Mwy o Newyddion

RSS Icon
21 Chwefror 2017

Galw am strategaeth i greu cysylltiadau â’r diaspora Cymreig

MAE grŵp trawsbleidiol o Aelodau Cynulliad yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddatblygu strategaeth glir i gysylltu â’r diaspora Cymreig.

Mae grŵp trawsbleidiol Cymru Rhyngwladol yn dymuno gweld camau pellach i gysylltu Cymru â chymunedau ac unigolion dramor sydd naill ai â gwreiddiau yng Nghymru neu gysylltiadau â Chymru, er mwyn creu rhwydwaith byd-eang i hyrwyddo Cymru ar lefel economaidd a diwylliannol.

Yn ôl cadeirydd y grŵp, Rhun ap Iorwerth AC: “Fel cenedl, nid ydym wedi bod yn ddigon strategol nac yn ddigon penderfynol i fanteisio ar y diaspora Cymreig.

“Yn ogystal â chreu cysylltiadau â’r rheini sydd â’u gwreiddiau yng Nghymru, fe ddylem fod yn gwneud mwy i fanteisio ar ewyllys da amrywiaeth eang o bobl dramor, fel cyn-fyfyrwyr prifysgolion Cymru a busnesau sydd wedi gweithio â chwmnïau o Gymru, neu’r rheini sy’n ymddiddori yn niwylliant Cymru.

“Byddaf yn ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith i holi sut y mae’r Llywodraeth yn bwriadu datblygu strategaeth i Gymru er mwyn creu cysylltiadau rhyngwladol.”

Trafododd y grŵp y gwaith rhagweithiol y mae llywodraethau Iwerddon a’r Alban yn ei wneud i greu cysylltiadau â’u diaspora hwythau ledled y byd.

Meddai Jenny Scott, cyfarwyddwr British Council Cymru, sy’n darparu cefnogaeth i’r grŵp trawsbleidiol: “Gall Cymru ddefnyddio’i harbenigedd a’i chysylltiadau sydd wedi’u creu drwy addysg, y celfyddydau a chwaraeon i feithrin ei phŵer meddal ledled y byd, a gall ei diaspora chwarae rhan bwysig yn y gwaith o adeiladu cysylltiadau rhyngwladol.”

Ffurfiwyd grŵp trawsbleidiol Cymru Rhyngwladol er mwyn helpu i ddatblygu syniadau ar hyrwyddo Cymru a chysylltiadau rhyngwladol y Cynulliad.

Cynhaliwyd cyfarfod diwethaf y grŵp ar 14 Chwefror.

Llun: Rhun ap Iorwerth AC

Rhannu |