Mwy o Newyddion
Trelar Ifor Williams Trailers yn helpu dau o Ddenmarc i ennill un o ralïau caletaf y byd
Mae gwneuthurwyr trelars mwyaf Ewrop wedi helpu dau anturiwr dewr o Ddenmarc i sgrialu i fuddugoliaeth yn un o ralïau caletaf y byd.
Jacob Glad ochr yn ochr â’i ffrind a’i gyd-yrrwr Philip Hansen oedd enillwyr cyffredinol y digwyddiad trawsgyfandirol enwog yn eu cerbyd pob tir pwerus, gan gwmpasu 2,000 o filltiroedd ar y tir caletaf ar y blaned o Sbaen i Senegal mewn record newydd o ychydig dros 58 awr.
Roedd hynny er gwaethaf gorfod delio â thân trydanol difrifol yng nghanol Diffeithwch y Sahara a wnaeth fygwth roi terfyn i’w gobeithion o hyd yn oed orffen y rali.
Yn gefnogaeth i’r tîm trwy bob milltir arw oedd trelar fan bocs Ifor Williams Trailers wedi ei lwytho â’r holl offer wrth gefn a chyflenwadau argyfwng hollbwysig.
Roedd y trelar tir garw BV 106, wedi ei bacio â rhannau sbâr, offer a bwyd ar gyfer y ddau fentrus a’u tîm cefnogi o bedwar, yn ddewis amlwg i Jacob 45 oed, sy’n Brif Swyddog Gweithredol Glad Trading, dosbarthwr swyddogol Ifor Williams Trailers yn Nenmarc ers 2010.
“Mi wnes i ddewis y trelar am ei fod yn gadarn ac yn ddibynadwy - y math o ddibynadwyedd y mae Ifor Williams yn enwog amdano - ac mae hynny’n hanfodol bwysig mewn rali mor anodd,” meddai.
Hwn oedd y pedwerydd tro i Jacob a Philip, sydd hefyd yn 45 oed ac sydd wrth ei fodd â ralïau eithafol, gymryd rhan yn y Rali Trawsgyfandirol.
Yn nigwyddiad 2013 mi wnaethon nhw sbarduno eu hunain i’r trydydd safle yn y dosbarth Car, gan ddod yn ail yn Rali 2014 ac ennill y gystadleuaeth yn 2015. Gwelodd eu hymgais ddiweddaraf nhw’n ychwanegu buddugoliaeth yn yr un dosbarth at eu coron gyffredinol.
Mi wnaeth dros 70 o gerbydau 4x4 a baratowyd yn arbennig ar ddwy a phedair olwyn gymryd rhan yn nigwyddiad 2017 gan danio eu ffordd o Almeria yn ne Sbaen ar 23 Ionawr, a chyrraedd Lac Rose, Dakar yn Senegal ar Chwefror 5.
Mae’r digwyddiad oddi ar y ffordd blynyddol wedi ei ddyfeisio yn arbennig fel taith antur ar gyfer modurwyr brwd.
Mae llwybr y rali yn mynd drwy rai o’r tirweddau mwyaf ysblennydd ym Moroco, Mauritania a Senegal, ac yn amrywio o dwyni tywod diddiwedd y Sahara i eangderau diffaith yr anialdiroedd arfordirol, llwybrau creigiog Mynyddoedd yr Atlas, a’r safana isel.
Yn ystod pob cymal o’r rali, roedd y cystadleuwyr yn rasio yn erbyn y cloc ar gwrs oddi ar y ffordd gan ddefnyddio derbynwyr GPS i lywio ac ennill credydau drwy gyrraedd pwyntiau rheoli.
Roedd Jacob yn gafael yn llyw bwystfil gyriant pedair olwyn nerthol y QT Wildcat, sydd â ffrâm a siasi wedi eu haddasu, ac a gafodd ei adeiladu gan gwmni Bowler yn y Deyrnas Unedig.
Yng nghrombil y bwystfil y mae injan betrol Land Rover V8 4.4 litr – a oedd unwaith eto yn ddewis naturiol i Glad Trading, cwmni a ddechreuwyd gan Peer, tad Jacob, dros 40 mlynedd yn ôl ac sy’n dal wedi ei lleoli yn Kalundborg ar ynys Seland, ac sydd hefyd yn un o ganolfannau gwasanaeth swyddogol ar gyfer cwmni Land Rover yn Nenmarc.
Dywedodd Jacob: “Mae gan y Wildcat QT injan sychedig iawn ac mae’n rhaid cael tanc petrol 375 litr sy’n golygu nad oes llawer o le y tu mewn i bob un o’n darnau sbâr a’r cyflenwadau eraill a dyna pam wnaethon ni fynd â threlar Ifor Williams gyda ni hefyd.
"Roedd y trelar yn cael ei dynnu gan Land Rover Discovery 4, sef ein cerbyd wrth gefn, a oedd yn cludo ein tîm cefnogi o bedwar gan gynnwys mecanic a’n dyn camera swyddogol.
“Mae’r trelar yn newydd sbon ac fe’i anfonwyd draw atom o ffatri Gogledd Cymru yng nghanol mis Rhagfyr.
