Mwy o Newyddion

RSS Icon
23 Chwefror 2017

Arian yr UE yn helpu i ymestyn rhaglen ôl-radd mewn gwasanaethau ariannol yng Nghymru

Mae rhaglen ôl-radd sy'n helpu i ddatblygu a chadw gweithwyr ac arweinwyr y dyfodol yn y sector gwasanaethau ariannol yng Nghymru yn cael ei hymestyn am ddwy flynedd arall o ganlyniad i hwb ariannol o £1miliwn gan yr UE.

Bydd y cyllid yn ymestyn Rhaglen Graddedigion Gwasanaethau Ariannol Cymru hyd at 2019 gan gefnogi’r gwaith o ddatblygu gyrfaoedd ar y cyd â rhai o brif gwmnïau gwasanaethau ariannol Cymru fel Admiral, Atradius, GM Financial a Principality.

Mae'r rhaglen yn cynnig lleoliadau gwaith i raddedigion ym meysydd tanysgrifennu, rheoli buddsoddiadau, datblygu cynnyrch a chyfrifo, tra hefyd yn cwblhau gradd Meistr mewn Rheolaeth Gwasanaethau Ariannol sydd wedi'i hariannu'n llawn.

Dywedodd yr Ysgrifennydd Cyllid, Mark Drakeford: "Dyma raglen wych sy'n cryfhau un o'n prif ddiwydiannau gan gadw pobl ifanc uchelgeisiol yng Nghymru a denu unigolion dawnus i'n sector ariannol ar yr un pryd.

"Rwy'n blês iawn bod £1 miliwn arall o arian yr Undeb Ewropeaidd yn cefnogi'r estyniad hwn ac yn helpu i ariannu rhagor o gyfleoedd i bobl ifanc ddatblygu gyrfaoedd llewyrchus a llwyddiannus yma yng Nghymru.

"Dyma achos arall sy'n dangos mor bwysig yw arian yr Undeb Ewropeaidd i Gymru, gan ategu ein cais i gael cyllid yn ei le o goffrau'r Deyrnas Unedig ar ôl 2020 i roi hwb i economi Cymru."

Caiff yr estyniad i'r rhaglen ei ariannu hefyd gan fuddsoddiad gwerth £1.4m gan y cwmnïau o'r diwydiant yng Nghymru a fydd yn cymryd rhan ynddi.

Dywedodd Sandra Busby, Rheolwr Gyfarwyddwr Fforwm Gwasanaethau Cyllid Cymru sy'n arwain y Rhaglen: "Mae Cymru'n cystadlu gyda gweddill y byd am yr unigolion mwyaf addawol ym maes gwasanaethau ariannol a phroffesiynol.

"Yn hyn o beth, mae Rhaglen Graddedigion Gwasanaethau Ariannol Cymru wedi bod yn arf bwysig wrth gadw a denu graddedigion i Gymru, gan roi blas iddyn nhw o sut y gallan nhw greu gyrfa lewyrchus iddyn nhw eu hunain yn y maes.

"Mae graddedigion o Gymru, ac yn wir o bob cwr o'r byd, yn cymryd rhan yn y rhaglen gan elwa ar y profiad sy'n dod o weithio yn y prif sefydliadau tra hefyd yn astudio tuag at radd Meistr MSc mewn Rheolaeth Gwasanaethau Ariannol.

"Byddan nhw wedyn yn mynd yn eu blaenau i gael swyddi parhaol yn y sector yma yng Nghymru.

"Mae hyn yn dystiolaeth sy'n profi bod y cynllun yn gweithio.

"Mae’r penderfyniad hwn i ymestyn y cynllun am ddwy flynedd arall diolch i gyllid pellach gan yr Undeb Ewropeaidd yn gam cadarn a blaengar i economi Cymru."

 

Rhannu |