caerdydd, nos Iau, 2 Mawrth. Darperir lluniaeth ysgafn am 6.00 pm a bydd y ddarlith yn dechrau am 6.30 pm. Darlith i wahoddedigion yn unig yw hon, wedi ei noddi gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, Kirsty Williams, fydd yn ei mynychu. Cysylltwch â Menai Williams (menai.williams@llyfrau.cymru 01970 624151) am wybodaeth bellach.

Rhannu |