Mwy o Newyddion

RSS Icon
22 Chwefror 2017

Côr chwedlonol yn cyflwyno Cyngerdd Gŵyl Ddewi ym mhrif ddinas corawl y byd

Bydd canolfan glodforir fel prif ddinas canu corawl y byd yn cyflwyno Cyngerdd Gŵyl Ddewi syfrdanol yn amlygu côr byd-enwog Côr Meibion y Rhos.

Cynhelir y cyngerdd yn theatr y Stiwt, adeiladwyd yn Rhosllannnerchrugog ger Wrecsam yn y 1920au diolch i ymdrechion glew glöwyr pentref mwyaf Cymru.

Y Stiwt yw cartref y côr chwedlonol ddathlodd ei benblwydd yn 125 llynnedd. Mae’r côr yn hŷn hyd yn oed na’r Ganolfan oedd yn 90 oed yn 2016.

Daeth y Stiwt yn eicon celfyddydol ers ei achub rhag ei ddymchwel yn 1999 diolch i’r farn boblogaidd.

Daeth y theatr i fod yn gartref i dri o’r chwech côr o’r radd uchaf sy’n hannu o’r pentref, gan gynnwys Côr Meibion y Rhos fydd yn serennu yn y cyngerdd i ddathlu ddydd Nawdd Sant Cymru ar nos Wener Mawrth 3ydd.

Dywedodd Geraint Phillips, ysgrifennydd y Côr: “Bydd côr enwog y Sireniaid hefyd yn rhannu’r llwyfan ynghyd â nifer o sêr Côr Ieuenctid Sir Wrecsam.

“Rydym wedi trefnu cyngerdd i ddathlu Gwyl Ddewi ers sawl blwyddyn bellach a chan mai yma rydym yn ymarfer yn wythnosol rydym yn ei gynnal yn y Stiwt sy’n ganolfan atmosfferaidd.

“Wrth gwrs, nid ni yw’r unig gôr i ymgartrefu yn y Stiwt. Mae chwech côr yn y cyffiniau gan gynnwys tri chôr meibion, dau gôr cymysg ac un côr marched.

"Mae hanner y corau yn ymarfer yn y Stiwt ac felly gellir hawlio mai dyma ganolfan canu corawl y byd!

“Mae traddodiad cryf o ganu corawl yn y Rhos, diolch i dreftadaeth glofaol a chapeli’r ardal.”

Cychwynwyd y côr yn 1891, ac mae hanes yn adnabyddus i ychydig o’r aelodau ei bod yn arferiad gan y glowyr i ganu ar diwedd shift wrth esgyn yn y gaets. Roedd y sain cyfoethog i’w glywed yn codi o berfeddion y ddaear a gwae unrhyw un feiddio agor y giat cyn iddynt orffen.

Mae’r agosrwydd yna wedi creu côr arswydus mewn cystadleuthau ac ychwanegodd Geraint: “Mae’r côr bellach wedi ennill canmoliaeth  cenedlaethol a byd eang.

"Enillwyd y wobr gyntaf yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru sawl gwaith ac hefyd yn Eisteddfod Rhyngwladol Llangollen.

"Maent wedi ennill cystadleuaeth Côr Radio’r BBC ddwy waith ac wedi llwyddo yng Ngwyl Gorawl Cymreig HTV a’r wobr aur am y côr gorau yng ngwyl Gerdd Glamer, Swisdir wedi iddynt guro 112 côr arall.

"Rydym yn edrych ymlaen at gyngerdd Gŵyl Ddewi yn y Stiwt gan mai dyma’r cyngerdd mwyaf lleol rydym yn ei gynnal.

"Yn ôl yr arfer bydd naws Gymreig gadarn  i’r rhaglen dan faton ein harweinydd James Llywelyn Jones.

Dywedodd Gareth Lloyd, aelod o Fwrdd y Stiwt: “Mae’r traddodiad cerddorol yma yn y Rhos yn rhyfeddol a dwi’n amau oes unrhyw le arall yn y byd sydd a chymaint o dalent.

"Y cartref ysbrydol yw’r Stiwt adeiladwyd gan y glowyr yn n union fel y traddodiad corawl. Mae wedi goresgyn diwedd y diwidiant glofaol ac yn gryfed ac erioed.

"Y rhwymun cymunedol hwn sy’n cynnal y Stiwt ac rydym yn ran hanfodol o’r gymuned gyda rhaglen gyffroes ac amrywiol a gweithgaredddau wythnosol.“

Maent yn amrywio o ddawns I gadw’n heini ac ystod o raglenni addysgol I oedolion ynghyd â chlwb ffilmiau a gweithgareddau a fferformiadau yn amrywio o ddrama Ii wreslo.

Yn ymddangos fel gwesteion y Côr fydd côr enwog y Seieniaid ffurfiwyd yn 1990 gan yr arweinydd nodedig Jean Stanley Jones, sy’n enog am eu sain unigryw ac am hybu cerddoriaeth Gymraeg cyfoes.

Maent yn enillwyr Prydeinig a rhyngwladol ac wedi ennill mewn cystadlaethau corawl yn Budapest, Cork, Riva del, Elgar Festival, Worcester, a Chôr y Corau Newcastle-upon-Tyne, Freckleton a Peterborough.

Yn 2011 sgubwyd pawb a phopeth o’u blaen yng Ngŵyl Goral Gogledd Iwerddon gan ennill pedair gwobr gyntaf a’r wobr arobryn a Côr y Corau.

 Gartref cawsont lwyddiant yn Eisteddfod Genedlaethol Aberteifi ac maent wedi ennill cystadleuaeth Corau Cymysg Llangollen ddwy waith a hwy oedd y côr cyntaf o Gymru i ennill Tlws Côr y Byd. Mae’r Seireniaid wedi canu  yn y DU ac yn Ewrop gyda Lesley Garrett, Sir Bryn Terfel, Rebecca Evans, Dennis O’Neill, Catrin Finch a Philip Madoc.

Mae’r Stiwt yn gartref I theatr 490 sedd gyda bwa proseniwm tri man hyblyg ar gyfer gweithgareddau amrywiol.  Agorwyd ar 25ain Medi 1926 ac fe’I ail-agorwyd  yn dilyn ei ail wampio yn 1999.  Llynedd dathlwyd penblwydd y theatr yn 90 oed. Mae’r Stiwt yn elusen cofrestredig wedi ei gynnal gan Ymddiriedolaeth Gelfyddydol y Stiwt.

Bydd  y Cyngerdd Gwyl Ddewi yn cychwyn am 7 o‘r gloch. Mae tocynnau ar werth am £10, myfyrwyr £5 I rchebu tocynnau neu am fwy o wybodaeth cysylltwch à’r Stiwt ar 01978 841300 neu ewch i http://www.stiwt.com

Llun: Gareth Lloyd

Rhannu |