Mwy o Newyddion

RSS Icon
22 Chwefror 2017

Entrepreneur o Tsieina yn agor dwy siop newydd yng Nghymru

Mae entrepreneur o Tsieina sydd y tu ôl i’r cwmni Flooring REPUBLIC, i agor dwy siop arall yng Nghymru eleni ac yn trafod gyda Llywodraeth Cymru ynghylch sefydlu canolfan weithgynhyrchu a hyfforddi yng Nghymru o bosibl.  

Mae’r newyddion a gyhoeddwyd heddiw yn Tsieina yn dilyn cyfarfod yn Shanghai rhwng Ysgrifennydd yr Economi Ken Skates a Bobby Zhou, Prif Swyddog Gweithredol Anbo Holdings, busnes cyfanwerthu a manwerthu sy’n arbenigo mewn lloriau pren soled ac artiffisial.  

Yn y DU mae’r cwmni’n gweithredu o dan y brand manwerthu Flooring REPUBLIC sydd â chwech o siopau yn ne Cymru eisoes ac sy’n cyflogi ugain o bobl. 

Bydd y siop newydd ym Mhen-y-Bont a’r llall o bosib yng ngogledd Cymru. 

Meddai Ken Skates, sy’n arwain y daith fasnach i Tsieina i gryfhau ymhellach y cysylltiadau masnach ac allforio rhwng y ddwy wlad: “Mae Anbo, a sefydlwyd yn y DU ddeng mlynedd yn ôl gan yr entrepreneur Bobby Zhou, yn llwyddiant mawr. 

"Ers y dechrau, mae’r busnes wedi ffynnu ac wedi gweld cynnydd o 15% ar gyfartaledd mewn trosiant, a rhagwelir y bydd trosiant o £16 miliwn eleni.

“Mae Llywodraeth Cymru wedi cydweithio’n agos ag Anbo Holdings yn Tsieina ac yng Nghymru ac mae’r cymorth hwn wedi helpu’r busnes i ehangu a chynyddu ei ôl troed yng Nghymru.

"Roeddwn yn arbennig o falch o glywed bod eu siopau yng Nghymru ymysg y rhai mwyaf poblogaidd yn y DU, o ganlyniad i waith caled a brwdfrydedd ei staff.

“Mae’r newyddion, a gafodd ei gadarnhau heddiw, bod dwy siop newydd arall i agor yng Nghymru yn newyddion rhagorol, tra bo’r trafodaethau ar y gweill ar y posibilrwydd y bydd Flooring REPUBLIC yn agor canolfan weithgynhyrchu a hyfforddi newydd yng Nghymru.”

Meddai Bobby Zhou: “Mae ein siopau yng Nghymru ymysg y rhai mwyaf llwyddiannus ledled y wlad, ac rydym wedi gwerthu llawer mwy na’r disgwyl yng Nghymru.

“Gwnaethom benderfyniad i ehangu yng Nghymru oherwydd y seilwaith gwych, staff gweithgar a’r croeso cynnes.

"Mae’r byd busnes yma wedi creu argraff arnom, pa mor rhwydd yw gwneud pethau, ac yn fwy na dim fod ein pobl yma yng Nghymru yn gweithio’n galed ac yn deall ein hawydd i ofalu am y cwsmer – sy’n ganolog i frand Flooring Republic.

“Mae Llywodraeth Cymru wedi helpu llawer drwy ddod o hyd i safleoedd addas ac wedi rhoi cyngor ar ardaloedd i ehangu.

"Un o’n prif feysydd datblygu yw cyflwyno cynllun prentisiaeth sy’n cael ei drafod ar hyn o bryd gyda Llywodraeth Cymru.”  

 

Rhannu |