Mwy o Newyddion

RSS Icon
24 Chwefror 2017

Prifysgol Aberystwyth – dim amod iaith i’r Canghellor nesaf

Mae Prifysgol Aberystwyth yn edrych i benodi Canghellor newydd o 2018 ymlaen – ond mae ymgyrchwyr yn anhapus na fydd rhaid i’r ymgeisydd lwyddiannus fedru’r Gymraeg.

Mae’r Canghellor presennol, Syr Emyr Jones-Parry, wedi bod yn ddiplomat i’r DU cyn bod yn Llywydd ac wedyn yn Ganghellor i Brifysgol Aberystwyth yn 2008, ond mae ei ail dymor yn dod i ben yn 2018.

Tra bu’n Ganghellor, beirniadwyd Syr Emyr am ei safbwynt ar Neuadd Pantycelyn a materion eraill.

Does dim gofynion sgiliau na chymwysterau yn y disgrifiad swydd dwy ddudalen, a ryddhawyd ar Ddydd Llun 20 Chwefror eleni gan ddilyn penderfyniad ar Ddydd Gwener 17 Chwefror eleni. Mae’r dyddiad cau ar 3 Mawrth eleni.

Dywedodd Hedydd Elias, aelod o’r grŵp Ffrindiau Pantycelyn: “Gyda'r holl materion Cymreig a myfyrwyr cyfrwng Cymraeg sydd yn y brifysgol, credaf ei fod yn hollol warthus nad oes gofyn i'r canghellor nesaf fedru'r Gymraeg, ac mae’n syndod mawr nad yw’r brifysgol wedi cynnwys hyn yn y swydd ddisgrifiad.

"Yn ogystal â medru siarad y Gymraeg, mae angen i’r Canghellor nesaf fod yn barod i ddefnyddio’r Gymraeg wrth ei g/waith bob dydd, a hefyd barchu’r gymuned Gymraeg.

"Rydym yn gobeithio mai un o flaenoriaethau’r Canghellor nesaf fydd cadw at yr addewid i ailagor Neuadd Pantycelyn erbyn mis Medi 2019.”

Dywedodd Manon Elin, aelod arall o’r grŵp: “Mae hefyd gennym bryder am y diffyg ymgynghori ynghylch hyn. Mae hon yn swydd uchel iawn o fewn y Brifysgol, ond dyw’r brifysgol ddim wedi ymgynghori gyda myfyrwyr o gwbl ar hyn.

"Dydy hyn ddim yn seiliau da iawn am arweinyddiaeth a fydd yn para am o leiaf pum mlynedd.”

Mae’r anghydfod yn dilyn ymgyrchoedd i gael rhuglder yn y Gymraeg fel amod ar gyfer swydd yr Is-Ganghellor, ac yn yr achos hwnnw, gosododd y Brifysgol amod i ddysgu’r iaith hyd at lefel D cyn ddechrau yn y swydd.

Ymateb y brifysgol

Dywedodd llefarydd ar ran Prifysgol Aberystwyth: "Oherwydd natur a dyletswyddau’r swydd, mae’n gwbl naturiol bod y Brifysgol yn disgwyl y bydd y Canghellor nesaf yn medru’r Gymraeg.

"Mae pedwar aelod o blith y panel dethol o chwech yn medru’r Gymraeg, ac mae pob un o’r chwech aelod yn gefnogol i’r diwylliant a’r iaith Gymraeg ym Mhrifysgol Aberystwyth.

"Dyma’r tro cyntaf i’r Brifysgol benodi Canghellor ers ei sefydlu yn 1872 ac rydym yn gwahodd enwebiadau erbyn 3 Mawrth 2017.

"Yn wahanol i swydd Cadeirydd y Cyngor, bydd y Canghellor yn canolbwyntio’n bennaf ar ddyletswyddau llysgenhadol a seremonïol gan gynnwys graddio."

Llun: Y Canghellor presennol, Syr Emyr Jones-Parry

Rhannu |