Mwy o Newyddion

RSS Icon
21 Chwefror 2017

50% o fuddsoddiad ychwanegol i raglenni i Gymru gan y BBC

Mae’r BBC i gynyddu’r buddsoddiad mewn rhaglenni Saesneg i Gymru o 50% wrth i BBC Cymru weld yr ehangu mwyaf o ran cynnwys teledu mewn cenhedlaeth.

Dywed y BBC heddiw y bydd yr £8.5m y flwyddyn o gyllid newydd yn golygu newid sylweddol ar draws ystod eang o genres – gan gynnwys comedi, adloniant, drama, ffeithiol a diwylliant – ac yn galluogi BBC Cymru i ddenu cynulleidfaoedd iau a datblygu eu gwasanaethau newyddion ar-lein a symudol.

Fel rhan o’r cynlluniau, mae disgwyl i fuddsoddiad mewn rhaglenni teledu Saesneg gyrraedd bron i £30m y flwyddyn erbyn 2019/20. A bydd ‘sianel’ newydd iPlayer BBC Cymru yn cael ei lansio gan gynyddu amlygrwydd rhaglenni i gynulleidfaoedd yng Nghymru.

Dywed Cyfarwyddwr Cyffredinol y BBC Tony Hall: “Rwy’n falch iawn o gyhoeddi’r cynnydd sylweddol hwn yng nghyllid teledu i Gymru. Mae gan BBC Cymru enw da am greadigrwydd ac rwy’n gwybod y byddant yn achub ar y cyfle newydd hwn gydag arddeliad.

“Rwy’n credu y bydd y buddsoddiad yma’n gwbl drawsnewidiol.

"Mewn meysydd megis drama, comedi ac adloniant, rydym yn disgwyl dyblu’r buddsoddiad.

"Ym maes newyddion a materion cyfoes, bydd o gymorth i ni symud yn gynt ar-lein a denu cynulleidfaoedd iau, a darparu mwy o adroddiadau arbenigol ar draws ein cynnwys.

“Mae’n holl bwysig bod y BBC yn portreadu'r bywyd a’r profiad Cymreig yn ei holl amrywiaeth, ac mae’r buddsoddiad yma’n ddatganiad clir o’n bwriad a’n huchelgais i wasanaethu holl gynulleidfaoedd Cymru."

Mae disgwyl i’r buddsoddiad newydd:

  • Gyflwyno mwy na 130 awr o raglenni ychwanegol bob blwyddyn ar draws BBC One Wales, BBC Two Wales a BBC iPlayer
  •  Cynhyrchu buddsoddiad o o leiaf £5m ychwanegol fydd i’w weld ar y sgrin drwy gytundebau cyd-gynhyrchu gyda darlledwyr a chynhyrchwyr eraill
  •  Darparu ystod lawn o raglenni i hysbysu, addysgu ac adlonni – gan gynnwys comedi, drama ac adloniant ychwanegol
  • Cefnogi sianel newydd BBC Cymru ar yr iPlayer – gan gynnig cartref newydd i raglenni Cymreig ar draws pob dyfais ac ym mhob rhan o’r DU
  •  Hybu portread a sylw i Gymru ar sianeli rhwydwaith y BBC – gyda’r nod y dylai o leiaf hanner y rhaglenni ychwanegol gael eu darlledu ar sianeli rhwydwaith y BBC yn DU
  • Rhoi hwb ariannol i’r sector cynhyrchu yng Nghymru gyda’r holl gyllid teledu newydd yn agored i gystadleuaeth lawn

Dywed Cyfarwyddwr BBC Cymru Rhodri Talfan Davies: “Mae’r buddsoddiad yma i’w groesawu’n fawr.

"Mae Cymru yn wlad sydd wedi ei bendithio â storïwyr o fri, ac fe fydd y buddsoddiad yma yn rhoi llwyfan haeddiannol a chenedlaethol iddynt.

"Erbyn i ni gyrraedd ein cartref newydd yn y Sgwâr Canolog, mewn llai na thair blynedd, dwi’n credu y bydd y gwahaniaeth ar ein sgrin yn glir i’n cynulleidfaoedd ar hyd a lled Cymru.

“Bydd y buddsoddiad newydd yma hefyd yn ein galluogi i ddenu cyllid ychwanegol drwy gyd-gynhyrchu, gan ddefnyddio’r modelau cydweithio yr ydym wedi eu datblygu gydag S4C ac eraill i ariannu cyfresi megis Hinterland.”

Mae’r buddsoddiad yma’n dilyn ymrwymiad personol gan Gyfarwyddwr Cyffredinol y BBC i gryfhau’r amrywiaeth o raglenni teledu sy’n cael eu darparu gan BBC Cymru, yn dilyn pryderon am y dirywiad mewn buddsoddi dros y deng mlynedd diwethaf.

Mae disgwyl i’r cyllid newydd wneud gwahaniaeth yn syth, wrth i ddwy ddrama newydd gael eu cyhoeddi dros y dyddiau nesaf.

Bydd y buddsoddiad hefyd yn hwb i’r gwasanaethau newyddion i Gymru, gyda chynlluniau i ehangu adroddiadau arbenigol yn ogystal â gwasanaethau ar lein a symudol. Cyhoeddir manylion y cynlluniau yma yn y Gwanwyn.

Mae’r BBC hefyd wedi cadarnhau heddiw y bydd yn cymryd camau sylweddol ychwanegol – yn ogystal â’r buddsoddiad o £8.5m – i wella sut mae Cymru yn cael ei phortreadu ar draws sianeli rhwydwaith y BBC.

Mae’r rhain yn cynnwys:

  • Penodi comisiynydd drama teledu i Gymru
  • Cyflwyno tîm Writersroom y BBC i Gymru i gefnogi datblygiad sgriptwyr drama a chomedi
  • Cyflwyno cronfa bortreadu gwerth £2m i gefnogi datblygiad rhaglenni ffeithiol, drama a chomedi i sicrhau ein bod yn adlewyrchu’r cenhedloedd datganoledig yn well
  • Cyflwyno amcanion portreadu ar y sgrin i dimau cynhyrchu rhwydwaith gan gynnwys timau drama, ffeithiol a chomedi
  • Ymrwymiad parhaus i gynhyrchu o leiaf 5% o raglenni rhwydwaith o Gymru – targed sydd wedi ei churo yn gyson dros yr wyth mlynedd diwethaf diolch i lwyddiant BBC Cymru a chynhyrchwyr annibynnol i’r rhwydwaith. Yn 2015/16, roedd y buddsoddiad yma’n werth £61.7m
  •  Ymrwymiad i weithio mewn partneriaeth gyda chorff arfaethedig Llywodraeth Cymru, Cymru Creadigol i gefnogi datblygiad y diwydiannau creadigol ar draws Cymru
Rhannu |