Mwy o Newyddion

RSS Icon
23 Chwefror 2017

Yr Arglwydd Wigley yn mynnu mwy na geiriau teg i Gymru ar fater Brexit

Mae arglwydd Plaid Cymru, Dafydd Wigley, wedi annog Llywodraeth y DG i brofi eu gonestrwydd trwy gefnogi gwelliant Plaid Cymru i Fesur Erthygl 50 yn seiliedig ar Bapur Gwyn Plaid Cymru-Llywodraeth Cymru ar y cyd, ‘Sicrhau Dyfodol Cymru’.

Trwy weithio gyda Llywodraeth Cymru, mae Plaid Cymru wedi cyflwyno safbwynt clir, unedig a chryf yn y papur gwyn trawsbleidiol, gyda budd economaidd Cymru, ei swyddi a’i bywoliaeth yn ganolog iddo.

Mae arglwydd Plaid Cymru wedi cyflwyno gwelliant i’w ystyried yn ystod Cyfnod Pwyllgor y Mesur, sydd yn galw am “fynediad llawn a dilyffethair i’r Farchnad Sengl Ewropeaidd” llinell goch bwysicaf y papur gwyn.

Wrth siarad yn ystod Ail Ddarlleniad Mesur Erthygl 50, dywedodd Dafydd Wigley: “Mae Llywodraeth San Steffan wedi gwneud ymrwymiadau diamod dro ar ôl tro y buasent yn gwrando ar y gweinyddiaethau datganoledig wrth lunio eu cynlluniau Brexit.

"Hyd yma, nid ydym wedi gweld fawr ddim tystiolaeth o weld yr ymrwymiadau hyn yn dwyn ffrwyth.

“Mae ar Gymru angen mynediad llawn a dilyffethair i’r Farchnad Sengl.

"Dyna sail y papur gwyn gwych a gynhyrchwyd gan Blaid Cymru a Llywodraeth Cymru, gyda chefnogaeth y Democratiaid Rhyddfrydol.

“O safbwynt Cymreig, mae dwy ran o dair o’n hallforion gweithgynhyrchu yn mynd i wledydd yr UE.

"Gallai cwmnïau fel Ford, Airbus, Siemens a Toyota ddioddef ergydion trymion oherwydd rhwystrau tariff.

"Mae dau gant o gwmnïau Americanaidd a 50 o gwmnïau o Siapan wedi eu lleoli yng Nghymru er mwyn gwerthu i farchnadoedd yr UE.

"Bydd yr elfen strategol honno o bolisi diwydiannol yng Nghymru yn cael ei thanseilio gan Brexit caled.

“Mae ein sector amaethyddol yn wynebu heriau cyffelyb.

"Mae dros 90% o allforion cig eidion a chig oen a defaid yn mynd i farchnadoedd yr UE.

Byddai unrhyw rwystrau tariff yn ergyd farwol i’r Gymru wledig.

“Dan y teitl ‘Sicrhau Dyfodol Cymru’, mae ein papur gwyn yn galw am ‘gyfranogi yn llawn yn y Farchnad Sengl’. 

"Buaswn yn annog y Llywodraeth i dderbyn gwelliannau i’r perwyl hwnnw.

"“Rhaid i Weinidogion Brexit yn awr roi gweithredoedd yn lle eu geiriau.”

Llun: Yr Arglwydd Wigley

 

Rhannu |