Mwy o Newyddion
£800,000 i’r Geiriadur Eingl-Normaneg
Mae iaith Gwilym Goncwerwr wedi derbyn hwb sylweddol yn sgil cyhoeddi grant gan Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau i’r Geiriadur Eingl-Normaneg ym Mhrifysgol Aberystwyth.
Ffurf o Ffrangeg ddaeth i Brydain yn dilyn cwymp y Brenin Eingl-Sacsonaidd Harold yn 1066 yw Eingl-Normaneg a’r iaith yn cael ei defnyddio'n helaeth ym Mhrydain tan ddiwedd y bymthegfed ganrif - yr Oesoedd Canol hwyr.
Mae ei dylanwad dal yn gryf heddiw gyda mwy na 50% o eiriau Saesneg cyfarwydd yn deillio o Eingl-Normaneg.
Ymhlith y geiriau Saesneg sy’n tarddu o Eingl-Normaneg ac sy’n cael eu defnyddio ym maes coginio cyfoes mae 'soup', 'lettuce', 'pheasant', 'pastry', 'ginger', 'sauce', 'chestnut' a 'mustard'.
Yn ei hanterth fe'i defnyddiwyd yn eang fel iaith llenyddiaeth, masnach, y gyfraith, addysg a gweinyddiaeth a hynny ymhell cyn i Saesneg Canol ymddangos yn ystod y drydedd ganrif ar ddeg.
Cyfieithwyd dogfennau megis y Magna Carta a chyfreithiau Gwilym Goncwerwr o’r Lladin i'r Eingl-Normaneg, a byddai’r bardd John Gower, a oedd yn byw yn yr un cyfnod â Chaucer, yn ysgrifennu mewn Saesneg, Lladin ac Eingl-Normaneg.
Nawr mae’r Geiriadur Eingl-Normaneg sydd wedi ei leoli ym Mhrifysgol Aberystwyth wedi derbyn grant ariannol pellach o ychydig dros £800,000 gan Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a'r Dyniaethau (AHRC).
Mae'r grant am gyfnod o bedair blynedd o fis Mawrth 2017 tan fis Chwefror 2021 ac mae'n dilyn dyfarniadau tebyg gan yr AHRC yn 2008 a 2012.
Cafodd golygiad cyntaf y Geiriadur Eingl-Normaneg ei gyhoeddi mewn cyfres o gyfrolau rhwng 1977 a 1992.
Yna, yn 2001 sefydlwyd fersiwn ar-lein ac fe'i datblygwyd gyda chymorth yr AHRC o dan arweiniad y diweddar Athro David Trotter.
Erbyn hyn mae’r Geiriadur wedi cyrraedd y llythyren Q, a bydd adran llythyren P yn cael ei chyhoeddi yn ddiweddarach yn y mis hwn.
Bydd y grant diweddaraf hwn yn galluogi'r tîm i ysgrifennu cofnodion newydd ar gyfer y llythrennau R ac S trwy ddadansoddi’r eirfa mewn gweithiau Eingl-Normaneg, sydd yn fwy na 1,000 mewn nifer ar hyn o bryd, yn ogystal â deunydd newydd o olygiadau ac ymchwil newydd sy’n parhau i gael eu hychwanegu.
Bydd hefyd yn hwyluso trosglwyddiad y geiriadur i fod yn eiriadur hanesyddol, drwy ychwanegu cronoleg at yr holl gofnodion sy'n dangos eu swyddogaeth yn natblygiad hanesyddol Ffrangeg a Saesneg yn yr Oesoedd Canol.
Dywedodd Dr Geert De Wilde, Prif Ymchwilydd, Golygydd ac Arweinydd Prosiect y Geiriadur Eingl-Normaneg: "Mae astudio Eingl-Normaneg yn hanfodol ar gyfer dealltwriaeth o ddiwylliant a chymdeithas ganoloesol ym Mhrydain ac yn rhan hanfodol o hanes yr iaith Saesneg.
"Rydym wrth ein bodd gyda chyhoeddiad yr AHRC i barhau i gefnogi tîm presennol y Geiriadur Eingl-Normaneg, a thrwy hynny astudiaeth o ieithyddiaeth ganoloesol a hanes iaith ym Mhrydain.
"Lle bynnag yr ydych yn edrych - croniclau hanesyddol, traethodau meddygol, cofnodion cyfreithiol - mae rôl ganolog yr Eingl-Normaneg ym mywyd Prydain y Canol Oesoedd yn amlwg, ac mae datblygiad y geiriadur wedi bod yn allweddol wrth sefydlu'r iaith fel un o brif dafodieithoedd Ffrangeg canoloesol yn gyffredinol.”
Dywedodd Dr Heather Pagan, Cyd-Ymchwilydd a Golygydd ar y Geiriadur Eingl-Normaneg (GEN): "Bydd y dyfarniad hwn yn caniatáu i'r tîm drawsnewid y GEN yn eiriadur cwbl hanesyddol a rhoi dyddiad i bob gair ac ystyr yn y geiriadur
"Bydd hyn yn arwain at ddarlun cliriach o'r defnydd o'r iaith ym Mhrydain y Canol Oesoedd yn ogystal â thaflu goleuni dros y berthynas gymhleth rhwng Saesneg, Ffrangeg a Lladin yn ystod y cyfnod hwn.
"Yn ogystal, byddwn yn estyn allan i archifau ledled Cymru er mwyn cael syniad ehangach o'r dogfennau Eingl-Normaneg sydd wedi goroesi yng Nghymru, gyda'r bwriad o ddeall yn well sut y byddai’r iaith yn cael ei defnyddio gan y bobl oedd yn byw yng Nghymru."
Yn 2011 dyfarnwyd gwobr y Prix Honoré Chavée i’r Geiriadur gan yr Académie des Inscriptions et Belles-Lettres yn Ffrainc, ac mae'r tîm yn gweithio'n agos gyda geiriaduron Ffrangeg canoloesol yn Nancy, Ffrainc a Heidelberg yn yr Almaen, yn ogystal â'r Oxford English Dictionary.
Bydd y grant AHRC diweddaraf hefyd yn galluogi'r tîm i hyrwyddo gwybodaeth ac ymwybyddiaeth o’r Eingl-Normaneg ymhlith y cyhoedd yn ehangach, nid yn unig drwy gyhoeddiadau a chynadleddau academaidd, ond hefyd drwy’r cyfryngau cymdeithasol, blog ar yr Eingl-Normaneg a chyflwyniadau wedi'u targedu at archifwyr, amgueddfeydd a chymdeithasau hanes lleol.
Mae’r Geiriadur Eingl-Normaneg ar gael ar-lein ynghyd â blog sy'n rhoi sylwebaeth ar darddiad geiriau – ac mae’r rhifyn diweddaraf a gyhoeddwyd ar 30 Ionawr 2017 yn trafod geiriau Cymraeg yn yr Eingl-Normaneg. Mae hefyd yn bosibl dilyn datblygiadau diweddaraf y prosiect ar Facebook a Twitter @ANDictionary.
Llun: Tîm y Geiriadur Eingl-Normaneg: (chwith i’r dde) Dr Geert De Wilde, Prif-Ymchwilydd, Golygydd ac Arweinydd Prosiect, Dr Megan Tiddeman, Cynorthwyydd Golygyddol Ol-Ddoethurol, a Dr Heather Pagan, Cyd-Ymchwilydd a Golygydd