Mwy o Newyddion
Tair arwres llên gyfoes i arwain Parêd Dewi Sant yng Nghaerfyrddin
Mae cynnwrf yng Nghaerfyrddin wrth baratoi ar gyfer Parêd Dewi Sant ddydd Sadwrn yma (Chwefror 25).
Dyn lleol ac un o arwyr mawr y byd rygbi, Delme Thomas, oedd Tywysydd y parêd y llynedd - y tro cyntaf i'r fath achlysur gael ei gynnal yn nhre hynaf Cymru i ddathlu ein Cymreictod a gŵyl ein nawddsant.
Bu’n llwyddiant ysgubol. Mae disgwyl gorymdaith mwy fyth ddydd Sadwrn, gyda channoedd o faneri, dau gôr a dau fand.
Eleni, bydd tri o Dywysyddion. Cydnabod cyfraniad aruthrol merched lleol o wahanol genedlaethau (fwy neu lai!) i lenyddiaeth gyfoes yw’r bwriad. Mae’r tair yn adnabyddus trwy Gymru.
Mae Fflur Dafydd wedi ennill y Fedal Ryddiaith, Gwobr Goffa Daniel Owen, gwobr Gŵyl y Gelli (yn Saesneg) ac yn Gymrawd Rhyngwladol yr ŵyl. Hi hefyd yw awdur sgript y rhaglen deledu ‘Parch’ a ffilm Y Llyfrgell, a ddyfarnwyd yn ffilm a pherfformiad gorau Gŵyl Caeredin, ac sydd nawr yn teithio’r byd.
Mae Mererid Hopwood wedi ennill tair o brif wobrau’r Eisteddfod Genedlaethol - y Gadair, y Goron a’r Fedal Ryddiaith. Hefyd, Medal Glyndŵr am gyfraniad i lên Cymru a Llyfr y Flwyddyn am farddoniaeth 2016. Bu’n Fardd Plant Cymru yn 2005, a hi luniodd y geiriau i waith Karl Jenkins i gofio trychineb Aberfan, a berfformiwyd yn Carnegie Hall yn gynharach y mis yma.
Mae Nan Lewis wedi ennill y Fedal Ryddiaith, ac yn ddramodydd sydd wedi cynhyrchu a chyfarwyddo Sioeau Cerdd cofiadwy a hynod boblogaidd ar themâu Beiblaidd sydd wedi llenwi’r theatrau mwyaf yn Sir Gâr drosodd a throsodd.
Bydd y parêd yn gychwyn wythnos o weithgarwch yng Nghaerfyrddin i ddathlu gŵyl ein nawddsant. Wythnos Gymraeg Caerfyrddin: http://www.darganfodsirgar.com/cymraeg/be-sy-mlaen/index.html
Llun: Mererid Hopwood, Nan Lewis a Fflur Dafydd