“Ni wnaethon ni dreulio cyfanswm o 60 awr yn gosod addasiadau ar gyfer y rali, gan gynnwys gosod olwyn sbâr, goleuadau tu mewn a’r tu allan yn ogystal â batri a generadur ar gyfer pŵer ychwanegol.
"Mae’r rhain i gyd yn ffitio i mewn yn hwylus gan fod yna cryn dipyn o le yn y trelar, sydd dros saith metr sgwâr o ran gofod."
Dywedodd Jacob: “Mi wnaethon ni osod traciwr GPS hefyd er mwyn i ni allu dod o hyd iddo eto petai rhaid i ni ei adael ar ôl yn y diffeithwch am ba bynnag rheswm ond diolch byth, nid oedd rhaid i ni wneud hynny."
Ychwanegodd: “Aeth y rali gyfan yn dda iawn i ni ac ni ddaeth unrhyw anafiadau nac afiechydon i ran unrhyw aelod o’r tîm.
“Weithiau rydych chi’n mynd yn sâl drwy fwyta’r pethau anghywir ond aethom â’n holl bwyd sych ein hunain gyda ni yn y trelar.
“Perfformiodd y Wildcat yn dda iawn a’r unig broblem wirioneddol a gawsom oedd tân trydanol wrth i ni yrru trwy Anialwch y Sahara ym Mauritania.
"Er ein bod ni wedi gallu ei ddiffodd yn gyflym iawn, toddodd lawer o’r gwifrau a oedd yn agos iawn at y tanc tanwydd.
“Er gwaethaf ein bod yng nghanol y diffeithwch, i wnaethon ni ddod o hyd i bentref bach lle’r oedd rhywun yn gallu ei drwsio cyn i ni fynd ar ein ffordd unwaith eto.”
Dywedodd Jacob ynghyd ag amrywiaeth enfawr o dir, bu rhaid i’r tîm ddelio â rhai newidiadau eithafol yn y tywydd.
Pan ddechreuon nhw ym Moroco, roedd y tymheredd mor isel â minws pedwar gradd ar un cyfnod ym Mynyddoedd yr Atlas a bu rhaid iddynt yrru trwy 20cm o eira.
“Aethom drwy storm dywod yn y Sahara lle na allem weld pum metr o’n blaenau ac yn nes ymlaen yn Senegal, roedd y tymheredd yn ystod y dydd yn 30-35C a oedd yn gwneud y modur yn boeth iawn a’n gorfodi ni i haneru ein cyflymder am ychydig,
“Mi wnaethon ni newid ein dillad o ddillad isaf sgïo i siorts a chrysau T ar hyd y ffordd.
“Ar ddiwedd hyn i gyd, roeddem wrth ein boddau o fod yn fuddugwyr cyffredinol ac enillwyr y dosbarth Car ac roedd hi’n wych cyrraedd Dakar lle’r oedd modd i ni aros mewn gwesty pedair seren a mwynhau gwelyau glân a thoiledau glân am y tro cyntaf mewn pythefnos.
“Rydw i wrth fy modd â’r ffordd y gwnaeth trelar Ifor Williams berfformio ac ymdopi gyda phob math o dir garw.
“Rydym wedi ei gludo nôl i Ddenmarc erbyn hyn ac oherwydd yr holl waith rydym wedi ei wneud i’w addasu ar gyfer y rali, hoffem ei ddefnyddio eto.
“Dydw i ddim yn siŵr a fyddwn ni’n rhoi cynnig ar y gystadleuaeth Trawsgyfandirol eto ac efallai y byddwn yn dechrau chwilio am her arall gyda rali hir arall.
“Mae pobl wedi gofyn pam wnaethon ni ddal ati i wneud y gystadleuaeth Trawsgyfandirol mor bell i ffwrdd o wareiddiad gyda dim ond cawodydd oer a thoiledau gwael iawn ond mae’n antur wych a gallwch ddychmygu pa fath o luniau sy’n aros yn eich cof.”
Dywedodd Andrew Reece-Jones, Rheolwr Peirianneg Dylunio yn Ifor Williams Trailers: “Mae Glad Trading yn ddosbarthwr uchel ei barch, felly roeddem yn falch iawn o glywed bod Jacob wedi dewis trelar BV106-6 i chwarae rhan mor hanfodol yn y rali yma.
“Fel mae’n gwybod o’i brofiad ei hun fel un o ddosbarthwyr Ifor Williams ers blynyddoedd lawer, fod y trelar yma yn un o’n modelau mwyaf poblogaidd sy’n cyfuno bod yn hawdd i’w drin â gwneuthuriad cadarn – ac yn amlwg roedd galw mawr am hynny wrth iddo deithio ar hyd peth o’r tir mwyaf garw ar wyneb y ddaear.
“Rydym wrth ein boddau fod y trelar wedi bod yn gymaint o fantais iddo a helpu ei dîm i fuddugoliaeth yn y digwyddiad hynod hwn.
“Roedd pawb nôl fan hyn yng Ngogledd Cymru y tu ôl i Dîm Glad bob cam o’r ffordd ond roeddem yn gwbl hyderus na fyddai’r trelar yn eu gadael nhw i lawr.”